Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
09:37 20/04/2021
Ar yr 22ain o Fehefin, 2019 roedd beiciwr yn reidio ei feic ar hyd yr A4061, Bwlch Road i Donypandy pan basiodd Beic Modur Suzuki GSXR 750 y beiciwr yn agos. Roedd y beic modur yn amlwg yn teithio ar gyflymder uchel ac yn teithio ar un olwyn gefn ar hyd y ffordd. Cafodd y digwyddiad peryglus hwn ei recordio ar gamera wedi'i gysylltu â'r beic ac fe'i cyflwynwyd wedyn gan y beiciwr i Weithrediad SNAP.
Mae pob cyflwyniad i Weithrediad SNAP gan aelod o'r cyhoedd yn cael ei archwilio a'i ymchwilio gan un o'n swyddogion ymroddedig. Penderfynodd y swyddog a adolygodd y cyflwyniad hwn fod y dull o yrru yn llawer is na'r hyn a ddisgwylir gan feiciwr modur gofalus a chymwys a phenderfynodd erlyn y beiciwr modur.
Ceidwad cofrestredig y beic modur oedd Mr. Daniel Allegretto o Fro Ogwr a gwnaethom anfon Hysbysiad o Fwriad i Erlyn ato. Dychwelodd Mr. Allegretto y dogfennau, gan enwi unigolyn o ardal Merthyr fel y beiciwr modur ar adeg y digwyddiad.
Danfonwyd Hysbysiad i'r person enwebedig ag ymatebodd drwy nodi mae nid nhw oedd y beiciwr modur adeg y digwyddiad gan ddatgelu gwybodaeth eu bod allan o'r wlad ar wyliau teuluol ar adeg y digwyddiad.
Rhoddodd y Swyddfa Docynnau Ganolog (CTO) y wybodaeth ym ger bron Mr. Allegretto, a gynhyrchodd ddogfennau ffug mewn ymateb, gan ddweud ei fod wedi gwerthu'r beic modur ar y bore cyn y digwyddiad.
Yn dilyn ymateb Mr. Allegretto yn gwadu mae ef oedd y beiciwr modur, penderfynnodd Rhingyll 3325 Pearce, Swyddog Ymholiadau gyda GanBwyll sy'n rhedeg Gweithrediad SNAP, fynd ati i agor ymchwiliad i'r amgylchiadau yn gysylltiedig â'r drosedd, a'r drosedd ddilynol o Wyrdroi Cwrs Cyfiawnder.
Nododd ymchwiliad hirfaith dystiolaeth na werthwyd y Beic modur ar y pryd fel a nodwyd gan Allegretto.
Aeth y mater ymlaen i achos ger bron Llys y Goron Caerdydd ym mis Mawrth 2021 ac ar y 12fed o Fawrth daeth y Rheithgor o hyd i Mr Allegretto yn unfrydol euog o Wyrdroi'r Cwrs Cyfiawnder.
Cafodd ei ddedfrydu i chwe mis o garchar a rhoddodd ddirwy o £1,100.
Dywedodd Teresa Ciano, Rheolwr Partneriaeth GanBwyll:
"Mae'r gwaith rhagorol a ddangoswyd gan Rhingyll Pearce yn dangos y canlyniad difrifol i bobl sy'n mynd i drafferth er mwyn osgoi cael troseddau moduro wedi'u cofrestru yn eu henwau.
Mae'r ddedfryd yn adlewyrchu difrifoldeb y drosedd ac yn amlygu'r risg yn agwedd y troseddwr tuag at yrru'n ddiofal ac yn beryglus, sy'n ffactor mewn gwrthdrawiadau difrifol ac angheuol ar ein ffyrdd.
Yn GanBwyll, mae gennym dîm ymroddedig o 10 swyddog ymholiad a nifer o staff cymorth ledled Cymru sy'n benderfynol o ymchwilio i'r achosion hyn a dod â throseddwyr i gyfiawnder."
Dywedodd Prif Arolygydd Gweithrediadau Arbenigol Heddlu De Cymru, Helen Coulthard:
"Rwy'n gobeithio y bydd y gollfarn hon yn cyfleu neges glir i fodurwyr, gan hefyd roi rhywfaint o sicrwydd i ddefnyddwyr ffyrdd sy'n agored i niwed fel beicwyr a marchogion.
Rhaid i bob defnyddiwr ffordd weithredu yn unol â chyfreithiau traffig ffyrdd bob amser.
Byddwn yn annog aelodau o'r cyhoedd i gyflwyno fideos i Ymgyrch Snap drwy'r cyfleuster ar-lein, pe baent yn gweld modurwyr yn cyflawni troseddau neu'n gweithredu mewn modd sy'n peryglu eraill. Fel y dengys yr achos hwn, ymchwilir yn drylwyr i adroddiadau o'r fath."