Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae adran gyfreithiol fewnol wedi bodoli yn Heddlu De Cymru ers 1986. Roedd trefniadau tebyg wedi datblygu yng Ngwent, ond ers 2010 mae'r ddwy adran wedi cael eu hintegreiddio i ffurfio Gwasanaeth Cyfreithiol ar y Cyd Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent.
Mae gan y gwasanaeth swyddfeydd ym mhencadlys y ddau heddlu yn Ne Cymru ac yng Ngwent.
O ganlyniad i ofynion cyfreithiol arbenigol, cafodd swyddogaeth Gwaith Achos Cyfreithiol Arbennig ei sefydlu hefyd yn Ne Cymru yn 2013 i ymdrin â materion gwerth uchel sy'n cael effaith fawr ar ein cymunedau.
Mae'r Gwasanaeth Cyfreithiol ar y Cyd yn darparu gwasanaeth eang ei gwmpas i'r ddau Brif Gwnstabl a'r ddau Gomisiynydd o dan y ffrydiau gwaith allweddol hyn – Plismona Gweithredol, Ymgyfreitha, Cyflogaeth a Chorfforaethol (sy'n cynnwys contractau, eiddo masnachol a materion llywodraethu/pwerau).
Mae'n anodd disgrifio diwrnod ym mywyd Cyfreithiwr Plismona Gweithredol… am fod pob diwrnod yn wahanol.
O ymdrin â chyngor rhagweithiol mewn perthynas ag ymholiadau deddfwriaethol, i roi cyngor ar ddigwyddiadau cyhoeddus byw fel cyngherddau a gemau pêl-droed, gall ‘diwrnod arferol’ fod yn amrywiol iawn.
Rydym hefyd yn rhoi cyngor ac yn ymddangos yn y llys mewn perthynas â gorchmynion sifil amddiffynnol gan roi cyngor ar achos, ei ddrafftio a'i gyflwyno gerbron y Llys Ynadon neu Lys y Goron perthnasol.
Rydym hefyd yn ymdrin ag ymholiadau plismona gweithredol sy'n ymwneud â digwyddiadau mawr yn ardal yr heddlu – hwyrach eich bod yn cofio uwch-gynhadledd NATO yn y Celtic Manor (gwnaethom gynghori ar honno) neu gêm derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA yng Nghaerdydd (gwnaethom gynghori ar honno hefyd!)
Felly, fel y gwelwch, mae pob diwrnod yn wahanol yn y “Byd gweithredol”. Bydd gweithio i'r heddlu fel rhan o'r gwasanaethau cyfreithiol yn cynnig llwyth achosion cyffrous, cyflym ac amrywiol i chi fel rhan o dîm gwybodus, cyfeillgar a llawn tosturi.
Mae'r tîm ymgyfreitha yn gweithredu mewn perthynas ag unrhyw hawliadau atebolrwydd ac yn cynghori ar faterion fel deddfwriaeth diogelu data a pholisïau'r heddlu.
Er mwyn cynghori ein cleientiaid, rydym yn edrych ar amrywiaeth o ddogfennau, fideos o gamerâu a wisgir ar y corff a CCTV ac yn hyn o beth, rydym yn gweithio'n agos gyda thimau eraill yn y ddau heddlu. Rydym yn ymchwilio i ddeddfwriaeth a chyfraith achosion er mwyn rhoi cyngor ac mewn achosion lle gall fod gwersi i'w dysgu, rydym yn tynnu sylw at y rhain gan fod yr heddlu yn canolbwyntio ar wella'n barhaus.
Bydd aelodau o'n tîm ymgyfreitha yn cyfweld â swyddogion a staff yr heddlu er mwyn cael eu hadroddiadau a llunio datganiadau tystion.
Rydym yn llunio amrywiaeth o ohebiaeth a dogfennau bob dydd, fel llythyrau ymateb, plediadau, datganiadau tystion, adroddiadau i gleientiaid, gan roi cyngor ar bolisïau'r heddlu a darparu data ar gyfer adroddiadau adrannol a chronfeydd ariannol.
Rydym yn mynd i amrywiaeth o wrandawiadau llys ac yn gwneud ein gwaith eirioli ein hunain os yw hynny'n berthnasol.
Rydym yn cydgysylltu ag amrywiaeth eang o bartïon o'n cleientiaid proffesiynol, gan gyfarwyddo Cwnsleriaid a chydweithio â'r Llysoedd, ymgysylltu â chyfreithwyr yr Hawlydd a chynnal negodiadau. Rydym hefyd yn cydgysylltu ag aelodau o'r cyhoedd fel ymgyfreithwyr drostynt eu hunain.
Mae'n anodd crynhoi diwrnod ym mywyd cyfreithiwr yn y tîm cyflogaeth. Mae pob diwrnod yn wahanol ac rydym yn ffodus iawn ein bod yn cael gwaith amrywiol iawn sy'n ddiddorol ac yn heriol o safbwynt cyfreithiol.
Mae cyfraith cyflogaeth bob amser yn ddiddorol am ei bod yn effeithio ar bawb sy'n gweithio bob dydd o'n bywydau gwaith, o'r contractau neu'r rheoliadau sy'n llywodraethu ein cydberthynas ddyddiol â'n cyflogwr, i'r mesurau diogelu sydd o fudd i weithwyr fel yr hawl i beidio â phrofi gwahaniaethu. Mae'r cyfreithiau sy'n ymwneud â chydberthynas gyflogaeth yn helaeth ac yn aml yn gymhleth.
