Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:33 06/02/2021
Mae ditectifs sy'n ymchwilio i achos o saethu i mewn i gyfeiriad yng Nghwm Cynon wedi cyhuddo dau ddyn o ymgais i lofruddio.
Cafodd Oliver Pearce, 30 oed, o Rydyfelin, a Ricky Webber, 28 oed, o'r Porth, eu cyhuddo nos Wener a'u hanfon i'r ddalfa. Roedd disgwyl iddynt ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd y bore yma.
Maent wedi'u cyhuddo hefyd o feddu ar arf tanio gyda'r bwriad o beri ofn trais, meddu ar arf gyda'r bwriad o beryglu bywydau, a meddu ar arf mewn man cyhoeddus.
Mae swyddogion yn parhau i ymchwilio i amgylchiadau'r achos, a ddigwyddodd yn Windsor Street, Trecynon, tua 9.30pm nos Lun 1 Chwefror.
Mae ymholiadau'n parhau er mwyn dod o hyd i drydydd unigolyn dan amheuaeth, sef James Drakes, 33 oed, o Bendyrus (yn y llun).
Gofynnir i unrhyw un sy'n gwybod ble mae James Drakes gysylltu â'r heddlu. Mae swyddogion hefyd yn parhau i alw ar unrhyw un sydd â deunydd fideo camera dashfwrdd neu deledu cylch cyfyng o'r ardal, a allai hwyluso'r ymchwiliad, i gysylltu â'r heddlu.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Lianne Rees:
“Rydym yn gwybod bod y digwyddiad hwn wedi peri pryder i drigolion Cwm Cynon, yn arbennig am ei fod yn ymwneud ag arf tanio, sydd, diolch byth, yn anghyffredin iawn yn yr ardal hon.
“Rydym wedi bod yn gweithio'n ddiflino i ddal unrhyw un sy'n gysylltiedig â'r digwyddiad, ac rwy'n gobeithio y bydd y datblygiadau diweddar hyn yn helpu i dawelu meddwl ein cymunedau y byddwn yn cymryd camau cadarn yn erbyn pawb sy'n gysylltiedig â throseddau o'r fath.
“Mae ein hymchwiliad yn parhau ac rydym yn awyddus i siarad â James Drakes ar fyrder. Anogir unrhyw un sy'n credu y gall ein helpu i ddod o hyd iddo i gysylltu â ni ar unwaith.”
Ffoniwch 101, gan ddyfynnu digwyddiad 2100037740. Fel arall, gellir cysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555111.