Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:38 26/11/2020
Bydd yr heddlu yn arfer pwerau ychwanegol y penwythnos hwn er mwyn sicrhau bod pobl sy'n ymweld â chanol ddinas Caerdydd yn dilyn deddfwriaeth y coronafeirws.
Er bod y rheolau yng Nghymru wedi cael eu llacio, gyda chyfyngiadau lleol ar deithio yn cael eu dileu a safleoedd manwerthu bellach yn cael agor eu drysau, rydym yn atgoffa'r cyhoedd nad yw'r risgiau a berir gan COVID-19 wedi diflannu.
Fodd bynnag, mae rhai cyfyngiadau yn parhau ar waith: ni chaiff pobl o du allan i Gymru deithio i'r wlad yn unol â rheolau Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, ac mae'r rheolau ynghylch cymdeithasu a safleoedd trwyddedig yn parhau i fod yn gymwys i drigolion lleol.
Bydd Heddlu De Cymru yn parhau i weithio gyda Chyngor Caerdydd ac amrywiaeth o bartneriaid eraill i sicrhau bod modd i bobl ymweld â'r ddinas yn ddiogel. Byddwn yn cynyddu nifer y swyddogion ar ddyletswydd ac yn cydweithio er mwyn annog pobl i gymryd cyfrifoldeb personol, a sicrhau bod tafarndai, bariau, bwytai a gwestai yn cydymffurfio.
Yn ogystal, mae swyddogion wedi cael pwerau ychwanegol i gynnal hapwiriadau ar gerbydau er mwyn sicrhau nad yw pobl sy'n ymweld â'r ddinas yn torri unrhyw reoliadau drwy wneud hynny.
Bydd y pwerau ar gael i swyddogion yng Nghaerdydd o 9am dydd Gwener 27 Tachwedd i 5pm dydd Sul 29 Tachwedd, a byddant yn eu galluogi i stopio unrhyw gerbyd er mwyn cynnal ymholiadau yn ystod y cyfnod hwnnw.
Bydd pobl sy'n torri deddfwriaeth y coronafeirws yn wynebu dirwy ac yn cael eu gorchymyn i adael y ddinas a dychwelyd adref.
Dywedodd Jason Rees, Uwch-arolygydd Caerdydd a'r Fro:
“Mae'r ychydig fisoedd diwethaf wedi bod yn anodd i bawb, a gyda'r rheolau’n cael eu llacio ychydig, busnesau nad ydynt yn hanfodol yn ailagor a'r Nadolig ar y gorwel, rydym yn deall y bydd pobl yn awyddus i fynd allan a mwynhau'r hyn sydd gan ein dinas i'w gynnig.
“Mae'r mwyafrif helaeth o bobl yn gwneud hynny'n ofalus, gan gadw at gyfyngiadau'r rheoliadau presennol, ond mae'r bobl nad ydynt yn dilyn y rheolau yn parhau i beri risg diangen i bawb arall.
“Rydym yn rhagweld penwythnos prysur arall yng nghanol y ddinas, ac er y byddwn yn parhau i arfer yr un dull plismona rydym wedi bod yn ei arfer drwy gydol y pandemig – sef gweithio gyda'r cyhoedd er mwyn annog pobl i gydymffurfio o'u gwirfodd – rydym yn ymrwymedig i orfodi'r rheolau pan fydd pobl yn amlwg yn eu torri'n agored.”