Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ydych chi'n chwilio am yrfa heb ei hail? Ydw! Yna efallai mai Prentisiaeth Staff Heddlu De Cymru yw'r lle perffaith i ddechrau eich gyrfa mewn proffesiwn lle mae pob diwrnod yn wahanol.
Mae Heddlu De Cymru yn falch o gyhoeddi'r cyfleoedd Staff Heddlu canlynol fel rhan o raglen brentisiaeth 2023-2025.
Bydd y rolau hyn ar agor ar gyfer ceisiadau yn ystod gwanwyn 2023. Os hoffech gael hysbysiad pan fyddant yn agor, anfonwch e-bost at [email protected]
Rydym yn cynnal sesiwn ar-lein sy'n benodol ar gyfer y ffurflen cais am brentisiaeth. Mae croeso i unrhyw un sy'n awyddus i wneud cais i raglen Prentisiaethau Heddlu De Cymru ymuno â ni #Ymunwchâni. Gallwch gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn yma.
Os na allwch fynychu gallwn ddarparu canllawiau ysgrifenedig ar y ffurflenni hyn. E-bostiwch y tîm Gweithredu Cadarnhaol i ddysgu mwy.
Drwy ymuno â #TîmHDC byddwch yn gweithio mewn heddlu blaenllaw, lle bydd cyfle i chi gyfrannu syniadau newydd a gweithio i wneud gwahaniaeth mewn cymdeithas.
Mae Rhaglen Brentisiaeth Heddlu De Cymru yn gyfle ardderchog i chi os ydych yn awyddus i ddatblygu eich sgiliau gwaith yn ogystal ag ennill cymhwyster academaidd. Mae'r cyfle hwn yn gweddu i bobl sy'n dechrau eu gyrfa yn ogystal â'r rheini sy'n awyddus i newid gyrfa.
Bydd dod yn rhan o #TîmHDC yn cynnig profiad dysgu unigryw i chi lle byddwch yn cyfrannu at brosiectau bywyd go iawn mewn amgylchedd cymhleth ac amrywiol. Rydym yn gwerthfawrogi unigolrwydd ac yn annog syniadau newydd a chreadigrwydd a fydd yn cyfrannu at ein llwyddiant fel heddlu ac yn gwneud gwahaniaeth mewn cymdeithas. Rydym yn chwilio am bobl sydd â sgiliau a phrofiadau amrywiol sy'n arloesol, yn frwdfrydig, yn uchelgeisiol ac, yn fwy na dim, yn unigolion talentog sy'n dyheu am fod yn arweinwyr y dyfodol ac yn awyddus i ymuno â'n tîm llwyddiannus.
Rhaglen â thâl yw'r rhaglen brentisiaeth, ac fe'i cynhelir am gyfnod o 12 - 18 mis (yn ddibynnol ar fodloni gofynion y cymhwyster) gan ddechrau ym mis Medi. Mae'n brentisiaeth lefel 3 a bydd disgwyl i chi gwblhau cymhwyster Lefel 3 ochr yn ochr â'ch gwaith gyda Heddlu De Cymru. Byddwch yn cael eich cefnogi drwy'r cwrs gan diwtor o'r coleg a gan eich tîm yn y gweithle. Ar ddiwedd y cymhwyster, byddwch yn gallu gwneud cais am rôl barhaol yn Heddlu De Cymru.
Mae buddiannau niferus i weithio i Heddlu De Cymru, o gyfleoedd dysgu a datblygu i gynlluniau sy'n anelu at wella eich ffordd o fyw a'ch llesiant, yn ogystal â Chynllun Pensiwn Llywodraeth Leol / Cynlluniau Pensiwn yr Heddlu hael, gwyliau blynyddol â thâl, gweithio hyblyg a pholisïau cyfeillgar i deuluoedd a llawer mwy, cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.
Sylwer er mwyn bod yn gymwys ar gyfer Rhaglen Brentisiaeth HDC rhaid i chi:
Anfonwch unrhyw gwestiynau at [email protected]