Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
12:37 12/02/2021
Mae dau ddyn wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â llofruddiaeth Tomasz Waga, 23 oed. Cawsant eu cyhuddo a byddant yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd fore Gwener (12 Chwefror).
Cafodd Damjano Velo, 23 oed, o'r Eglwys Newydd, Caerdydd ei gyhuddo o lofruddiaeth.
Cafodd Behar Kaci, 29 oed, sydd heb gyfeiriad sefydlog, ei gyhuddo o droseddau'n ymwneud â chyffuriau a gwyngalchu arian.
Mae teulu Tomasz wedi cael y wybodaeth ddiweddaraf, ac yn parhau i gael eu cefnogi gan swyddogion cyswllt â theuluoedd.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Mark O’Shea sy’n arwain yr ymchwiliad: “Mae'r ffaith bod y ddau ddyn hyn wedi cael eu cyhuddo yn dangos datblygiad pwysig yn yr ymchwiliad i lofruddiaeth Tomasz Waga, ond mae ymholiadau'n parhau i fynd rhagddynt.
“Rwy'n yn apelio ar unrhyw un a oedd ar Westville Road, Minster Road neu'n agos i 319 Heol Casnewydd rhwng 10pm a hanner nos ar nos Iau 28 Ionawr, i gysylltu â'r ystafell ddigwyddiadau, oherwydd gall y darn lleiaf o wybodaeth, waeth pa mor amherthnasol y mae'n ymddangos, fod yn werthfawr i'n hymchwiliad.”
Mae ystafell ddigwyddiadau wedi cael ei sefydlu yng Ngorsaf Heddlu Canol Caerdydd ac mae’r ymchwiliad yn cael ei arwain gan dîm troseddau mawr Heddlu De Cymru.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 101 neu ddarparu gwybodaeth ar-lein drwy Borth Ymchwiliadau Mawr y Cyhoedd https://mipp.police.uk/operation/62SWP21B26-PO1. Fel arall, gallwch ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.