Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:17 10/09/2020
Mae Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru wedi ysgrifennu llythyr agored i holl swyddogion, staff, a gwirfoddolwyr yr heddlu, i gydnabod eu hymateb i bandemig Coronafeirws.
Gwnaeth Matt Jukes ganmol y gweithwyr am y ffordd y maent wedi ymateb i heriau’r pum mis diwethaf mewn rhinwedd broffesiynol, ond hefyd wrth ofalu am deulu a ffrindiau, yn ogystal â gofalu am eu hiechyd a’u llesiant eu hunain.
Mewn llythyr agored i swyddogion, staff, a gwirfoddolwyr yr heddlu, dywedodd:
“Rydym wedi gweld creadigrwydd, egni, a hyblygrwydd anhygoel gan gydweithwyr ym mhob rhan o’r heddlu, ar bob lefel, er mwyn sicrhau bod Heddlu De Cymru wedi gallu parhau i wasanaethu ein cymunedau. Gwnaeth y cyfyngiadau sifil newid y ffordd roeddem yn gweithio, yn ogystal â’r galw am wasanaethau, a chofnodwyd rhai o’r diwrnodau prysuraf erioed yn ystod y cyfnod diwethaf, ac rydym hefyd wedi gweld gwydnwch ac ymrwymiad gwych i gadw De Cymru’n ddiogel. Yng nghanol hyn oll, rydym wedi gweld sawl enghraifft o arwriaeth a dewrder, ar ddyletswydd ac oddi ar ddyletswydd, gyda bywydau’n cael eu hachub bob dydd. Rwy’n ddiolchgar iawn am hyn i gyd.
“Rwy’n ddiolchgar iawn hefyd am y tosturi a’r cymorth yr ydych wedi’u dangos i’ch gilydd yn ystod cyfnod anodd iawn i nifer. Fel teulu’r heddlu, rydym wedi profi colled yn sgil marwolaeth PC Jeremy Veck. Fel bob amser, rwyf wedi bod yn falch iawn o’r ffordd rydych wedi dod at eich gilydd i gefnogi ei anwyliaid, pan oeddent mewn angen.
“Mae Ymgyrch Talla hefyd wedi bod yn gyfnod o aberth personol. Mae gweithio o gartref, gofalu am blant ac anwyliaid, yn enwedig y rhai hynny a oedd yn cael eu gwarchod o bosibl, wedi gwneud swydd sy’n anodd o ddydd i ddydd yn anoddach fyth.”
Ar rai achlysuron dros y pum mis diwethaf, mae Heddlu De Cymru wedi profi galw na welwyd ei debyg o’r blaen, gyda mwy o alwadau gan y cyhoedd nag adegau prysur yn draddodiadol fel Calan Gaeaf a Nos Galan. Yn ystod mis Awst, wynebodd yr heddlu ei benwythnos prysuraf o ran galw ers Nos Galan 2015, a chafodd yr heddlu 3,174 o alwadau mewn 24 awr yn ystod penwythnos Gŵyl y Banc Diwrnod VE ym mis Mai. Byddai tua 1,600 o alwadau yn cael eu gwneud ar Nos Galan arferol.
Hefyd, mae swyddogion wedi parhau i wneud gwaith rhagweithiol o dan faner Ymgyrch Sceptre er mwyn mynd i’r afael â throseddau cyllyll a throseddau difrifol, a gwelwyd enghreifftiau o ddewrder gan gynnwys PCSO oddi ar ddyletswydd yn achub merch o’r môr ym Mhorthcawl, swyddogion yn helpu gyrrwr bws a oedd wedi cael trawiad ar y galon yn y Barri, a dau swyddog yr heddlu yn mynd i mewn i’r môr yn Aberafan yn ystod oriau mân y bore i achub dyn bregus.
Yn ei lythyr, aeth y Prif Gwnstabl Matt Jukes ymlaen i ddweud:
“Efallai na fydd y cyflawniadau hyn yn cael y sylw haeddiannol, ac efallai na fydd doethinebwyr y pentan yn eu crybwyll ar y cyfryngau cymdeithasol. Ond gallaf eich sicrhau eu bod yn gadael gwaddol enfawr a gaiff ei werthfawrogi’n fawr yn ein cymunedau. Bob wythnos, rwy’n cael llythyrau gan deuluoedd diolchgar – yn aml ar ôl y profiadau gwaethaf – sydd wedi cael budd o’ch gofal, neu o gymorth cydweithwyr y mae eu gwaith yn sicrhau ei bod yn bosibl darparu’r gofal hwnnw."
Yn ogystal â gorfodi’r ddeddfwriaeth Coronafeirws newydd, mae’r heddlu wedi plismona nifer o brotestiadau ledled trefi a dinasoedd yn Ne Cymru – dau benwythnos yn ôl yn unig, cafodd yr heddlu ei alw i ddigwyddiad lle roedd 3,000 o bobl wedi ymgynnull mewn digwyddiad cerddoriaeth heb ei drwyddedu ym Manwen, lle y defnyddiwyd dirwyon llymach a bennwyd gan Lywodraeth Cymru am y tro cyntaf.
Ychwanegodd Mr Jukes:
“Ar lawr gwlad, mae ein gwaith wedi wynebu heriau amlwg. Am gyfnod cychwynnol, bu’n rhaid i nifer ohonoch hyrwyddo a gorfodi rheoliadau a oedd yn cyfyngu ar fywyd bob dydd mewn ffyrdd sy’n anarferol y tu allan i adeg rhyfel – byddai defnyddio’r pwerau newydd yn ormodol yn colli cefnogaeth y cyhoedd, byddai peidio â’u defnyddio ddigon yn golygu y byddem wedi methu â gwneud ein cyfraniad.
“Yr her yw sicrhau ein bod yn cael y cydbwysedd yn iawn, a’n cymunedau sydd i benderfynu a yw hynny’n digwydd. Mae’r newyddion yno yn gadarnhaol iawn, er gwaethaf rhai penawdau yn gynnar yn ystod y cyfnod a fyddai’n awgrymu’n wahanol. Yn ystod cyfnod lle cawsom dros 15,000 o alwadau yn ymwneud â COVID-19, dim ond cyfartaledd o 7 allan o’r 1,100 o alwadau wythnosol oedd yn gwynion am ein hymateb. Dangosodd arolygon diweddar bod 91% o’r cyhoedd yn fodlon ar y ffordd yr aeth yr heddlu i’r afael â chyfyngiadau’r coronafeirws. Byddai nifer o fusnesau yn genfigennus o’r sgoriau cymeradwyo hynny ac, yn ystod cyfnod o densiynau posibl, maent yn gymeradwyaeth o’r tosturi a’r dyngarwch a ddangoswyd. Mae’r dull ‘teg ond cadarn lle bo angen’ yr ydych wedi’i ddangos yn draddodiadol mewn digwyddiadau chwaraeon mawr ac wrth blismona o ddydd i ddydd yn glod i Heddlu De Cymru.
“Wrth i ni brofi normal newydd nawr, ac wrth i ni ddechrau canolbwyntio ar adfer ac ystyried beth y bydd gan weddill 2020 i’w gynnig i ni, roeddwn am ddiolch i bob un ohonoch am eich cyfraniad at gadw ein cymunedau yn ddiogel yn ystod un o’r cyfnodau mwyaf heriol yn hanes yr heddlu. Hoffwn ddiolch i’ch teuluoedd a’ch anwyliaid hefyd am yr aberth y maent wedi’i wneud i’ch cefnogi.”