Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
21:52 14/04/2021
Cafodd y stori hon ei diweddaru ar 3 Mehefin 2021 i ddileu enwau'r unigolion nad yw'r heddlu ar eu holau mwyach.
Mae ditectifs sy'n ymchwilio i lofruddiaeth Tomasz Waga yng Nghaerdydd wedi rhyddhau ffotograff o gar y mae angen iddynt ddod o hyd iddo ar fyrder.
Daeth aelod o'r cyhoedd o hyd i gorff Tomasz am tua 11.30pm nos Iau 28 Ionawr ar Westville Road, Pen-y-lan. Roedd wedi dioddef ymosodiad parhaus.
Mae dau ddyn eisoes wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad â'i farwolaeth ac yn cael eu cadw yn y ddalfa yn aros am achos llys.
Atafaelwyd nifer o gerbydau fel rhan o'r ymchwiliad, ond mae'r ymchwiliad bellach yn canolbwyntio ar Mercedes C200 Sport arian/llwyd, rhif cofrestru BK09 RBX.
Gwelwyd y Mercedes yng Nghaerdydd ar ddiwrnod y llofruddiaeth ond ni chafodd ei weld ers hynny. Gallai gynnwys tystiolaeth hanfodol a helpu i arwain swyddogion i'r unigolion dan amheuaeth nad ydynt wedi cael eu dal eto.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Mark O'Shea o Heddlu De Cymru, yr Uwch Swyddog Ymchwilio:
"Rydym yn awyddus iawn i glywed gan unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am y Mercedes C200 arian hwn a welir yma ar ddeunydd fideo teledu cylch cyfyng yn ardal Cathays, Caerdydd.
"Hoffem wybod ble mae wedi bod ers 28 Ionawr a ble y mae nawr. Mae'n bosibl iddo gael ei werthu, ei glonio ar rifau cofrestru gwahanol neu ei losgi yn rhywle hyd yn oed.
"Anogir unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru neu Taclo'r Tacle yn ddienw.
“Roedd Tomasz yn fab, yn frawd, yn dad ac yn bartner hoffus, ac mae ei deulu yn parhau i gael y wybodaeth ddiweddaraf a'u cefnogi gan swyddogion cyswllt â theuluoedd.”
Mae perchennog cofrestredig blaenorol y cerbyd yn byw yn ardal y Tyllgoed yng Nghaerdydd, ac nid yw'n gysylltiedig â'r ymchwiliad hwn o gwbl.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 101 neu ddarparu gwybodaeth ar-lein drwy'r Porth Cyhoeddus Ymchwiliadau Mawr: https://mipp.police.uk/operation/62SWP21B26-PO1