Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae pobl yn hollbwysig yn Heddlu De Cymru. Er mwyn cefnogi ein Strategaeth Pobl, ac i sicrhau ein bod yn recriwtio'r bobl gywir i wneud y pethau cywir yn y ffordd gywir, mae'r Adran Adnoddau Dynol yn chwarae rôl hollbwysig.
Mae'r tîm Adnoddau Dynol yn cynnwys amrywiaeth o feysydd, gyda rhai ohonynt wedi'u lleoli ym Mhencadlys yr Heddlu ac eraill (er eu bod yn rhan o'r tîm Adnoddau Dynol o hyd) wedi'u lleoli mewn mannau eraill.
Mae ein meysydd busnes yn cynnwys y canlynol:
Mae Gweithrediadau Adnoddau Dynol yn gyfrifol am gylch bywyd cyflawn cyflogai ac yn helpu i gefnogi cydweithwyr a thimau rheoli ag unrhyw fater sy'n gysylltiedig ag Adnoddau Dynol, gan gynnwys mamolaeth, salwch, gweithio'n hyblyg, cyngor ar bolisïau, gwrthdaro yn y gweithle, ac ati. Mae gennym hefyd dîm Rheoli Achosion sy'n ymdrin â materion cysylltiadau cyflogeion mwy cymhleth sy'n gofyn am roi cyngor arbenigol.
Mae'r adran Adnoddau a Gwobrau yn gyfrifol am recriwtio (gan gynnwys cynyddu ein tangynrychiolaeth o gymunedau amrywiol mewn plismona), hyrwyddo, gwobrwyo, buddiannau a chydnabyddiaeth, gwerthuso swyddi a rhoi polisïau Adnoddau Dynol ar waith i gefnogi'r maes busnes.
Mae'r adran Iechyd Galwedigaethol, Diogelwch a Llesiant yn gyfrifol am roi cyngor a chanllawiau a sicrhau llesiant, gan wneud yn siŵr bod yr amodau gwaith yn ddiogel ac yn iach a bod y systemau a'r arferion gwaith yn ddiogel ac yn cydymffurfio â deddfwriaeth, yn ogystal â sicrhau llesiant pob aelod o'n gweithlu a rhoi cymorth iddynt.
Mae'r adran Gwasanaethau a Rennir yn gyfrifol am weinyddu pob swyddogaeth a phroses yr adran Adnoddau Dynol, gan gynnwys contractau staff yr Heddlu ac ein proses o gynllunio'r gweithlu a'r sefydliad.
Mae “Diwrnod ym mywyd Partner Busnes Adnoddau Dynol” yn anodd ei ddisgrifio mewn geiriau... nid yw'r un dau ddiwrnod yr un peth. Gall gwaith ein Partneriaid Busnes Adnoddau Dynol gynnwys ymdrin â materion gweithredol Adnoddau Dynol neu gefnogi ein meysydd strategol o flaenoriaeth (megis Gwobrwyo a Chydnabod neu Dalent).
Mae Partneriaid Busnes Gweithredol Adnoddau Dynol yn delio ag amrywiaeth o faterion ac maent yn gyfrifol am ddatblygu polisïau ac ymdrin ag achosion penodol a all gynnwys rhoi cyngor i'r tîm rheoli ar gwynion, disgyblaeth a materion galluedd, yn ogystal â rhoi cyngor ar sut i reoli absenoldebau oherwydd salwch a galluedd.
Maent yn rhoi cyngor ac yn aelodau gweithgar o'r Uwch Dimau Rheoli sydd wedi'u lleoli yn eu priod feysydd busnes (wedi'u lleoli mewn Adrannau ym Mhencadlys yr Heddlu neu yn ein Hunedau Rheoli Sylfaenol).
Mae Partneriaid Busnes Adnoddau Dynol Talent a Gwobrwyo a Chydnabod yn cefnogi cyfeiriad strategol yr heddlu ac mae eu gwaith yn canolbwyntio ar brosiectau. Cysoni blaenoriaethau sefydliadol â'r broses o gynllunio prosiect a'r canlyniadau.
Mae rôl y Cynghorydd Adnoddau Dynol (AD) yn amrywiol. Gall fod yn gweithio'n uniongyrchol i gefnogi'r Partneriaid Busnes Adnoddau Dynol gyda meysydd AD gweithredol y busnes, yn ogystal â gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf i bob rheolwr llinell ac aelod o'r staff ar gyfer materion gweithredol AD.
Yn ogystal â meysydd busnes gweithredol AD, gall cynghorwyr AD hefyd gael eu lleoli yn ein maes cynllunio busnes ar gyfer y gweithlu, lle y byddant yn gweithio gyda data a dadansoddi tueddiadau, athreuliad a cheisiadau swyddi/rolau newydd. Byddant hefyd yn gweithredu fel arweinydd hanfodol ar gyfer holl ddata pobl yr heddlu.
