Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
16:05 15/04/2021
Mae gŵr eiddigeddus a oedd wedi cyflawni ymgyrch o aflonyddu a rheoli yn erbyn ei wraig ers bron i ddegawd wedi cael ei garcharu.
Cafodd Jonathan Wignall, 54, ei ddedfrydu i dair blynedd o garchar yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mercher, ar ôl iddo bledio’n euog i achos o reolaeth drwy orfodaeth a stelcio eisoes.
Clywodd y llys fod Wignall yn rheoli gwahanol agweddau ar fywyd ei wraig; ei herlid â galwadau ac ymweliadau dirybudd yn y gwaith, yn gwrthod gadael iddi fynd i leoedd hebddo, yn mynd gyda hi i apwyntiadau meddyg teulu ac ar ôl iddi fagu digon o ddewrder i'w adael, gosododd ddyfais olrhain ar ei char.
Cafodd fynediad i'w ffôn hefyd gyda'i hôl bys wrth iddi gysgu a'i chyhuddo dro ar ôl tro o fod yn anffyddlon.
Roedd Wignall hefyd yn rheoli cyllid y teulu, gan beidio â sôn wrth ei wraig am y dyledion enfawr a oedd yn pentyrru ac, o ganlyniad, cafodd ei throi allan o gartref y teulu ar ôl iddo gael ei arestio.
Pan gafodd ei arestio ym mis Rhagfyr 2019, ymatebodd Wingal gan ddweud: “Aflonyddu? Ond mae'n wraig i mi.”
Wrth annerch y llys, dywedodd ei gyn-wraig fod ei ymddygiad wedi effeithio ar ei hyder, ei hiechyd ac wedi peri iddi fod yn wyliadwrus am flynyddoedd lawer yn ystod eu priodas.
Wrth ei ddedfrydu i dair blynedd yn y carchar, dywedodd y Barnwr Daniel Williams wrth Wignall ei fod yn “ffantasïwr ag ego bregus” a’i fod yn “amlwg nad ydych yn teimlo edifeirwch.
Wrth siarad ar ôl yr achos, dywedodd Ditectif Gwnstabl Gillon Neal, swyddog yn yr achos:
“Gwnaeth Jonathan Wignall beri cymaint o ddiflastod i'w wraig, gan reoli'r rhan fwyaf o agweddau ar ei bywyd a pheri iddi deimlo'n ddiamddiffyn, llawn cywilydd ac yn ofni am ei diogelwch.
“Mae ei ddatganiad wrth gael ei arestio yn dangos y meddylfryd roedd ganddo – bod ei wraig yn eiddo iddo ei rheoli a chamfanteisio arni fel y gwelodd yn briodol.
“Dangosodd ei ddioddefwr ddewrder aruthrol wrth roi gwybod amdano i'r heddlu, cefnogi'r erlyniad a'i wynebu yn y llys, a gobeithio bod ei gollfarn a'i ddedfrydu yn rhoi rhywfaint o gysur iddi ac yn ei galluogi i ddechrau ailadeiladu ei bywyd.
“Mae rheolaeth drwy orfodaeth fel arfer yn datblygu dros amser, a gobeithio y bydd y gollfarn hon hefyd yn help pobl eraill sy'n dioddef y math hwn o gam-drin ofnadwy i adnabod yr arwyddion ac yn rhoi sicrwydd iddynt y caiff pob achos y rhoddwyd gwybod amdano ei gymryd o ddifrif ac y caiff dioddefwyr eu cefnogi'n llawn.”