Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
16:18 17/03/2021
Ymgais i ladrata oddi wrth berchennog cŵn: Y diweddaraf am yr ymchwiliad
Mae ditectifs sy'n ymchwilio i ymgais i ladrata oddi wrth berchennog cŵn ym Mhentwyn, Caerdydd, wedi rhyddhau lluniau 'e-ffit' o dri unigolyn dan amheuaeth.
Digwyddodd yr ymgais amser cinio ddydd Iau, 25 Chwefror ar y llwybr coediog rhwng Rhodfa'r Dwyrain ac Afon Tredelerch ger Pentwyn.
Roedd dyn 30 oed yn mynd â'i ddau gi am dro ger Afon Tredelerch pan geisiodd tri dyn – un ohonynt â chyllell – ddwyn ei Labrador wyth mlwydd oed.
Gwnaeth wrthsefyll yr unigolion dan amheuaeth – torrodd fag baw ci roedd yn ei gario a ffrwydrodd ei gynnwys dros un o'r dynion a ffodd bob un ohonynt yn waglaw.
Stopiodd aelod o'r cyhoedd i helpu a chysylltodd â Heddlu De Cymru.
Mae'r dioddefwr, a gafodd anafiadau i'w wyneb a chyfergyd, yn gwella'n dda gartref gyda'i ddau gi sydd hefyd yn ddiogel ac yn iach.
Dywedodd Ditectif Gwnstabl Kirsty Matthews: “Roedd y dioddefwr yn ddewr iawn ac mae'n ffodus na chafodd ei anafu'n fwy difrifol wrth iddo wneud popeth o fewn ei allu i atal y dynion rhag mynd â'i gi.
“Rydym yn gwerthfawrogi bod y digwyddiad hwn wedi peri llawer o bryder yn lleol, ar y cyfryngau cymdeithasol, ac yn sicr pob perchennog ci.
“Digwyddiad unigol yw hwn ac mae ymholiadau helaeth yn cael eu cynnal i adnabod rhai sy'n gyfrifol a'u harestio.”
Mae Heddlu De Cymru yn ymwybodol o nifer o bostiadau yn ymwneud ag achosion o ddwyn cŵn, gan gynnwys achosion o gerbydau'n cael eu defnyddio mewn ffordd amheus, i'w gweld ar y cyfryngau cymdeithasol.
Gwyddom y gall postiadau o'r fath beri pryder, ond gallwn sicrhau perchenogion cŵn mai dim ond nifer bach iawn o achosion o gŵn yn cael eu dwyn y mae Heddlu De Cymru wedi cael gwybod amdanynt.
Os byddwch yn adnabod yr unigolion dan amheuaeth o'r lluniau 'e-ffit', neu os bydd gennych unrhyw wybodaeth am y digwyddiad hwn, cysylltwch â ni gan ddyfynnu rhif digwyddiad *066613.
Ewch i: https://bit.ly/SWPReportOnline
Anfonwch neges breifat atom ar Facebook/Twitter
Drwy e-bost: [email protected]
Ffôn: 101
Mewn argyfwng, deialwch 999 bob amser.