Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae gwarediadau y tu allan i'r llys yn ddull pwysig i fynd i'r afael â chamau cynnar ymddygiad troseddol. Maen nhw'n caniatáu i'r heddlu ymdrin â throseddau llai difrifol heb orfod troi at y llysoedd.
Maen nhw'n gyfle i ddarparu ymyrraeth a chymorth i droseddwyr posibl ar y camau cynnar yn eu hymddygiad troseddol, gan eu dargyfeirio at wasanaethau adsefydlu i'w helpu nhw rhag troseddu eto.
Dylai pob achos o Warediad y tu Allan i'r Llys ystyried llais y dioddefwyr a dylai'r dioddefwyr fod yn rhan o'r broses gwneud penderfyniadau ble y bo'n briodol.
Symudodd Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru at Fframwaith Gwarediadau Tu Allan i'r Llys 2-Haen yn 2021 sy'n golygu ein bod yn defnyddio dau brif warediad:
Mae gwarediadau y tu allan i'r llys yn rhoi cyfle i ddioddefwyr troseddau llai difrifol leisio eu barn a'u teimladau a bod yn rhan o'r broses penderfynu ynghylch sut mae'r heddlu'n ymdrin â’r drosedd.
Bydd barn y dioddefwr yn cael ei hystyried wrth bennu amodau ar gyfer troseddwyr fel rhan o Warediad y tu Allan i'r Llys. Gall y rhain gynnwys ymddiheuro, unioni unrhyw niwed a achoswyd gan y troseddwr neu ymgysylltu ag ymyraethau adsefydlu.
Er y bydd barn y dioddefwr yn cael ei hystyried bob tro, cyfrifoldeb yr heddlu fydd gwneud y penderfyniad terfynol. Os gwneir penderfyniadau nad ydynt yn unol â dymuniadau'r dioddefwr, rhoddir sail resymegol briodol dros y penderfyniad gan y swyddog yn yr achos.
Canlyniad anstatudol yw datrysiad cymunedol sy'n galluogi'r heddlu i ymdrin yn bennaf â phobl sy'n troseddu am y tro cyntaf ac yn cyflawni trosedd llai difrifol. Prif egwyddorion datrysiad cymunedol yw:
Meini prawf ar gyfer datrysiad cymunedol:
Gwarediad y tu Allan i'r Llys ffurfiol yw Rhybuddiad Amodol ac mae'n rhan o gofnod troseddol troseddwr. Mae'n cael ei ddefnyddio fel arfer os yw troseddwr yn parhau i ail droseddu o fewn 2 flynedd i dderbyn datrysiad cymunedol neu mae'r drosedd yn ddigon difrifol i gael ei chyfeirio at y llys ond am resymau budd y cyhoedd a rhesymau lliniarol eraill o bosibl, teimlir bod rhybuddiad amodol yn ganlyniad mwy cymesur.
Prif egwyddorion rhybuddiad amodol yw:
Meini prawf ar gyfer Rhybuddiad Amodol:
This scheme is open to eligible female offenders over the age of 18 living in the South Wales Police or Gwent Police force areas and offers a multi-agency, community-based service that addresses an individual’s risks and needs in a safe, non-intimidating environment. Services include advice on a range of issues including health including mental health, relationships including domestic abuse, behavioural change, substance misuse, finance and housing.
A referral to the Future 4 team will start with them conducting an initial assessment with the individual to identify any specific needs for which they may require support. They will tailor a support plan which will include allocating a case manager and may include making referrals to specialist agencies if required.
Women can be referred to this service as part of a community resolution, conditional caution or on a voluntary basis – even if continuing through the criminal justice to court or prison.
This service is funded by South Wales and Gwent Police & Crime Commissioners, HMPPS and Welsh Government.
