Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r Adran Cyllid Corfforaethol yn gyfrifol am Reolaeth Ariannol y sefydliad, sy'n cynnwys rheoli'r gyllideb flynyddol (£358M ar gyfer 2023/24), cyhoeddi Datganiad o Gyfrifon y sefydliad, talu cyflogau dros 6,000 o swyddogion/staff yr heddlu a thalu tua 25,000 o anfonebau gan gyflenwyr yn flynyddol.
Mae'r adran hefyd yn llunio Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y sefydliad bob blwyddyn. Hon sy'n cadarnhau lefel y Praesept (elfen yr heddlu o'r Dreth Gyngor) a delir gan y cyhoedd.
Ochr yn ochr â'r rhain, mae'r adrannau'n darparu swyddogaeth Rheoli Trysorlys sy'n gyfrifol am reoli benthyciadau a buddsoddiadau'r sefydliad sy'n cefnogi'r Rhaglen Gyfalaf 4 blynedd gwerth £90M sy'n cynnwys datblygiadau newydd a chyffrous fel Canolfan Ddysgu'r Heddlu a Maes Saethu Arfau Tanio Tri-Heddlu Cydweithredol.
Treuliwyd fy more yn ateb ymholiadau Swyddfa Archwilio Cymru gan fod ein Datganiad o Gyfrifon blynyddol yn cael ei archwilio ar hyn o bryd ac mae llawer o ymholiadau i archwilwyr eu hateb er mwyn iddynt allu rhoi sicrwydd bod yr Heddlu wedi rheoli ei faterion ariannol yn effeithiol yn ystod y flwyddyn.
Defnyddiais y gampfa ar y safle amser cinio oherwydd rwy'n hoffi cadw'n heini.
Cynhaliais Adolygiad Datblygiad Personol gydag aelod o'r tîm ar ddechrau'r prynhawn. Mae'n hyfforddi i fod yn gyfrifydd cymwys a noddir gan yr heddlu dan gytundeb hyfforddiant.
Treuliwyd ail hanner y prynhawn mewn cyfarfod gyda'n cynghorwyr treth. Mae fy nhîm yn cwblhau'r ffurflenni TAW misol ac weithiau, ceir materion TAW cymhleth yn ymwneud â rhai o'n prosiectau Gwariant Cyfalaf mwy o faint. Mae'n bwysig cael y driniaeth gyfrifyddu yn gywir er mwyn i ni wneud y gorau o'n cyllidebau.
Treuliais y bore yn gweithio ar y dyfarniad cyflog diweddar a gynigiwyd i gydweithwyr. Mae'n bwysig y caiff cyflogau pawb eu diweddaru i adlewyrchu'r cynnydd hwn er mwyn iddynt gael eu talu'n gywir.
Gwnes i fwyta fy nghinio gyda'm cymydog am ein bod yn ffrindiau da ac mae'r ddau ohonom yn gweithio gartref tua 70% o'r amser. Mae'r Heddlu yn gyflogwr hyblyg ac mae llawer o aelodau o staff yr Adran Gyllid yn gallu gweithio gartref ond maent yn mynd i'r swyddfa ar ddiwrnodau penodol i gysylltu â'u cydweithwyr.
Ar ddechrau'r prynhawn, cawsom ein cyfarfod tîm wythnosol gan ddefnyddio MS Teams/fideogynadledda. Dyma lle rydym yn llunio'r cynllun gwaith ar gyfer yr wythnos gyda'n rheolwr. Yr wythnos hon yw'r ychydig ddyddiau olaf ar gyfer dyddiad cau'r gyflogres felly bydd rhaid gwirio'n drwyadl i wneud yn siŵr bod yr holl dreuliau a hawliadau goramser yn gywir a bod yr holl ddechreuwyr newydd ac ymadawyr ar gyfer y mis wedi'u prosesu'n gywir.
Treuliwyd rhan olaf y diwrnod mewn cyfarfod gyda chyflenwyr allanol sy'n ein helpu ni i wneud rhai newidiadau hanfodol i feddalwedd y gyflogres sy'n gysylltiedig â chynlluniau aberthu cyflog.
Rydym yn gweithio ar brosiect mawr o'r enw Pensions Remedy ar hyn o bryd. Mae a wnelo â chywiro camgymeriad gan Lywodraeth y DU gyda rhai newidiadau a wnaed i Reoliadau Pensiwn yr Heddlu yn 2015. Treuliais y bore yn edrych ar gronfa ddata i sicrhau bod meysydd fel hyd gwasanaeth, hanes cyflogau ac ati yn gywir cyn i ffeil y gronfa ddata gael ei hanfon at ein gweinyddydd pensiynau allanol.
Treuliais ddechrau’r prynhawn yn helpu tîm y gyflogres. Mae pob un ohonom yn cydweithio ar ddiwedd y mis i sicrhau y caiff dyddiadau cau hollbwysig eu cyflawni.
Tuag at ddiwedd y diwrnod, ymunais mewn cyfarfod â'r Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyllid a gweddill y tîm pensiynau. Gan fod pensiynau wedi mynd yn gymhleth iawn dros y 5 mlynedd diwethaf, rydym yn dal i fyny gyda'r Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyllid yn fisol er mwyn i'r holl waith cysylltiedig â phensiynau gael ei gynllunio'n briodol a bod canlyniadau ariannol y gwaith hwnnw'n cael eu nodi gan yr Heddlu fel rhan o'i drefniadau cynllunio ariannol.
Yn ogystal â gwneud cyfraniad go iawn i ddiogelwch ein cymunedau, drwy ymuno â #TîmHDC, byddwch yn dod yn rhan o sefydliad blaengar, arloesol a chynhwysol. Gallwch weld mwy o wybodaeth am ein graddfeydd cyflog, buddiannau, mentrau llesiant a rhaglenni gwobrwyo yma.
Edrychwch ar ein bwrdd swyddi byw i weld ein holl gyfleoedd presennol.
Heb ddod o hyd i'r hyn rydych yn chwilio amdano? Os oes gennych ddiddordeb mewn cyfleoedd yn yr adran hon yn y dyfodol, cofrestrwch eich manylion ar ein cronfa ddoniau a gallwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi pan fydd gennym swyddi gwag sy'n gweddu i'ch sgiliau a'ch dewisiadau. cliciwch yma i gofrestru.