Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae heddiw (Gorffennaf 24) yn nodi blwyddyn ers i Jordan Moray fynd ar goll o’i gartref yng Nghwm-bach – mae ei fam wedi cyhoeddi apêl daer i Jordan gysylltu â hi, ac i unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai helpu gyda’r ymchwiliad i’w ddiflaniad gysylltu â’r heddlu.
Nid oes unrhyw un sy’n adnabod Jordan Moray, a fydd yn 33 oed nawr, wedi ei weld ers iddo fynd ar goll ar 2 Awst.
Yn dilyn apêl, llwyddodd yr heddlu i leoli Jordan ym Mro Deg yn ei bentref ar 24 Gorffennaf, ychydig dros wythnos ynghynt.
Diflannodd dan amgylchiadau anesboniadwy – gadawodd ei ddrws ffrynt heb ei gloi, roedd ei Playstation yn dal ymlaen a gadawodd ei ffôn symudol yn gwefru.
Roedd y ffordd y diflannodd Jordan yn gwbl groes i’w gymeriad, a wnaeth i’w deulu, ei ffrindiau a’r heddlu bryderu ar unwaith.
Bu ymgyrch chwilio enfawr yn dilyn hynny, gan gynnwys timau chwilio arbenigol ac aelodau o’r gymuned.
Gwnaethant archwilio’r ardaloedd lleol, y llethrau a’r dyfrffyrdd o’u cwmpas am gliwiau am beth allai fod wedi digwydd iddo.
Cyrhaeddodd yr ymdrechion hyd at Fannau Brycheiniog hyd yn oed, a hynny oherwydd ei gariad tuag at yr awyr agored, yn enwedig yr rhan honno o’r byd.
Mae swyddogion wedi treulio oriau ac oriau yn gwylio deunydd teledu cylch cyfyng gan obeithio bod y camerâu rywsut wedi ffilmo Jordan ar ei deithiau, ond heb ddod o hyd i ddim.
Flwyddyn yn ddiweddarach, mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau. Fodd bynnag, hyd yn hyn, nid yw wedi gallu egluro diflaniad Jordan ac mae’n gobeithio y bydd apêl o’r newydd yn helpu i ddod â gwybodaeth newydd i’r amlwg, ynghyd ag atebion am yr hyn a allai fod wedi digwydd.
Mewn apêl emosiynol, dywedodd Debbie, mam Jordan Moray: “Mae blwyddyn wedi mynd nawr ers inni weld Jordan ddiwethaf. Er y gall y dyddiau fod yn dorcalonnus ac yn unig, rwy’n dal i obeithio yn sydyn y byddi’n cerdded drwy’r drws.
“Rwy’n byw mewn gobaith bob dydd y byddi’n penderfynu dod adref atom. Rydyn ni’n gwybod mai dim ond blwyddyn sydd wedi mynd heibio, ac mae’n ymddangos bod y dyddiau’n cyfuno ar hyn o bryd, ond cofia Jordan, rydyn ni’n parhau i chwilio’r ardaloedd lle bydden ni’n disgwyl i ti fod yn bob dydd. Rydyn yn gobeithio ac yn gweddïo y byddi di’n clywed yr apêl hon.
“Rydym yn dioddef cymaint o boen calon fel teulu ar hyn o bryd. Ond Jordan, ni waeth beth sydd wedi digwydd neu beth bynnag rwyt ti wedi mynd drwyddo, mae dy deulu yma i helpu.
“Fyddem ni fyth yn teimlo’n grac tuag atat am wneud rhywbeth roedd yn rhaid i ti ei wneud – dyw hi ddim yn rhy hwyr i godi’r ffôn a rhoi gwybod i ni dy fod yn ddiogel. Rydyn ni’n dy garu di gymaint, cariad, a nod yr apêl hon, gobeithio, yw i ti sylweddoli cymaint rydyn ni’n gweld dy eisiau di ac am dy gael di nôl yn ein bywydau.”
Gofynnodd Debbie i’r cyhoedd helpu pa bynnag ffordd y gallant, gan ddweud: “Hoffwn ofyn i unrhyw un arall fydd yn gweld yr apêl hon o bosibl i helpu drwy rannu llun o Jordan yn eang, gwrando am wybodaeth a rhoi gwybod i’r heddlu am unrhyw beth a allai ei helpu.”
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Gareth Davies: “Diflannodd Jordan heb adael ei ôl – does neb wedi ei weld yn unrhyw le arall ac, ar hyn o bryd, nid oes gennym unrhyw syniad na thystiolaeth wirioneddol o beth sydd wedi digwydd iddo. Am y rheswm hwnnw, ni allwn ddiystyru unrhyw beth o gwbl. Fel teulu Jordan, rydym yn gobeithio bod darn o wybodaeth a fydd yn rhoi inni’r cam mawr ymlaen sydd ei angen arnom.
“Dylai unrhyw un sy’n meddwl y gallai fod yn gwybod rhywbeth am ddiflaniad Jordan, neu sy’n meddwl y gallai fod wedi ei weld, i gysylltu â’r heddlu, ni waeth pa mor ddibwys y mae’n ymddangos. Gallai’r hyn y mae’n ei wybod helpu i roi diwedd ar sefyllfa drychinebus y teulu.”
“Yn ogystal, byddwn yn gofyn i Jordan i gysylltu, pe bai’n clywed hyn. Does dim angen iddo ddatgelu ei leoliad, dim ond cadarnhau ei fod yn ddiogel ac yn iach.”