Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
10:53 04/12/2020
Wrth i gyfyngiadau diweddaraf Llywodraeth Cymru ddod i rym, mae Heddlu De Cymru, yn annog y cyhoedd i wneud y peth iawn a chadw cymunedau'n ddiogel.
O 6pm ddydd Gwener 4 Rhagfyr, caiff pob lleoliad lletygarwch (gan gynnwys bwytau, caffis, tafarndai a bariau) agor o dan do a thu allan ar gyfer bwyd a diodydd heb alcohol, ond rhaid iddynt gau erbyn 6pm. Ni ellir gweini nac yfed diodydd alcoholig ar unrhyw amser yn y lleoliadau hyn.
Mae cyfyngiadau o ran ymgynnull mewn cartrefi ar waith o hyd. Y prif ofynion yw:
Hefyd, caiff rheoliadau yng Nghymru eu diwygio o 6pm ddydd Gwener i wahardd teithio i ardaloedd haen tri yn Lloegr ac oddi yno, ardaloedd haen tri a phedwar yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon, gan ei fod o dan gyfyngiadau symud ar hyn o bryd. Mae canllawiau teithio newydd yn cynghori pobl yng Nghymru yn gryf i beidio â theithio i rannau eraill o'r DU sydd â lefelau coronafeirws is – ardaloedd haen un a dau yn Lloegr neu ardaloedd lefel un a dau yn yr Alban – er mwyn helpu i reoli lledaeniad y feirws.
Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Andy Valentine, sy'n arwain ymateb Heddlu De Cymru i'r pandemig: “Gyda chyfyngiadau ar agor lleoliadau lletygarwch a gwahardd yfed alcohol yn yr adeiladau hyn, efallai mai'r demtasiwn i rai pobl fydd ymgynnull dan do neu gynnal partïon tŷ yn lle.
“Mae'r rheolau yn glir na ddylech fynd i mewn i gartref rhywun arall oni bai eich bod yn ffurfio cartref estynedig. Mae ein partneriaid iechyd wedi nodi'n glir mai trosglwyddo'r feirws dan do yw un o'r risgiau mwyaf o hyd. Felly, er y byddwn yn parhau i weithio gyda'n cymunedau er mwyn eu helpu i ddeall y rheolau, byddwn hefyd yn cymryd camau gorfodi yn yr ardaloedd hynny lle rydym yn gweld achosion amlwg neu fynych o dorri'r rheolau.”
Mae Heddlu De Cymru wedi parhau â’i ddull plismona o esbonio’r rheolau, annog pobl i gydymffurfio â'r rheolau a chymryd camau gorfodi pan fetho popeth arall yn unig, pan fydd unigolion wedi mynd ati'n fwriadol i dorri'r rheolau.
Yn ystod mis Tachwedd, rhoddodd yr heddlu 374 o hysbysiadau cosb benodedig i bobl a chofnodwyd 372 o rybuddion. Roedd dros dri chwarter o'r cosbau penodedig ar gyfer ymgynnull dan do.
Yr wythnos hon, cyhoeddwyd cyfanswm o 31 o gosbau penodedig ar ôl i'r heddlu gael gwybod am bum parti tŷ yng Nghaerdydd. Rhoddwyd y rhan fwyaf o'r cosbau hyn yn ôl-weithredol, gan ddefnyddio tystiolaeth o fideo a wisgir ar y corff gan swyddogion.
Ychwanegodd y Prif Uwch-arolygydd Valentine: “Hoffwn ddiolch i'r cyhoedd am eu cymorth cyn i'r rheoliadau newid ac am yr aberth y mae cymunedau ledled De Cymru wedi'u gwneud yn ystod ail don y pandemig.
“Wrth i gyfraddau heintio godi eto, mae cymorth y cyhoedd yn bwysicach nag erioed. Roedd partïon tai ac ymgynnull yn ffactor arwyddocaol yn ystod ail don y feirws yr hydref hwn, ac mae Coronafeirws yn parhau i fod yn fygythiad gwirioneddol i’r GIG, er gwaethaf y newyddion cadarnhaol ynghylch brechiadau.
“Mae'r cyfyngiadau sydd ar waith mewn grym am reswm ac mae'n bwysicach nag erioed i weithredu mewn ffordd gyfrifol. Yn lle meddwl am yr hyn y gallwch ei wneud heb gael eich cosbi, ystyriwch yr hyn y dylech ei wneud i gadw eich hun a'ch teulu'n ddiogel.”