Mae Cynghorwyr AD yn chwarae rhan allweddol wrth ddelio ag ymholiadau o ddydd i ddydd a chefnogi partner busnes AD. Maent yn rhyngweithio'n gyson â staff a swyddogion yn HDC a byddant yn ymgymryd â gwaith prosiect lle bo angen.
Mae ein gweinyddwyr yn cefnogi ein swyddogaethau AD mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys contractau cyflogaeth a newidiadau i gyflogaeth a threfniadau prosesu recriwtio a dethol. Gallant hefyd gefnogi llesiant ein gweithlu presennol drwy drefnu a chymeradwyo apwyntiadau gyda'r adran iechyd galwedigaethol neu Gynghorwyr Meddygol yr Heddlu.
Mae gan bob gweinyddwr lwyth gwaith amrywiol ac maent yn defnyddio nifer o systemau gwahanol, gan gynnwys Microsoft Office, Outlook, Excel, Word a PowerPoint o bryd i'w gilydd) a'n systemau mewnol ein hunain (gan gynnwys AD, recriwtio, desg gwasanaeth (ymholiadau AD) ac Iechyd a Rheoli).
Mae ein gweinyddwyr yn gweithio mewn amgylchedd prysur ac maent yn sicrhau y caiff y staff a'r swyddogion wybod am unrhyw newidiadau i'w bywyd gwaith.
Er mwyn cefnogi ein gweledigaeth o wneud ein gorau i ddeall anghenion ein cymunedau a'u diwallu, mae angen i ni sicrhau bod yr ymgeiswyr gorau posibl o amrywiaeth eang o gefndiroedd yn gwneud cais i ddod yn rhan o'n teulu plismona. Ein nod yw denu, recriwtio, cefnogi a hyrwyddo unigolion talentog sy'n cynrychioli'r cymunedau amrywiol a wasanaethir gennym ledled De Cymru. Dyma lle mae ein Swyddogion Gweithredu Cadarnhaol yn cefnogi'r nod hwn.
Maent yn mynychu digwyddiadau ymgysylltu, ysgolion, prifysgolion a ffeiriau swyddi wyneb yn wyneb ledled ardal yr heddlu i drafod y cyfleoedd gwahanol sydd ar gael ym mhob rhan o'r ardal.
Maent hefyd yn cynnig sesiynau uwchsgilio ac yn eu cynnal ar gyfer unigolion sydd wedi cyrraedd y broses ddethol ac o gefndiroedd sydd wedi'u tangynrychioli. Mae'r sesiynau uwchsgilio hyn wedi'u teilwra i'r broses ymgeisio ar gyfer pob swydd wag.
Maent hefyd yn cefnogi prosiectau eraill yn yr heddlu er mwyn cynyddu'r broses o ymgysylltu â chymunedau sydd wedi'u tangynrychioli a bod ar gael i ateb unrhyw gwestiynau neu ymateb i bryderon y gall fod gan ymgeiswyr.
Mae'r cymorth Gweithredu Cadarnhaol sydd ar gael yn darparu dealltwriaeth o'r hyn sydd i'w ddisgwyl a chaiff unrhyw ymgeisydd a gaiff ei benodi ei ddewis ar sail teilyngdod yn unig. Nid yw'r broses gweithredu cadarnhaol yn ceisio cael gwared ar y gystadleuaeth a bydd Heddlu De Cymru bob amser yn penodi'r ymgeiswyr gorau posibl.
Yn Heddlu De Cymru, mae ein Huwch Gynghorwyr Iechyd Galwedigaethol yn gweithio'n annibynnol, gan ddefnyddio ystod eang o sgiliau a phrofiad i gyflawni'r rôl a gwneud penderfyniadau effeithiol. Gall dyletswyddau amrywio o ymgymryd â lleoliad gwaith meddygol cyn cyflogi, archwiliadau meddygol a sgrinio iechyd, rhoi brechiadau, asesu ffitrwydd i weithio, hyrwyddo iechyd ac addysg iechyd, ymgynghoriadau cleientiaid a rheoli achosion cymhleth gan ymateb i atgyfeiriadau'r rheolwr llinell. Mae'r amrywiaeth eang hon o dasgau yn golygu y byddant yn cael cyfle rhagorol i barhau i ddefnyddio eu gwybodaeth am iechyd galwedigaethol er mwyn helpu nifer o swyddogion a staff ar draws y sefydliad.
