Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru wedi bod yn myfyrio ar y difrod a achoswyd yn ystod y Blitz Tair Noson ac yn cofio'r rôl y gwnaeth ei heddluoedd rhagflaenol, Heddlu Bwrdeistref Abertawe, ei chwarae.
Rhwng 19 a 21 Chwefror 1941, roedd Abertawe wedi dioddef tair noson yn olynol o ymosodiadau o'r awyr. Nod bomio'r dref yn drwm ac yn gyson oedd ceisio dinistrio’r porthladd, y dociau a'r burfa olew lleol. Cafodd yr ardaloedd hyn eu targedu i'w bomio o ganlyniad i'r rolau roeddent yn eu chwarae yn cefnogi ymdrech rhyfel y Cynghreiriaid.
Roedd y bomio wedi troi llawer o ganol y dref yn rwbel ac roedd wedi dinistrio llawer o dai ac ardaloedd preswyl, gan adael llawer o deuluoedd ac aelwydydd wedi'u dadleoli. Yn ddiweddarach, gwnaeth llygad-dyst ddwyn i gof y difrod a achoswyd gan y bomio drwy ddweud:
“Roedd canol y dref wedi'i ddinistrio'n llwyr. Nid oedd unrhyw adeilad yn gyflawn ac roedd yn rhywbeth roeddech ond wedi'i weld mewn ffilmiau cyn hyn - ond roedd popeth wedi'i ddinistrio'n llwyr. Roedd pob adeilad wedi'i ddymchwel a'r unig beth y gallech ei weld oedd rwbel ym mhob man.”
Yn ystod y bomio, ymatebodd swyddogion yr heddlu o Abertawe a'r ardaloedd cyfagos yn gyflym i ddiogelu pobl y dref. Roeddent yn amddiffyn safleoedd a oedd wedi'u bomio er mwyn atal ysbeilio a gwnaethant orfodi cyfyngiadau ar fynediad i ganol y dref, lle oedd adfeilion cymaint o adeiladau yn beryglus.
Byddai'r bomio, sef, heb os, yr her fwyaf y gwnaeth heddlu Abertawe ei wynebu erioed, yn hawlio bywydau dros 200 o bobl. Un o'r bywydau a gollwyd yn ystod y bomio oedd bywyd rhingyll yr heddlu William Flitter, a gafodd ei ladd ar ddyletswydd pan ddisgynnodd bom ffrwydrol dros Orchard Street.
Yn dilyn y Blitz, cafodd sawl un o swyddogion Heddlu Bwrdeistref Abertawe eu canmol am eu gweithredoedd, gan gynnwys Prif Swyddog yr Heddlu Frank Joseph May, a gafodd OBE am ei rôl yn yr ymateb i'r bomio.
Swyddog arall a gafodd ei gydnabod am ei ddewrder oedd PC Francis Dart, a gafodd Medal yr Ymerodraeth Brydeinig am ei ran yn achub pobl o adeiladau a gafodd eu bomio.
Yr wythnos hon, myfyriodd Uwch-arolygydd Steve Jones o Heddlu Abertawe, Castell-nedd Port Talbot ar y Blitz Tair Noson drwy ddweud:
“Mae'n anodd dychmygu'r effaith ddinistriol y digwyddiad hwn 80 mlynedd yn ôl wrth edrych ar Abertawe heddiw, ac mae'n bwysig ein bod yn myfyrio ac yn cofio am y rheini a gollodd eu bywydau yn drasig, gan gynnwys ein cydweithiwr, rhingyll yr heddlu William Flitter.
“Rwy'n falch bod rhai o'n cydweithwyr wedi cael eu cydnabod am beryglu eu hunain yn ddewr er mwyn diogelu eu cymunedau, ac rydym yn dal yn ddiolchgar am eu gweithredoedd yn ystod y dyddiau tywyll hynny yn y ddinas.”