Cyfleoedd Trosglwyddwr ac ailymuno
Oes gennych chi ddiddordeb mewn dychwelyd neu symud i Dde Cymru?
Rydym bob amser yn awyddus i glywed gan swyddogion a all fod â diddordeb mewn ymuno â Heddlu De Cymru. Rydym yn derbyn ceisiadau ar hyn o bryd. Caiff y rhain eu prosesu pan fydd swyddi gwag addas yn codi.
Yn ystyried ailymuno?
Erbyn hyn, gall cyn swyddogion ailymuno â heddlu hyd yn oed os daeth eu gwasanaeth blaenorol i ben fwy na phum mlynedd cyn ailymuno. Mae'n bosibl y cânt eu penodi i reng uwch, rheng is, neu'r un rheng, yn dibynnu ar benderfyniad a wneir gan y prif swyddog sy'n gwneud y penodiad.
Os hoffech chi ddatgan eich diddordeb, cysylltwch â'n tîm recriwtio drwy e-bost: HR-RECRUITMENT@south-wales.pnn.police.uk
Pam ymuno â Heddlu De Cymru?
Heddlu De Cymru yw’r heddlu mwyaf yng Nghymru ac er ei fod yn cwmpasu ardal ddaearyddol fach ag arwynebedd o tua 812 o filltiroedd sgwâr, sy’n cyfateb i ddim ond 10% o arwynebedd daearyddol Cymru, mae Heddlu De Cymru yn darparu gwasanaeth plismona i 1.3 miliwn o bobl (42% o boblogaeth y wlad).
Mae De Cymru yn rhanbarth amrywiol gydag ardaloedd gwledig, arfordirol a threfol gan gynnwys y ddwy ddinas fwyaf yng Nghymru, sef Abertawe a’r brifddinas, Caerdydd. Mae’r heddlu hefyd yn gwasanaethu 63 o’r 100 o gymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru.
Mae gan yr heddlu bron i 3000 o swyddogion yr heddlu a thros 2200 o staff yr heddlu, gan gynnwys Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSOs) a thîm o wirfoddolwyr ymroddgar sy’n cynnwys dros 100 o Gwnstabliaid Gwirfoddol a thua 150 o Wirfoddolwyr Ifanc yr Heddlu.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth amdanom, gan gynnwys ein gweledigaeth, ein cenhadaeth a’n gwerthoed, ac ein blaenoriaethau plismona.
Hoffwn ymuno â Heddlu De Cymru
Dyma DS Ambler yn siarad am ei brofiad o drosglwyddo i #TîmHDC o Hampshire: