Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn edrych ymlaen at lansio ein Rhaglen Interniaid 2022; rydym yn chwilio am bobl â sgiliau a phrofiadau amrywiol i ymuno â'n tîm llwyddiannus.
Mae hwn yn gyfle gwych i ymgeiswyr sy'n chwilio am leoliad gwaith 12 mis i ymuno ag adran arbenigol lle byddant yn ennill profiad gwaith a chwblhau hyfforddiant.
Wrth ymuno â #TîmHDC byddwch yn ymuno â heddlu blaenllaw lle byddwch yn gallu cyfrannu syniadau newydd a gweithio i wneud gwahaniaeth mewn cymdeithas.
Mae Heddlu De Cymru yn benodol yn croesawu ymgeiswyr o grwpiau wedi'u tangynrychioli.
Bydd y rhaglen yn dechrau ym mis Medi 2022 ac er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y rhaglen interniaid, rhaid eich bod yn astudio ar gyfer gradd ac yn chwilio am ‘leoliad rhyngosod’, fel arall byddwch wedi graddio o fewn 3 blynedd. Noder, na allwch wneud cais os ydych eisoes wedi gwneud interniaeth â Heddlu De Cymru.
Bydd yn rhaid i bob ymgeisydd gwblhau gwiriadau cyn cael eu cyflogi.
"Mae interniaeth JSIU ychydig yn wahanol i interniaethau eraill, gan ein bod yn cael y cyfle i symud drwy'r gwahanol adrannau fforensig. Hyd yn hyn, rwyf wedi treulio amser yn yr adran Esgidiau, yr Uned Datblygu Olion Busnedd a'r adran Delweddu Fforensig. Rwyf hefyd wedi cael y cyfle i ymweld ag amrywiaeth o leoliadau troseddau gydag Ymchwilwyr Lleoliadau Troseddau.
"O ganlyniad, rwyf wedi meithrin dealltwriaeth o swyddogaethau'r gwahanol adrannau, ac rwyf hefyd wedi gallu cael profiad uniongyrchol ym mhob adran.
"O ddatblygu olion bysedd a chodio marciau esgidiau, i gael gafael ar ddeunydd CCTV a gweld beth sy'n digwydd i'r dystiolaeth a gaiff ei hadfer o leoliadau troseddau, rwyf wedi gallu cael profiad a meithrin gwybodaeth ar gyfer fy nyfodol, a fydd o fudd i mi pa bynnag lwybr y byddaf yn penderfynu ei ddilyn.'
"Rwyf wedi mwynhau pob munud o'm cyfnod fel intern yn y tîm digidol a chynnwys. Mae fy rôl yn amrywiol iawn, does dim dau ddiwrnod yr un peth.
"O gofnodi digwyddiadau pwysig i gynhyrchu cynnwys ar gyfer ein sianelau cymdeithasol, rwyf wedi gweld cymaint o wahanol agweddau ar blismona ac wedi cael y cyfle i ymgysylltu â'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu."
'Rwyf wedi dysgu cymaint yn ystod fy interniaeth fel dylunydd graffig i Heddlu De Cymru. Mae'r broses wedi cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i mi ddysgu mwy am ddylunio, i ddatblygu fy sgiliau fel dylunydd ac i feithrin dealltwriaeth o'r ffyrdd o weithio yn y diwydiant.
"Mae hefyd wedi fy ngalluogi i feithrin dealltwriaeth ehangach o'r sefydliad sydd wedi fy helpu wrth ymgymryd â thasgau fel rhan o'm rôl.'
"Fel rhan o'm rôl bresennol yn Heddlu De Cymru, rwyf wedi cael mwy o brofiad a chyfrifoldeb nag y byddwn erioed wedi'i ddychmygu. Bu'n brofiad anhygoel hyd yn hyn.
"Rwyf wedi cymryd rhan bwysig mewn ymchwiliadau fforensig digidol. Rwyf wedi mynychu cyrsiau hyfforddi sy'n ymwneud â meddalwedd fforensig a'r adnoddau diweddaraf. Rwyf hefyd wedi rhoi hyfforddiant i staff o adrannau eraill ac wedi mynychu digwyddiadau ledled y DU.
"Yn ogystal, rwyf wedi mynychu Gwarantau Chwilio gyda Thîm Ymchwiliadau Ar-lein yr Heddlu er mwyn brysbennu dyfeisiau digidol.
"Mae'r profiad hwn, yn ogystal â'm cyfnod yn USW, wedi bod o gymorth eithriadol o ran fy natblygiad personol a phroffesiynol ac wedi fy rhoi ar y trywydd cywir i ddilyn gyrfa ym maes Fforenseg Digidol."
"Rwyf wedi gwerthfawrogi fy nghyfnod gyda Heddlu De Cymru yn fawr, a'r sgiliau a'r profiadau rwyf wedi'u dysgu yn ystod y chwe mis cyntaf hyn. Doedd dim syniad gen i y gallai sefydliad fod mor fawr ac rwy'n dysgu rhywbeth newydd bob dydd o hyd.
"Rwyf wedi dysgu amrywiaeth o sgiliau newydd na fyddwn byth wedi'u dysgu yn y brifysgol, mae pawb wedi fy annog ac mor barod i helpu hefyd!"
“Mae fy nghyfnod yng Nghanolfan Treftadaeth Heddlu De Cymru wedi bod yn werthfawr iawn. Cefais gefnogaeth gyson drwy gydol y cyfnod, ac yn fy marn i, mae'r cymorth sydd ei angen i ddatblygu'r sgiliau rydych yn awyddus i ragori ynddynt bob amser ar gael."