Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ydych chi'n chwilio am yrfa heb ei hail? Ydych! Yna, mae'n bosibl mai Rhaglen i Raddedigion Heddlu De Cymru yw'r lle i ddechrau eich gyrfa mewn proffesiwn lle mae pob diwrnod yn wahanol.
Wrth ymuno â #TîmHDC byddwch yn gweithio gyda heddlu blaenllaw lle gallwch gyfrannu syniadau newydd a gweithio i wneud gwahaniaeth mewn cymdeithas.
Mae rhaglen i Raddedigion Heddlu De Cymru yn gyfle gwych i chi os ydych eisiau'r cyfle i feithrin profiad gwaith hanfodol mewn maes o'ch dewis wrth adeiladu ar eich cyflawniadau academaidd. Gallwch fod yn hyderus, drwy gydol eich rhaglen i raddedigion, y cewch eich cefnogi gan dîm arbenigol a fydd yn eich annog i gyflawni eich potensial.
Bydd dod yn rhan o #TîmHDC yn cynnig profiad dysgu unigryw i chi lle byddwch yn cyfrannu at brosiectau go iawn mewn amgylchedd cymhleth ac amrywiol. Rydym yn gwerthfawrogi unigoliaeth ac yn annog syniadau newydd a chreadigrwydd a fydd yn cyfrannu at ein llwyddiant fel heddlu ac yn gwneud gwahaniaeth i gymdeithas. Rydym yn chwilio am bobl ag amrywiaeth o wahanol sgiliau a phrofiadau sy'n arloesol, yn llawn cymhelliant ac yn uchelgeisiol. Yn anad dim, rydym yn chwilio am unigolion talentog sy'n awyddus i fod yn arweinwyr y dyfodol ac sydd am ymuno â'n tîm llwyddiannus.
Mae ein rhaglen i raddedigion yn cynnwys tâl ac yn rhedeg dros gyfnod o ddwy flynedd gan ddechrau ym mis Medi. Mae'n addas ar gyfer myfyrwyr sydd yn eu blwyddyn olaf sy'n cwblhau eu cwrs eleni (gyda gradd ddisgwyliedig o 2:1 neu uwch) neu fel arall y rheini sydd wedi graddio yn ystod y tair blynedd ddiwethaf, gyda gradd 2:2 neu uwch. Ar ddiwedd y 2 flynedd, mae cyfle hefyd i ddod yn gyflogai parhaol gyda Heddlu De Cymru, yn amodol ar fodloni'r meini prawf angenrheidiol.
Mae sawl mantais i weithio i Heddlu De Cymru, o gyfleoedd dysgu a datblygu i gynlluniau y bwriedir iddynt wella eich ffordd o fyw a'ch llesiant, yn ogystal â Chynllun Pensiwn Llywodraeth Leol/Cynlluniau Pensiwn yr Heddlu sy'n hael iawn, gwyliau blynyddol â thâl, gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd a llawer mwy, cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.
Noder, er mwyn bod yn gymwys ar gyfer Rhaglen i Raddedigion Heddlu De Cymru, rhaid i chi fodloni'r meini prawf canlynol:
Lawrlwythwch gylch gorchwyl Rhaglen i Raddedigion Heddlu De Cymru yma.
Anfonwch unrhyw gwestiynau yn uniongyrchol at [email protected]