Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym bob amser yn gweithio i wella ansawdd y gwasanaeth rydym yn ei ddarparu i'r cyhoedd.
Er mwyn i ni ddeall eich safbwyntiau ar y gwasanaeth a ddarperir gennym, rydym yn cynnal arolygon boddhad rheolaidd, a gaiff eu cynnal gan ein tîm Mewnwelediad, i'n helpu i ddeall eich lefelau boddhad ochr yn ochr â rhannau gwahanol o'n gwasanaeth.
Mae ein harolygon yn casglu adborth o bob cam o daith dioddefwr, sy'n amrywio o'r pwynt cyswllt cyntaf i'r camau gweithredu a gymerwyd a'r driniaeth gan swyddogion a staff. Mae'r adborth yn rhoi gwybodaeth werthfawr i'n helpu i wella'r gwasanaeth rydym yn ei ddarparu i ddioddefwyr.
Mae eich safbwyntiau a'ch sylwadau yn hanfodol i ni ddeall pa mor dda rydym wedi ymateb i'ch digwyddiad a pha rannau o'n gwasanaeth sydd angen i ni eu gwella.
Ar hyn o bryd, mae ein tîm o ymchwilwyr yn cysylltu â dioddefwyr trais a cham-drin domestig, troseddau casineb, ymddygiad gwrthgymdeithasol, troseddau treisgar a bwrgleriaethau preswyl. Mae Tîm Insight hefyd yn cynnal arolygon amrywiol â dioddefwyr mathau eraill o droseddau drwy gydol y flwyddyn.
Ydyn – yn Heddlu De Cymru, mae gennym dîm o ymchwilwyr ymroddedig i gynnal ein harolygon boddhad dioddefwr.
Mae cymryd rhan yn ein harolygon yn hollol wirfoddol. P'un a ydych yn dewis cymryd rhan ai peidio, ni fydd hyn yn cael effaith ar eich achos.
Bydd y rhif ffôn yn ymddangos fel un anhysbys.
Nid oes gan ein tîm o ymchwilwyr ymroddedig sy'n cynnal yr arolygon Mewnwelediad ddiweddariadau am eich digwyddiad ac, felly, ni fyddant yn gallu ateb y cwestiynau a allai fod gennych.
Er mwyn trafod manylion eich digwyddiad penodol neu'ch trosedd benodol chi, gallwch gysylltu â'n hystafell reoli a gofyn i siarad â'r swyddog a wnaeth ddelio â chi.
Os nad ydych yn fodlon ar y gwasanaeth rydym wedi ei ddarparu ac yn dymuno cyflwyno cwyn ffurfiol i'r heddlu, yna gallwch wneud hyn drwy ein gwefan.
Os oes trosedd neu ddigwyddiad wedi cael effaith arnoch, mae Ffocws Dioddefwyr De Cymru yma i helpu. Mae Ffocws Dioddefwyr De Cymru yn wasanaeth lleol sy'n cael ei redeg gan yr elusen genedlaethol ac annibynnol, Cymorth i Ddioddefwyr. Maent yn rhoi help a chymorth i unrhyw un yn Ne Cymru yr effeithiwyd arnynt gan drosedd. Nid ydynt yn rhan o'r heddlu, y llysoedd nac unrhyw asiantaeth cyfiawnder troseddol arall.
Mae eu gwasanaethau am ddim, yn gyfrinachol ac ar gael p'un a ydych wedi rhoi gwybod am y drosedd ai peidio a phryd bynnag y digwyddodd y drosedd. Defnyddiwch y ddolen hon i gael rhagor o wybodaeth.
Os ydych yn cael profiad o gam-drin domestig, gallwn eich rhoi mewn cysylltiad â sefydliadau cymorth eraill sy'n deall eich anghenion penodol.