Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn dilyn y digwyddiadau diweddar ym Mae Caerdydd, dywedodd yr Uwch-arolygydd Marc Attwell: “Wrth i gyfyngiadau gael eu llacio, mae'n hollbwysig bod pawb yn cymryd cyfrifoldeb personol, ac mae'n siomedig iawn bod lleiafrif bach yn barod i beryglu eu hunain, ac eraill.
“Mae Bae Caerdydd yn arbennig wedi denu torfeydd mawr dros y dyddiau diwethaf. Mae'r ymddygiad a welwyd dros y tridiau diwethaf wedi rhoi pwysau ychwanegol ar yr heddlu a'r awdurdod lleol, ac wedi golygu bod swyddogion wedi gorfod cael eu tynnu o rannau eraill o'r heddlu. Yn ymarferol, mae plismona digwyddiadau mawr o'r fath yn anodd iawn, ac mae gennym alwadau brys i ymateb iddynt o hyd.
"Mae gorchymyn gwasgaru Adran 35 bellach ar waith ym Mae Caerdydd, sy'n rhoi'r pŵer i swyddogion a swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu wahardd unigolyn o'r ardal. Rydym yn gofyn i grwpiau o chwech neu fwy sy'n ystyried cwrdd wrth y Senedd dros benwythnos Gŵyl y Banc beidio â gwneud hynny.
“Cafodd tri unigolyn eu harestio neithiwr. Cafodd dyn 20 oed ei arestio am drosedd trefn gyhoeddus, cafodd menyw 22 oed ei harestio am ymddygiad meddwol a oedd yn peri anhrefn ac am gael sylwedd Dosbarth A yn ei meddiant, a chafodd dyn 35 oed hefyd ei arestio am gael sylwedd Dosbarth A yn ei feddiant.
"Bydd ein swyddogion allan ar batrôl o amgylch Bae Caerdydd dros benwythnos Gŵyl y Banc. Byddem yn annog pobl i fod yn synhwyrol ac i gadw at y rheolau – nid ydym am i neb gael dirwy na chael ei arestio am drosedd trefn gyhoeddus.
"Gan fod llawer o gyfyngiadau wedi cael eu llacio erbyn hyn, mae'n rhaid i bawb gymryd cyfrifoldeb personol er mwyn atal trydedd don o'r haint. Mae angen i bawb fod yn synhwyrol, gan gadw pellter cymdeithasol ac osgoi peryglu ein hunain ac eraill yn ddiangen.”