Mae'r cynllun hwn ar agor i droseddwyr cymwys yn y grŵp oedran 18-25 sy'n byw yn ardal Heddlu Gwent neu Heddlu De Cymru ac mae'n cynnig gwasanaeth yn y gymuned sy'n rhoi sylw i risgiau ac anghenion unigol ac yn helpu i ganfod ffyrdd i leihau'r perygl o ail droseddu. Mae gwasanaethau'n cynnwys cyngor ar amrywiaeth o faterion gan gynnwys iechyd ac iechyd meddwl, newid ymddygiad, cydberthnasau, camddefnyddio sylweddau, cyllid a thai.
Bydd y tîm 18-25 yn cynnal asesiad gyda'r unigolyn i ddechrau, i nodi unrhyw anghenion penodol y gall fod angen cymorth gyda nhw. Byddant yn creu cynllun cefnogi pwrpasol a allai gynnwys atgyfeiriad at asiantaethau arbenigol os oes angen.
Gellir atgyfeirio oedolion ifanc at y gwasanaeth hwn yn rhan o ddatrysiad cymunedol, rhybuddiad amodol neu'n wirfoddol.
Mae'r gwasanaeth yn cael ei ariannu gan gomisiynwyr yr heddlu a throsedd Gwent a De Cymru a Llywodraeth Cymru.
Addas ar gyfer y troseddau canlynol fel rhan o ddatrysiad cymunedol neu fel amod o rybuddiad amodol:
Amcanion y cwrs:
Darperir y cwrs hwn gan G4S/Dyfodol ar ran Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru ac mae'n costio £60 i'r troseddwr fynychu.
Addas ar gyfer y troseddau canlynol fel rhan o ddatrysiad cymunedol neu fel amod o rybuddiad amodol:
Amcanion y cwrs:
Darperir y cwrs hwn gan TTC ar ran Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru ac mae'n costio £60 i'r troseddwr fynychu.
Addas ar gyfer y troseddau canlynol fel rhan o ddatrysiad cymunedol neu fel amod o rybuddiad amodol:
Nid yw'r rhestr uchod yn gyflawn ac enghraifft yn unig ydyw.
Amcanion y cwrs:
Darperir y cwrs hwn gan TTC ar ran Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru ac mae'n costio £60 i'r troseddwr fynychu.
Mae ARA yn rhoi cymorth AM DDIM i unrhyw un sy'n dangos arwyddion cynnar neu estynedig o ddibyniaeth ar gamblo y mae'r heddlu'n credu sydd wedi eich arwain at gyflawni trosedd. Gall atgyfeiriad at y cymorth hwn fod ar sail wirfoddol neu yn rhan o ddatrysiad cymunedol neu amod rhybuddiad amodol.
Mae'r cymorth yn cynnwys:
Er mwyn sicrhau tryloywder, cysondeb ac atebolrwydd yn y defnydd o warediadau y tu allan i'r llys, mae Paneli Craffu wedi cael eu sefydlu ar draws y llu.
Diben y paneli hyn yw asesu, craffu a rheoli ansawdd y mathau hyn o warediadau ar gyfer oedolion a phobl ifanc (10-17 oed) yn annibynnol.
Mae'r paneli craffu hyn yn ddull pwysig o sicrhau bod yr heddlu'n cael eu dwyn i gyfrif am eu defnydd o warediadau y tu allan i'r llys, yn ogystal â darparu sicrwydd bod penderfyniadau anodd i weinyddu gwarediadau o'r fath yn gyfiawn. Defnyddir y canfyddiadau o'r paneli hyn i hyrwyddo arfer gorau, adnabod cyfleoedd i ddysgu, datblygu polisi neu anghenion hyfforddiant i'w hystyried gan yr heddlu, y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid neu asiantaethau perthnasol eraill.
Er y gall y panel wneud argymhellion i lywio'r broses penderfynu yn y dyfodol, ni allant newid canlyniad gwreiddiol yr achos sy'n cael ei adolygu.
Mae tîm Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn cydlynu gweithgareddau'r paneli craffu ar gyfer oedolion a phobl ifanc.
Ymysg aelodau'r panel mae cynrychiolwyr o dîm Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd a sefydliadau cyfiawnder troseddol fel y llysoedd, yr heddlu, y Gwasanaeth Prawf, y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid a Gwasanaeth Erlyn y Goron.