Mae gan Heddlu De Cymru weithlu amrywiol sy'n darparu gwasanaeth cyhoeddus sy'n gweithredu mewn swyddogaethau arbenigol cymhleth a heriol iawn. Mae rhai o'r meysydd arbenigol hyn yn cynnwys swyddogion arfau tanio, trafodwyr gwystl, swyddogion cŵn, ymchwilwyr lleoliadau troseddau, gweithredwyr yr ystafell reoli, swyddogion ymateb a swyddogion cymdogaeth ymhlith llawer mwy. Mae gwasanaethau Iechyd Galwedigaethol a Llesiant yn berthnasol i bob un o'r meysydd hyn gyda phob achos yn wahanol, mae hyn yn cadw'r rôl yn amrywiol ac yn ddiddorol.
Bydd ein cynghorwyr yn cael cyfle i ymgysylltu â'r grwpiau hyn i feithrin dealltwriaeth well o'r hyn mae'r rôl yn ei olygu fel y gallwn ddarparu ein gwasanaethau yn rhagweithiol, yn ogystal â theilwra ein gwasanaethau i ddiwallu anghenion penodol. Bydd cynghorwyr yn datblygu cydberthnasau gwaith agos â'r grwpiau hyn a disgyblaethau eraill o fewn y sefydliad, gan gynnwys Adnoddau Dynol a Phrif Swyddogion a fydd yn aml yn cynnwys Iechyd Galwedigaethol am gefnogaeth a chyngor gydag amrywiaeth eang o achosion.
Mae hwn yn amgylchedd cefnogol lle byddant yn rhan o dîm sy'n cynnwys Prif Gynghorydd Iechyd Galwedigaethol a Llesiant, Uwch Gynghorydd Iechyd Galwedigaethol arall, Nyrs Glinigol a Nyrs Glinigol Gefnogol, Cwnselwyr a staff cymorth eraill. Er mwyn cefnogi'r swyddogaeth ymhellach, mae HDC yn gweithredu system Rheoli Cleifion newydd ar gyfer ein cofnodion iechyd galwedigaethol sy'n brosiect cyffrous iawn.
Mae'r oriau ym maes Nyrsio Iechyd Galwedigaethol yn gadarnhaol – o ddydd Llun i ddydd Gwener 9-5 ac mae cyfleoedd hefyd i weithio'n hyblyg, gweithio gartref a 24 diwrnod o wyliau blynyddol. Bydd cyfleoedd i fynd i ardaloedd amrywiol gan gynnwys ein cyfleusterau newydd sbon ym Mhencadlys Pen-y-bont ar Ogwr.
O ran datblygiad, mae Heddlu De Cymru yn gefnogol iawn o hyn a bydd unigolion yn cael cyfle i gwblhau amrywiaeth eang o hyfforddiant Iechyd Galwedigaethol, gan gynnwys cymorth arbenigol â ffocws ar drawma ar gyfer rolau risg uchel, sgiliau cyfweld strwythuredig a gwaith clinigol gan gynnwys awdiometreg, sgrinio'r llygaid a gofynion goruchwylio iechyd eraill, yn ogystal ag ymgynghoriadau rheoli achosion rheolaidd. Byddant yn paratoi adroddiadau iechyd galwedigaethol o ansawdd mewn ymateb i atgyfeiriadau'r rheolwr ac o bosib bydd gofyn iddynt roi cyngor a dilyniant i gyflogeion a allai fod wedi bod yn agored i beryglon drwy eu gwaith, er enghraifft firysau a gludir yn y gwaed.
Caiff yr ymgeisydd llwyddiannus y cyfle i ddatblygu'r rôl ymhellach gan ddod â syniadau newydd ac archwilio ffyrdd unigryw o helpu swyddogion a staff yr heddlu yn eu gwaith o ddydd i ddydd lle efallai y byddant yn absennol o'r gwaith oherwydd anawsterau iechyd corfforol neu seicolegol.
Yn ogystal â gwneud cyfraniad go iawn i ddiogelwch ein cymunedau, drwy ymuno â #TîmHDC, byddwch yn dod yn rhan o sefydliad blaengar, arloesol a chynhwysol. Gallwch weld mwy o wybodaeth am ein graddfeydd cyflog, buddiannau, mentrau llesiant a rhaglenni gwobrwyo yma.
Edrychwch ar ein bwrdd swyddi byw i weld ein holl gyfleoedd presennol.
Heb ddod o hyd i'r hyn rydych yn chwilio amdano? Os oes gennych ddiddordeb mewn cyfleoedd yn yr adran hon yn y dyfodol, cofrestrwch eich manylion ar ein cronfa ddoniau a gallwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi pan fydd gennym swyddi gwag sy'n gweddu i'ch sgiliau a'ch dewisiadau: cliciwch yma i gofrestru.