Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae ein harwyr y tu ôl i'r llenni yn yr adran TGCh yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi seilwaith TGCh ar y safle ac yn y cwmwl. Dychmygwch eich hun yn gweithio mewn amgylchedd sy'n cynnwys y canlynol:
- Dwy ganolfan ddata ffisegol o'r radd flaenaf
- Mwy na 15,000 o ddyfeisiau defnyddwyr
- 200 o weinyddion ffisegol a rhithwir
- 400 o systemau a chymwysiadau cefn swyddfa
Mae TGCh yn cyflawni nifer o swyddogaethau sy'n sail i fusnes craidd ar draws Heddlu De Cymru. Mae'r adran TGCh yn gyfrifol am wybodaeth y sefydliad, gan ei phrosesu, ei storio a'i chyflwyno i'r staff rheng flaen yn ôl yr angen. Mae'r adran yn ategu plismona gweithredol drwy ddarparu ystod o lwyfannau technegol.
Mae'r Adran TGCh yn cynnwys pedair adran wahanol: Darparu Gwasanaethau, Cyflenwi Technegol, Rheoli Rhaglenni Technegol a Safonau Technegol.
Mae'r llinyn Safonau Technegol yn gyfrifol am oruchwylio strategaeth yr adran a'i chydymffurfiaeth â safonau, gan gynnwys ymrwymiadau diogelwch ac archwilio yn ogystal â sicrhau y caiff ein hymrwymiadau cydweithredol technegol eu cyflawni. Mae'r adran hon yn cynnwys y tîm Diogelwch TGCh yn ogystal â thîm o saernïwyr a pheirianwyr sy'n gweithio mewn rolau datblygu tuag at weledigaeth strategol adrannol a sefydliadol ehangach.
Mae Cyflenwi Technegol yn goruchwylio swyddogaethau gweithredol a swyddogaethau o ddydd i ddydd, gan gynnwys datrys problemau technegol drwy gymorth ail linell hyd at y drydedd linell. Mae'r adran hon yn gweithredu fel adran TGCh draddodiadol ar raddfa fenter ac yn cwmpasu'r timau technegol penodol a rennir rhwng yr unedau Llwyfannu a Seilwaith. Mae enghreifftiau o rai o'r timau hynny yn cynnwys Rhwydweithiau, y Ganolfan Ddata a Gweinyddion a'r Tîm Cronfeydd Data.
Mae'r adran Cyflenwi Gwasanaeth yn gyfrifol am ddarparu cymorth gwasanaeth a gwasanaethau busnes. Mae'n cynnwys Desg Gwasanaeth TGCh sy'n darparu cymorth rheng flaen (gyda chyfrifoldebau ychwanegol am Gydberthnasau â Chwsmeriaid a Chyfathrebu TGCh). Mae'r tîm Gwasanaethau Busnes yn rheoli contractau TGCh, caffael, rheolaeth ariannol a storfeydd TGCh. Mae'r ddau dîm yn cydweithio'n agos â defnyddwyr, cwsmeriaid a chyflenwyr.
Mae'r adran Rheoli Rhaglenni Technegol yn swyddogaeth ganolog o fewn yr adran TGCh sy'n arbenigo mewn rheoli prosiectau, rhaglenni, a newid busnes i gyflawni nodau ac amcanion busnes strategol sy'n ysgogi trawsnewid a thwf busnes.
“Roeddwn i am ymuno â Heddlu De Cymru am fy mod i'n chwilio am yrfa broffesiynol a sefydlog lle y gallaf ddysgu a meithrin fy sgiliau. Cefais fy nenu hefyd gan y buddiannau, fel y Cerdyn Gostyngiadau Golau Glas, cyfleoedd datblygu gyrfa a buddiannau eraill.
“Mae gwir botensial i ddatblygu yn eich gyrfa wrth weithio gyda'r tîm TGCh. Dechreuais fy ngyrfa fel Asiant Desg Gwasanaeth ac rwyf wedi gweithio tuag at fod yn beiriannydd cymorth ail linell yn y tîm Dyfeisiau. Rwyf bellach wedi bod yn gweithio yn yr adran am dair blynedd ac wedi cael nifer o brofiadau a'r cyfle i feithrin fy ngwybodaeth, fy sgiliau a'm galluoedd. Rwy'n edrych ymlaen at ddatblygu fy ngyrfa ymhellach yn yr adran, a gydag anogaeth gan fy rheolwyr, rwy'n gwybod y caf y cymorth sydd ei angen arnaf ganddynt i ymgymryd â phrosiectau a thasgau mwy heriol a fydd yn fy ngalluogi i ddysgu sgiliau newydd i ddatblygu fy ngyrfa ym maes TGCh.
“Rwy'n elwa mewn sawl ffordd o weithio yn yr adran TGCh. Mae'n fy ngalluogi i feithrin fy sgiliau gan fy mod bob amser yn agored i dechnolegau newydd. Rwy'n gweithio gyda thîm o weithwyr proffesiynol talentog ac ymroddedig, ac rwy'n teimlo fy mod i'n gwneud gwahaniaeth, gan fy mod yn gwybod fy mod yn cael effaith gadarnhaol ar ddyfodol TGCh yn Heddlu De Cymru.
“Byddwn i'n annog pobl i ymuno â'r tîm TGCh. Mae'n lle gwych i weithio os ydych yn chwilio am yrfa heriol sy'n rhoi boddhad. Mae'r adran yn llawn o weithwyr proffesiynol dawnus ac ymroddedig sydd bob amser yn barod i helpu. Mae llawer o gyfleoedd hefyd i ddysgu a meithrin eich sgiliau.”
Ymunwch â ni i lywio dyfodol Heddlu De Cymru drwy gyfrannu at asgwrn cefn plismona gweithredol drwy ein platfformau technegol o'r radd flaenaf. Yr Adran TGCh, lle mae arloesedd yn cyfarfod â diogelwch a rhagoriaeth!
Yn ogystal â gwneud cyfraniad go iawn i ddiogelwch ein cymunedau, drwy ymuno â #TîmHDC, byddwch yn dod yn rhan o sefydliad blaengar, arloesol a chynhwysol. Gallwch weld mwy o wybodaeth am ein graddfeydd cyflog, buddiannau, mentrau llesiant a rhaglenni gwobrwyo yma.
Edrychwch ar ein bwrdd swyddi byw i weld ein holl gyfleoedd presennol.
Heb ddod o hyd i'r hyn rydych yn chwilio amdano? Os oes gennych ddiddordeb mewn cyfleoedd yn yr adran hon yn y dyfodol, cofrestrwch eich manylion ar ein cronfa ddoniau a gallwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi pan fydd gennym swyddi gwag sy'n gweddu i'ch sgiliau a'ch dewisiadau. cliciwch yma i gofrestru.