Stamp amser presennol: 05/02/23 02:13:26
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleolUchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainTwitterHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

South Wales Police_ website_ left-hand Corner_ flat White Crest

Chwilio’r wefan hon

Prif ddewislen llywio

  • Riportio

    Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Riportio camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Person sydd ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Anghydfodau sifil
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
  • Rhoi gwybod i ni

    Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Sut i ddweud wrthym am rywbeth rydych chi wedi'i weld neu ei glywed
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Llwythi annormal
  • Gwneud cais neu gofrestru

    Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Cais

    Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Sut i wneud cais am drwydded eiddo deallusol
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Diolchiadau a chwynion

    Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Gwneud cwyn
    • Dweud diolch
    • Adborth am y wefan
  • Eich ardal chi

Rhybudd gan yr heddlu ynghylch sgamiau brechlyn Covid

Cynnwys y prif erthygl

Llywio

Y diweddaraf

11:53 21/01/2021

C20-0027_Social Media Update Graphics_Scam1.jpg

Mae twyllwyr creulon yn cynnig brechlynnau Covid ffug er mwyn ceisio twyllo pobl i gael gafael ar eu harian ac elwa ar bandemig y mae miloedd o bobl yn Ne Cymru wedi marw ohono.

Dyna'r rhybudd y mae ditectifs wedi'i roi, ac maent hefyd yn annog pobl i fod yn wyliadwrus a rhybuddio eraill ynghylch sgamiau o'r fath.

Mae rhybuddion wedi'u cyflwyno dros yr wythnosau diwethaf ynghylch twyllwyr yn cynnig brechlyn Covid ffug pe bai'r dioddefwr yn talu ffi, ac yn ymwneud â negeseuon testun twyllodrus sy'n cael eu hanfon er mwyn ceisio annog pobl i rannu eu manylion personol neu ariannol.

Mewn rhai achosion yn y DU, mae twyllwyr diegwyddor – sy'n esgus eu bod yn gweithio i'r GIG neu fferyllfa leol – yn galw heibio cartrefi dioddefwyr yn ddirybudd er mwyn cynnig rhoi'r brechlyn iddynt yn gyfnewid am daliad arian parod. Gallant hefyd ffonio yn cynnig y brechlyn am ffi, neu ofyn am fanylion banc.

Mewn achosion eraill, efallai y gofynnir i bobl bwyso rhif ar eu bysellbad neu anfon neges destun i gadarnhau eu bod am dderbyn y brechlyn a gallai hyn naill ai ychwanegu at gost bil ffôn y dioddefwr neu ddatgelu gwybodaeth bersonol.

Mae gwefannau ffug hefyd wedi cael eu creu sy'n cynnwys ffurflenni archeb ar gyfer brechlyn y GIG ac sy'n ymddangos fel rhai go iawn, a gallant ofyn am fanylion banc.

Fodd bynnag, bydd brechlyn Covid yn cael ei gynnig am ddim bob amser ac ni fydd gofyn i chi rannu eich manylion banc, dogfennau personol na chyfrineiriau ar unrhyw adeg.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Nick Bellamy o Uned Troseddau Economaidd Heddlu De Cymru:

“Mae'r troseddwyr hyn yn ddyfeisgar ac yn ddiegwyddor a gallant ymddangos yn argyhoeddiadol iawn, ac maent yn dewis manteisio ar bandemig byd-eang i geisio llenwi eu pocedi eu hunain.
“Bydd brechlyn Covid bob amser yn cael ei gynnig gan y GIG am ddim ac ni fydd angen i chi ddarparu manylion banc na manylion ariannol, cyfrineiriau na rhifau PIN ar unrhyw adeg.
“Gall negeseuon neu alwadau ffôn ffug sy'n honni eu bod gan y GIG neu'r llywodraeth ofyn i chi ddarparu gwybodaeth bersonol neu glicio ar ddolen, neu gynnig grant gan y llywodraeth yn ymwneud â Covid i chi. Unwaith eto, sgamiau yw'r rhain.”

Caiff y cyhoedd ei atgoffa na fydd y GIG byth yn gwneud y canlynol:

  • Gofyn am daliadau, gan fod y brechlyn am ddim
  • Gofyn am eich manylion banc
  • Cyrraedd eich cartref yn ddirybudd i roi'r brechlyn
  • Gofyn i chi brofi eich manylion adnabod drwy anfon copïau o'ch dogfennau personol (e.e. pasbort)

Mae'r heddlu hefyd yn gofyn i bobl godi ymwybyddiaeth o'r sgamiau hyn gydag anwyliaid, gan gynnwys yr unigolion na allant weld y cyngor hwn ar-lein o bosibl.

Ychwanegodd y Ditectif Arolygydd Bellamy:

“Mae pobl wedi bod yn dod at ei gilydd drwy gydol y pandemig er mwyn helpu eu cymunedau a chymryd y camau priodol i gadw ei gilydd yn ddiogel ac amddiffyn ein GIG, ac mae brechlyn y coronafeirws yn rhoi rhywfaint o obaith i ni gyd.
“Er y bydd lleiafrif bach yn ceisio defnyddio'r sefyllfa i sgamio eraill o bosibl, gall pob un ohonom ofalu am ein hanwyliaid a rhannu'r cyngor hwn â nhw er mwyn sicrhau y gallant adnabod arwyddion sgam.”

Os ydych wedi dioddef twyll neu achos o ddwyn eich hunaniaeth, neu'n amau hynny, cysylltwch ag Action Fraud ar https://actionfraud.police.uk or 0300 123 2040. Gallwch hefyd fynd i https://bit.ly/HDCRiportio neu ffonio'r heddlu ar 101.

Anfonwch e-byst amheus ymlaen i [email protected] er mwyn ymchwilio iddynt a gallwch anfon negeseuon testun amheus ymlaen i 7726.

Gallwch adrodd am wybodaeth yn ymwneud â thwyll brechlyn yn ddienw i Linell Gymorth Twyll Covid Taclo'r Tacle – http://covidfraudhotline.org neu 0800 587 5030.

Rhannu

A oes rhywbeth o'i le ar y dudalen hon?

Llywio troedyn

Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i roi profiad gwell, mwy personol i chi.

Rwy'n iawn gyda chwcis Rwyf am olygu'r cwcis

Heddlu De Cymru

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Amdanom ni
  • Gyrfaoedd
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad Preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Ystadegau a data
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Diolchiadau a chwynion

Partneriaid

  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2023. Cedwir pob hawl.