Carcharu’r deliwr cyffuriau Kamil Ernest am 28 mis
Roedd Kamil Ernest yn un o 25 o bobl a gafodd eu harestio yn ystod mis Gorffennaf (2024) gan Dîm Troseddau Cyfundrefnol Caerdydd a'r Fro. Yn ystod yr ymgyrch atal, atafaelwyd chwarter cilogram o grac cocên a £17,000 mewn arian parod. Cafodd cyfanswm o 21 o linellau cyffuriau hefyd eu hatal rhag masnachu.