Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Comisiynydd a Phrif Gwnstabl Heddlu De Cymru fel Corfforaethau ar wahân yn awyddus i recriwtio sawl aelod newydd, i'w Pwyllgor Archwilio ar y Cyd gan fod cyfnod rhai o'r aelodau presennol wedi dod i ben.
Mae gan y Pwyllgor Archwilio ar y Cyd Annibynnol hirsefydledig rôl allweddol yn y gwaith o lunio fframwaith sicrwydd llywodraethu annibynnol ar gyfer y ddau sefydliad. Mae'r Pwyllgor yn helpu i sicrhau bod y swyddogaethau archwilio mewnol ac allanol yn gweithredu'n effeithiol ac yn effeithlon, yn ogystal â rhoi sicrwydd i'r Comisiynydd a'r Prif Gwnstabl ar effeithiolrwydd y priod amgylcheddau rheoli mewnol ar gyfer cyllid, rheoli risgiau a threfniadau llywodraethu corfforaethol wrth sicrhau Gwerth am Arian.
Mae aelodau presennol y Pwyllgor Archwilio ar y Cyd wedi gwasanaethu'r Pwyllgor yn dda am sawl blwyddyn a byddant yn ymddeol yn unol â deiliadaeth eu swydd. Mae hyn, ynghyd â phenodi Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu newydd yn gyfle i aelodau newydd wneud gwahaniaeth cadarnhaol a helpu'r Comisiynydd a'r Prif Gwnstabl i gyflawni eu cyfrifoldebau statudol ac ymddiriedol.
Byddem yn croesawu ceisiadau gan arweinwyr profiadol o amrywiaeth o gefndiroedd ac ethnigrwydd gwahanol, sy'n frwd dros blismona a'r rôl hanfodol y mae'n ei chwarae yng nghymunedau De Cymru. Hoffem barhau i gael budd o bwyllgor dynamig sydd â chyfoeth o brofiad i herio ein ffordd o feddwl.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gallu dangos gwybodaeth dda am y sector cyhoeddus yng Nghymru, a dealltwriaeth dda ohono, a bydd ganddynt brofiad o Bwyllgorau Archwilio a phrofiad rheoli strategol gan gynnwys cyllid. Ar ôl cynnal archwiliad sgiliau o'n haelodau presennol, rydym yn chwilio am wybodaeth a phrofiad yn y meysydd canlynol yn arbennig, ac mae'n bosibl y byddwn yn eu blaenoriaethu:
Er nad oes unrhyw gydnabyddiaeth ariannol yn gysylltiedig â'r rolau hyn, telir treuliau a lwfans presenoldeb i Aelodau.
Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rolau, cysylltwch naill ai â.
Enw | Swydd | E-bost |
David Holloway Young | Prif Swyddog Ariannol a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu | [email protected] |
Ian Williams | Cyfarwyddwr Cynorthwyol – Cyllid Corfforaethol | [email protected] |
Lee Jones | Prif Weithredwr – Swyddfa'r Heddlu a Chomisiynydd Trosedd | [email protected] |
Y Broses Gwneud Cais
Gofynnir i ymgeiswyr gyflwyno CV yn ogystal â llythyr eglurhaol i ategu'r cais. Mae'r llythyr eglurhaol yn rhan o'r broses ddethol.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau fydd 28 Chwefror 2025 a chynhelir cyfweliadau yn ystod mis Mawrth 2025.
Mae'r dolenni canlynol i ddogfennau yn berthnasol:
Datganiad o Gyfrifon Grŵp 2023/24
Strategaeth Ariannol Tymor Canolig
Cynllun Heddlu a Throseddu'r Comisiynydd
Crynodeb o Gynllun Cyflawni'r Prif Gwnstabl
Proffil Rôl/Manyleb Person Aelod o'r Pwyllgor Archwilio ar y Cyd