Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
16:26 16/09/2020
Yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru heddiw, bydd Rhondda Cynon Taf yn wynebu cyfyngiadau ychwanegol yn sgil y Coronafeirws o 6pm ddydd Iau, 16 Medi.
Bydd Heddlu De Cymru yn parhau i gefnogi Llywodraeth Cymru a phartneriaid lleol i roi’r cyfyngiadau ar waith, gan fabwysiadu’r un dull a ddefnyddiwyd ers dechrau’r pandemig.
Bydd ein swyddogion yn amlwg yn ein cymunedau, gan weithio gyda’r cyhoedd i ymgysylltu, esbonio ac annog cydymffurfiaeth. Bydd camau gorfodi yn cael eu cymryd lle y bo’n briodol ac yn gymesur.
Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Andy Valentine, sy’n arwain ymateb Heddlu De Cymru i bandemig y Coronafeirws: “Mae’r cyfyngiadau a gyhoeddwyd heddiw yn angenrheidiol ac yn gymesur er mwyn mynd i’r afael â’r cynnydd yn nifer yr achosion o Goronafeirws yn ardal Rhondda Cynon Taf.
“Mae’n hollbwysig ein bod yn chwarae ein rhan drwy gydymffurfio â’r mesurau newydd a’r mesurau presennol. Does neb am weld y cyfyngiadau symud caeth a gawsom yn ystod y gwanwyn yn dychwelyd, a bydd cydweithredu a chydymffurfio nawr yn ein helpu i reoli ac atal y feirws rhag lledaenu ymhellach.
“Mae ein swyddogion wedi gweithio’n galed drwy gydol y pandemig er mwyn helpu’r cyhoedd i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennym ni oll, ac er mwyn annog unigolion i gydymffurfio â’r rheolau o’u gwirfodd. Bydd y dull gweithredu hwn yn parhau, a gall y cyhoedd ddisgwyl gweld mwy o swyddogion yn yr ardal lle bo mesurau ychwanegol wedi cael eu cyflwyno.
“Rwy’n erfyn ar bawb i fod yn ymwybodol o’r hyn y gallant ei wneud, a’r hyn na allant ei wneud am y tro, ac i chwarae eu rhan drwy ddilyn y rheolau, fel ein bod yn gallu parhau i ddefnyddio’r dull gweithredu hwn. Mae hyn er eu budd eu hunain, eu hanwyliaid, a’r gymuned ehangach.
“Yn ogystal â gweithio gyda’r cyhoedd, byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda phartneriaid iechyd ac awdurdodau lleol.
“Dim ond pan fetho popeth arall y byddwn yn cymryd camau gorfodi, ond dylai’r rhai hynny sy’n credu nad yw’r ddeddfwriaeth yn berthnasol iddyn nhw na’u safleoedd busnes fod yn ymwybodol y byddwn ni a’n partneriaid yn cymryd camau er mwyn cadw ein cymunedau yn ddiogel.”
Ychwanegodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael: “Mae cynnydd yn nifer yr achosion o Goronafeirws yn Rhondda Cynon Taf yn destun pryder mawr, ac rwy’n cefnogi’r awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru yn llwyr wrth gyflwyno’r mesurau ychwanegol.
“Mae’r cam hwn yn angenrheidiol er mwyn arafu lledaeniad y feirws yn ein cymunedau, ac mae angen i bobl Rhondda Cynon Taf ddangos yr un cydsefyll cymunedol a welsom pan oedd y cyfyngiadau symud yn eu hanterth.
“Rwy’n erfyn ar y cyhoedd i ddilyn y mesurau newydd a dangos parch ac ystyriaeth i bawb yn y gymuned.
“Bydd swyddogion Heddlu De Cymru yn chwarae eu rhan i annog pobl i ddilyn y rheolau, fel y maent wedi’i wneud drwy gydol yr argyfwng iechyd cyhoeddus hwn, ond mae’n rhaid i bob un ohonom gymryd cyfrifoldeb ar y cyd ac fel unigolion.
“Mae hwn yn argyfwng iechyd cyhoeddus, ond mae atal lledaeniad y Coronafeirws yn gyfrifoldeb a rennir gan bawb, ac mae staff awdurdodau lleol a swyddogion yr heddlu wedi gweithio’n dda gyda’i gilydd ledled De Cymru yn ystod cyfnod hynod o anodd a heriol.
“Ond rwyf am bwysleisio bod cyfrifoldeb ar bob un ohonom – pobl ifanc, pobl hŷn, rhieni, arweinwyr cymunedol, y rheini sydd mewn rolau arwain ym myd chwaraeon, yn ogystal ag awdurdodau lleol, busnesau, a’r rheini sy’n gweithio yn y diwydiant lletygarwch.
“Os na fydd pob un ohonom yn cefnogi ein cydweithwyr yn y GIG drwy gymryd cyfrifoldeb personol, byddwn ni i gyd yn talu pris – ac er mai lleiafrif bach sy’n diystyru’r rheolau, mae angen i ni gyd chwarae ein rhan wrth esbonio iddynt fod hyn yn wirioneddol bwysig.
“Mae ein swyddogion wedi dangos sut y gellir gwneud hyn – maent wedi ymgysylltu â phobl, esbonio’r rheolau, annog pobl i’w dilyn, ac wedi gorfodi’r gyfraith lle y bo’n briodol. Ond ni ddylid gorfod defnyddio camau gorfodi – mae cyfrifoldeb personol yn gwbl hanfodol, ac mae’r cyfyngiadau symud lleol sydd wedi cael eu rhoi ar waith yn y Rhondda yn enghraifft glir o’r hyn a fydd yn digwydd ym mhob man os bydd achosion yn parhau i gynyddu.
“Mae’n peri gofid mawr i weld negeseuon camarweiniol ac anghyfrifol ar y cyfryngau cymdeithasol gan bobl nad ydynt yn credu bod COVID-19 yn fygythiad gwirioneddol. Mae yn fygythiad gwirioneddol. Mae pobl wedi marw – a bydd mwy o bobl yn marw oni fyddwn yn dilyn y rheolau clir ac yn gwrando ar y negeseuon a rhoddwyd gan Lywodraeth Cymru.
“Rwy’n cefnogi’r galwadau a wnaed gan arweinwyr cymunedol a’r awdurdod iechyd yn Rhondda Cynon Taf i bobl weithredu nawr cyn i’r sefyllfa waethygu, a chyn bod angen cyflwyno cyfyngiadau pellach – ac mae hynny’n berthnasol i bob un ohonom, ym mhobman. Nid yw COVID-19 wedi diflannu, ac mae’r bygythiad yn parhau i fod yn un go iawn. Mae’n rhaid i bob un ohonom ddilyn y rheolau, neu byddwn yn gweld mwy o achosion, mwy o bobl yn ddifrifol wael, a chynnydd yn nifer y marwolaethau. Mae hyn wir yn dyngedfennol.”
Gellir dod o hyd i’r manylion llawn am y cyfyngiadau symud lleol ar wefan Llywodraeth Cymru