Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gallwch, os ydych yn llwyddiannus gallwch wneud cais i weithio rhan amser. Caiff eich cyflog, a hawliau eraill megis gwyliau eu haddasu ar sail pro rata.
Nid yw PCSOs yn cario pastwn, chwistrell CS na gefynnau llaw fel swyddogion yr heddlu. Y rheswm am hyn yw eu bod yn cyflawni rôl gwbl wahanol ac ni fydd disgwyl iddynt ymdrin â sefyllfaoedd heriol lle gallant fod eu hangen. Fodd bynnag, caiff pob PCSO radio, fel y gallant ddefnyddio systemau cyfathrebu'r heddlu a gofyn am gymorth yr heddlu.
Mae 20 o bwerau safonol ar gyfer PCSOs.
Mae'r pwerau hyn yn caniatáu i PCSO wneud y canlynol:
Mae gan PCSOs rôl wahanol iawn i swyddogion yr heddlu. Ni fwriedir iddynt gymryd lle swyddogion yr heddlu, ond eu helpu i fynd i'r afael â materion ansawdd bywyd ac anghenion y gymuned. Maent yn ychwanegiad hollbwysig i'r teulu plismona, a byddant yn mynd i'r afael â thasgau lle nad oes angen y profiad na'r pŵer arestio sydd gan swyddog yr heddlu.
Caiff PCSOs eu cyflogi o dan delerau ac amodau gwahanol i swyddogion yr heddlu, felly gallant fod yn gymwys i gael taliadau ychwanegol os ydynt yn gweithio patrwm sifft penodol ar sail rota. Yn y bôn, mae'r hawl yn golygu y gall PCSOs gael eu rhoi ar y rota pan fydd eu hangen
Os byddwch yn llwyddiannus ar gam canolfan asesu'r broses recriwtio, cewch archwiliad meddygol, oni bai bod eich asthma yn ddifrifol, ni fydd yn effeithio ar eich cais.
Mae Heddlu De Cymru yn croesawu ceisiadau gan bobl ag anableddau fel y'u diffinnir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 h.y. mae person yn anabl o dan y Ddeddf hon os oes ganddo/ganddi nam corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith andwyol sylweddol a hirdymor (dros 12 mis) ar ei (g)allu i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd.
Os ydych yn ystyried eich hun yn anabl, rhowch wybod i ni am y math o addasiadau y gallai fod eu hangen arnoch i'ch cynorthwyo i gymryd rhan yn y broses recriwtio a dethol. Bydd Heddlu De Cymru yn ceisio gwneud addasiadau rhesymol lle mae'n ymarferol.
Noder, unwaith y caiff cynnig swydd amodol ei wneud, bydd gofyn i ymgeiswyr gwblhau ffurflen asesu ymarferol a mynd drwy brawf sgrinio iechyd lle bo'n briodol, a fydd yn gofyn iddynt fodloni'r meini prawf iechyd hanfodol i swyddogaethau'r rôl honno lle cânt eu nodi gyda neu heb addasiadau rhesymol.
Gallwch wneud cais i fod yn swyddog yr heddlu ar yr amod nad ydych wedi cael pwl epileptig nac wedi cymryd meddyginiaeth am y salwch o fewn y ddwy flynedd diwethaf. Bydd yn rhaid i'ch meddyg gyflwyno adroddiad meddygol er eglurder.
Gallwch, cyhyd ag y bo eich diabetes o dan reolaeth. Bydd yn rhaid i'ch meddyg gyflwyno adroddiad meddygol er eglurder.
Os byddwch yn cyrraedd y cam archwiliad meddygol o'r broses recriwtio yn llwyddiannus, bydd rhaid i chi gael prawf llygad.
Mae'n rhaid i recriwtiaid newydd gael golwg 6/12 yn eu llygad dde neu chwith, neu o leiaf golwg 6/6 yn y ddau lygad.
Mae'n rhaid i'r rheini sy'n gwisgo sbectol neu lensys cyffwrdd gael o leiaf golwg 6/36 yn y ddau lygad heb wisgo eu sbectol neu lensys cyffwrdd.
Na, nid oes unrhyw ofynion o ran taldra.
Efallai y byddwch dal yn gymwys i ymuno â gwasanaeth yr heddlu os oes gennych fân gollfarnau/rhybuddion, ond mae rhai troseddau ac amodau a fydd yn golygu eich bod yn anghymwys. Mae hyn yn cynnwys unrhyw un sydd wedi cael rhybudd ffurfiol yn ystod y pum mlynedd diwethaf, sydd wedi cyflawni trosedd dreisgar neu drosedd trefn gyhoeddus. Pan fyddwn yn gwneud ein penderfyniadau, cawn ein llywio gan Gylchlythyr y Swyddfa Gartref 2/2011. Gallwch weld y ddogfen hon ar wefan y Swyddfa Gartref.
Na, byddai'n rhaid i chi fynd drwy broses recriwtio swyddogol fel pob ymgeisydd arall i fod yn gymwys fel swyddog yr heddlu. Ewch i'n gwefan ar recriwtio Swyddogion yr Heddlu am ragor o wybodaeth.
Gallwch wneud cais, gan nad yw'r PCSO ar hyn o bryd yn rhan o'r broses asesu genedlaethol SEARCH. Fodd bynnag, cyn ein bod yn cynnig swydd gofynnwn i chi ddewis pa broses yr hoffech aros ynddi.
Na, yn anffodus unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais yr unig ffordd y gallwch ychwanegu gwybodaeth yw ei dynnu'n ôl ac ailgyflwyno cais newydd.
Os, yn anffodus, na fyddwch yn llwyddo ar y cam gwneud cais cychwynnol, byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy'r post. Gallwch wneud cais arall i ymuno â Heddlu De Cymru chwe mis o ddyddiad eich llythyr hysbysu, ond dim ond os ydym yn recriwtio ar y pryd.
Anfonwch unrhyw ymholiadau pellach drwy e-bost i: [email protected]