Gwaith y cyfreithiwr cyflogaeth yw helpu ein cydweithwyr i ddehongli llawer o'r rheolau a'r rheoliadau hyn a rhoi cyngor arnynt. Gall hyn rychwantu amrywiaeth eang o bynciau fel cwynion cyflogaeth, disgyblu, absenoldeb oherwydd salwch, apeliadau pensiwn, ymholiadau cyflog a chytundebau ymgynghori ymhlith eraill. Rydym hefyd yn ymdrin â hawliadau i'r Tribiwnlys Cyflogaeth a gaiff eu cyflwyno gan swyddogion a staff presennol a chyn-swyddogion a staff yn erbyn yr Heddlu.
Nid yw swyddogion yr heddlu yn weithwyr cyffredin at ddibenion cyfraith cyflogaeth ac felly mae ganddynt eu rheolau a'u deddfwriaeth eu hunain. Mae hwn yn faes arbenigol sy'n aml yn anghyfarwydd i gyfreithwyr y tu allan i'r heddlu. Felly, mae'n rhan hynod o ddiddorol, unigryw a heriol o'r swydd!
Mae'n debyg na fyddech yn cysylltu Heddlu De Cymru ag eiddo masnachol yn awtomatig, ond mae'n elfen hanfodol o'i effeithiolrwydd gweithredol. Boed yn cynghori ar ddatblygu adeilad pencadlys newydd, gweithio gyda heddluoedd eraill yng Nghymru i ddatblygu hyb ar gyfer hyfforddiant gweithredol ar y cyd (er mwyn sicrhau cost-effeithiolrwydd ar gyfer arian cyhoeddus), prydlesu safleoedd i gadw cerbydau'r heddlu yn ogystal â hybiau cymunedol llai ar gyfer plismona lleol i enwi ond rhai, rydym yn ymdrin â phopeth.
Rydym hefyd yn ymdrin â gwerthu eiddo hŷn yr heddlu fel y gellir ei ailddefnyddio neu ei ailddatblygu a defnyddio'r enillion i brynu neu ddatblygu swyddfeydd a chyfleusterau gweithredol mwy ymarferol.
Mae'r diwrnod gwaith yn hyblyg iawn sy'n golygu y gallaf weithio gartref i ddarparu gwasanaeth masnachol ymatebol, rhagweithiol o'r radd flaenaf sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr terfynol i'm cydweithwyr eiddo. Yn oes yr economi ddigidol ac arloesedd technolegol, mae gweithio gydag asedau y gallwch eu cyffwrdd yn dal i roi boddhad mawr.
Mae'r tîm Corfforaethol yn delio â phopeth sy'n effeithio ar unrhyw fusnes corfforaethol neu fasnachol ar ran yr heddlu. Un o'i brif swyddogaethau yw caffael a phrynu nwyddau a gwasanaethau ar gyfer yr heddlu. Gallai hyn gynnwys nwyddau swyddfa, lifrai, TG a gwasanaethau glanhau. Rydym hyd yn oed yn prynu'r ceffylau. Ond mae yna rai pethau na fyddech hyd yn oed yn eu dychmygu - un enghraifft yw'r cytundeb ar gyfer yr hofrennydd y byddwch yn ei weld weithiau yn yr awyr uwchben ein cymunedau!
Rydym hefyd yn sicrhau bod trefniadau llywodraethu'r heddlu yn bodloni gofynion deddfwriaethol a'n bod yn gweithredu yn unol â'n pwerau. Mae meysydd eraill yn cynnwys cynghori ar faterion sy'n ymwneud ag Eiddo Deallusol ac rydym yn paratoi llawer o gytundebau â'r cyfryngau a chytundebau ffilmio.
Rydym yn cynorthwyo'r Comisiynydd ar faterion cyfreithiol i gyflawni'r ymrwymiadau yn ei Gynllun yr Heddlu a Throseddu ac felly rydym yn aml yn llunio cytundebau drafft â sefydliadau trydydd parti eraill fel awdurdodau lleol a'r trydydd sector. Rydym wedi datblygu llawer o gytundebau rhwng partïon i sicrhau bod pobl yn cael y gwasanaeth gorau posibl gennym. Rydym hefyd wedi bod yn rhan o nifer o gontractau sy'n cynorthwyo dioddefwyr yn uniongyrchol ac yn helpu i leihau'r tebygolrwydd o aildroseddu, ac mae gwybod eich bod yn helpu i wneud gwahaniaeth yn rhoi boddhad mawr.
Rydym hefyd yn cysylltu â gwaith y timau eraill e.e. gall fod gan y tîm ymgyfreitha hawliad sy'n ymwneud ag un o'n contractau gwasanaeth neu efallai ein bod yn prynu cyfarpar ar gyfer gweithgareddau gweithredol.
Yn ogystal â gwneud cyfraniad go iawn i ddiogelwch ein cymunedau, drwy ymuno â #TîmHDC, byddwch yn dod yn rhan o sefydliad blaengar, arloesol a chynhwysol. Gallwch weld mwy o wybodaeth am ein graddfeydd cyflog, buddiannau, mentrau llesiant a rhaglenni gwobrwyo yma.
Edrychwch ar ein bwrdd swyddi byw i weld ein holl gyfleoedd presennol.
Heb ddod o hyd i'r hyn rydych yn chwilio amdano? Os oes gennych ddiddordeb mewn cyfleoedd yn yr adran hon yn y dyfodol, cofrestrwch eich manylion ar ein cronfa ddoniau a gallwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi pan fydd gennym swyddi gwag sy'n gweddu i'ch sgiliau a'ch dewisiadau. cliciwch yma i gofrestru.