Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ydych chi'n chwilio am yrfa heb ei hail? Ydych! Yna, mae'n bosibl mai interniaeth gyda Heddlu De Cymru yw'r lle i ddechrau eich gyrfa mewn proffesiwn lle mae pob diwrnod yn wahanol.
Wrth ymuno â #TîmHDC byddwch yn gweithio gyda heddlu blaenllaw lle gallwch gyfrannu syniadau newydd a gweithio i wneud gwahaniaeth mewn cymdeithas.
Mae Interniaeth Heddlu De Cymru yn rhoi cyfle i chi brofi eich gwybodaeth academaidd mewn lleoliad ymarferol a phroffesiynol lle byddwch yn cael profiad gwaith a hyfforddiant gwerthfawr. Gallwch fod yn hyderus, drwy gydol eich interniaeth, y cewch eich cefnogi gan dîm arbenigol a fydd yn eich annog i gyflawni eich potensial.
Bydd dod yn rhan o #TîmHDC yn cynnig profiad dysgu unigryw i chi lle byddwch yn cyfrannu at brosiectau go iawn mewn amgylchedd cymhleth ac amrywiol. Rydym yn gwerthfawrogi unigoliaeth ac yn annog syniadau newydd a chreadigrwydd a fydd yn cyfrannu at ein llwyddiant fel heddlu ac yn gwneud gwahaniaeth i gymdeithas.
Mae ein hinterniaethau yn rhai â thâl ac yn para am flwyddyn gan ddechrau ym mis Medi bob blwyddyn. Maent yn addas i'r rhai sy'n astudio ar gyfer gradd ac yn chwilio am flwyddyn mewn lleoliad mewn diwydiant neu'r rhai sydd wedi graddio'n ddiweddar ac sy'n awyddus i feithrin eu dealltwriaeth ac ennill profiad ym maes plismona.
Mae sawl mantais i weithio i Heddlu De Cymru, o gyfleoedd dysgu a datblygu i gynlluniau y bwriedir iddynt wella eich ffordd o fyw a'ch llesiant, yn ogystal â Chynllun Pensiwn Llywodraeth Leol/Cynlluniau Pensiwn yr Heddlu sy'n hael iawn, gwyliau blynyddol â thâl, gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd a llawer mwy, cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.
Noder, er mwyn bod yn gymwys ar gyfer Rhaglen Interniaethau Heddlu De Cymru, rhaid i chi fodloni'r meini prawf canlynol:
Gall y swydd hon fod yn gymwys i ymgeiswyr sydd wrthi'n astudio yn y DU ar fisa Haen 4 (myfyrwyr sy'n oedolion), os caiff lefel y fetio safonol adeg recriwtio ei bodloni'n llwyddiannus. Caiff hyn ei ystyried fesul achos ar ôl gwneud cais
Anfonwch unrhyw gwestiynau yn uniongyrchol at [email protected]