Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:59 25/03/2021
Ddydd Gwener, 19 Mawrth, gwnaeth y diffynnydd olaf ymddangos gerbron y llys yn dilyn rêf anghyfreithlon a gynhaliwyd ym Manwen ar benwythnos Gŵyl Banc mis Awst, yn groes i Ddeddfwriaeth y Coronafeirws.
Cafodd Nigel Harris, 37 oed, o Lewes yn Nwyrain Sussex, ddirwy o £4,000, gyda gordal dioddefwyr o £190 a £200 mewn costau llys. Rhoddwyd dirwyon gwerth £12,550 i 13 o bobl yn dilyn y rêf anghyfreithlon. Cafodd cyfarpar cerddoriaeth a cherbydau eu hatafaelu ar y pryd hefyd.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol David Thorne:
"Mae'n siomedig iawn gweld pobl yn trefnu digwyddiadau o'r fath, ac yn dangos diffyg parch at y gymuned. O ganlyniad i hyn, bu'n rhaid i swyddogion a pharafeddygon ddelio â'r digwyddiad enfawr hwn mewn amgylchedd annymunol ar benwythnos a oedd eisoes yn eithriadol o brysur i'r gwasanaethau brys. At hynny, aeth hyn rhagddo yng nghanol pandemig y Coronafeirws, gan beri risg i iechyd a llesiant miloedd o bobl yn ddiangen.
“Roedd y bobl a oedd yn bresennol yn gwybod eu bod yn ymddwyn mewn ffordd anghyfrifol. Gwnaeth llawer ohonynt deithio cannoedd o filltiroedd i fynd i'r digwyddiad, a allai, ynddo'i hun gyfrannu at ledaenu'r feirws i nifer o gymunedau a gweithwyr allweddol.
“Rydym wedi gweithio'n agos gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron er mwyn dod â nifer ohonynt gerbron y llys i wynebu canlyniadau eu gweithredoedd.”
Ychwanegodd ACC Thorne: “Rydym yn gweithio'n ddiflino i gydymffurfio â'r gyfraith, ond ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Mae cyfrifoldeb personol yn hanfodol.
“Felly, rwy'n apelio ar y cyhoedd i roi gwybod i ni ar 101 am unrhyw amheuon a allai fod ganddynt ynghylch rêfs a gynllunnir neu ddigwyddiadau cerddoriaeth didrwydded, neu'n ddienw i Taclo'r Tacle.
“Wrth i ni fynd ati i gasglu cudd-wybodaeth, mae cefnogaeth y cyhoedd yn hollbwysig, a byddem yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â ni.
“Mae'n bwysicach nag erioed bod ein cymunedau ledled De Cymru yn cael eu hamddiffyn rhag unrhyw ddigwyddiadau a allai gyflymu lledaeniad y feirws neu achosi gweithgarwch gwrthgymdeithasol lleol neu weithgarwch anghyfreithlon.”