Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r rhestr gyfredol o wrandawiadau camymddygiad cyhoeddus sydd yn yr arfaeth ar gael isod. Edrychwch ar y dyddiadau, lawrlwythwch fanylion y gwrandawiad a defnyddiwch ein ffurflen archebu ar-lein isod i wneud cais am fod yn bresennol.
Gofynnir i unrhyw rai sy'n dymuno bod yn bresennol yn y gwrandawiad hwn gysylltu â Swyddfa'r Wasg Heddlu De Cymru yn [email protected] cyn y gwrandawiad, fel y gellir gwneud trefniadau iddynt fod yn bresennol.
Gwnewch nodyn o'r gwrandawiad yr hoffech fynd iddo, yna cliciwch ar 'Dechrau’ isod i lenwi’n ffurflen gais ar-lein syml.
Gall aelodau'r cyhoedd archebu lle ar gyfer unrhyw ddiwrnod mewn gwrandawiad ynghyd â'r diwrnod canlynol (os yw'r gwrandawiad yn fwy nag un diwrnod). Os hoffech archebu mwy na dau ddiwrnod, mae angen ichi wneud cais ar-lein eto.
Amser llenwi ar gyfartaledd: pum munud