Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ym mhob achos, cyn cyflwyno eich cais gwnewch yn siŵr eich bod yn:
Mae Ffurflenni Cais Staff yr Heddlu yn cynnwys dwy ran:
Bydd y cam hwn yn gofyn am eich manylion personol, eich manylion cyswllt a'ch rhif yswiriant gwladol. Yna, byddwn yn gofyn cwestiynau am eich cymhwysedd ar gyfer y swydd. Gall hyn statws preswylio, ymlyniad gwleidyddol, statws ariannol a gwybodaeth am unrhyw rybuddion ac euogfarnau. Gall y cwestiynau a ofynnir fel rhan o'r adran hon amrywio o ffurflen i ffurflen yn dibynnu ar ba rôl rydych yn gwneud cais amdani a'r gofynion cymhwysedd ar gyfer y rôl honno. Er enghraifft, efallai y bydd rhai rolau hefyd yn ceisio gwybodaeth am eich gallu i yrru, unrhyw datŵs sydd gennych neu a ydych erioed wedi bod yn aelod o'r lluoedd arfog.
Gellir rhannu Adran 2 ffurflen gais Staff yr Heddlu yn dair rhan:
Rhan A - Gwybodaeth am eich cymhwysedd ar gyfer fetio diogelwch. Bydd hefyd yn gofyn a oes gennych anabledd: mae hyn er mwyn i ni allu cysylltu â chi ynghylch addasiadau rhesymol.
Rhan B - Gwybodaeth bresennol a blaenorol am eich cyflogaeth, eich cyfeiriadau, eich addysg, unrhyw fuddiannau busnes a'ch sgiliau iaith.
Rhan C - Asesiad ar sail cymhwysedd. Dyma'r rhan o'ch ffurflen gais a ddefnyddir yn ystod y broses o lunio rhestr fer. Mae'n bwysig bod yr holl wybodaeth berthnasol rydych am gael eich asesu yn ei herbyn hefyd yn cael ei chynnwys, hyd yn oed os caiff ei chrybwyll rywle arall yn eich cais. Er enghraifft, os gofynnir i chi ddangos tystiolaeth o gymwysterau penodol fel TGAU, dylid eu rhestru hefyd yn yr ardal asesu hon, nid dim ond yn yr adran addysg yn Rhan B.
Bydd proffil sy'n gysylltiedig â'r swydd rydych yn gwneud cais amdani wedi'i atodi i'r hysbyseb. Diben y proffil hwn yw rhoi trosolwg o'r rôl a'r meini prawf y bydd angen i chi allu eu bodloni er mwyn gwneud y gwaith. Dylech ddefnyddio Proffil y Rôl i gwblhau rhan asesu'r ffurflen gais.
Mae proffil y rôl yn manylu ar y prif gyfrifoldebau a'r meini prawf sy'n ofynnol ar gyfer y rôl. Wrth ddangos tystiolaeth o'ch sgiliau, eich gwybodaeth, eich profiad a'ch rhinweddau personol fel y'u hamlinellir ym meini prawf proffil y rôl, efallai yr hoffech ystyried y prif gyfrifoldebau a pha gymwyseddau / rhinweddau sydd gennych i fodloni'r cyfrifoldebau hyn.
Cymhwysedd yw rhinwedd a ddefnyddir i fesur pa mor dda y gallwch wneud rhywbeth: gall cymwyseddau gynnwys meysydd megis, ‘cynnal safonau proffesiynol’ neu ‘peidio â chynhyrfu ac aros yn broffesiynol dan bwysau’. Os gallwch ddangos tystiolaeth yn eich cais o adeg pan rydych wedi llwyddo i gynnal safonau proffesiynol neu beidio â chynhyrfu dan bwysau, byddwch yn dangos eich bod yn ‘gymwys’ yn y meysydd hyn. Rhaid i chi ddangos tystiolaeth o'r rhinweddau sydd gennych eisoes, neu y gallech eu datblygu, sy'n eich galluogi i gyflawni'r rôl. Defnyddir eich atebion yn yr adran hon i benderfynu a fydd eich cais yn symud ymlaen i'r cam nesaf. Mae'n bwysig eich bod yn meddwl yn ofalus am eich ymatebion, a all fod yn seiliedig ar brofiadau diweddar neu o'r gorffennol.
Mae proffil pob rôl rydym yn ei hysbysebu yn nodi'n glir restr gyflawn o gymwyseddau sy'n ofynnol ac yn ddymunol gan unigolyn i gyflawni'r rôl honno.
Mae'r meini prawf cymhwysedd y mae'n rhaid i chi ddangos tystiolaeth ohonynt wedi'u nodi ar ddiwedd y ddogfen. Caiff y meini prawf cymhwysedd eu dangos ar ffurf tabl.
Wrth gwblhau eich cais, sicrhewch eich bod ond yn cwblhau'r adrannau wedi'u marcio â ‘✔' yn y tabl. Peidiwch â chwblhau’r meini prawf sydd wedi'u marcio â ‘X’ gan na fydd y rhain yn cael eu hasesu. Caniateir 500 gair ar gyfer pob maen prawf – ni fydd y cyfrif geiriau yn cario drosodd i'r maen prawf nesaf.
Er mwyn dangos tystiolaeth o feini prawf cymhwysedd perthnasol, bydd angen i chi ddarparu enghreifftiau penodol o dasgau gwaith rydych wedi'u cyflawni neu ddigwyddiadau rydych wedi'u mynychu. Gallwch hefyd nodi sgiliau neu brofiadau rydych wedi'u hennill drwy wneud gwaith gwirfoddol, gwaith yn eich cartref eich hun neu yn yr ysgol, y coleg neu'r brifysgol, yn ogystal â sgiliau a phrofiadau rydych wedi'u hennill drwy waith â thâl.
Nid yw'n hanfodol darparu tystiolaeth ar gyfer pob pwynt unigol – bydd un enghraifft yn aml yn ymdrin â nifer o feini prawf allweddol ac, felly, yn aml gall fod yn addas darparu un senario sy'n disgrifio nifer o sgiliau neu rinweddau personol.
Rydym am wybod am yr hyn y gwnaethoch CHI ei ddweud neu ei wneud ar adeg benodol er mwyn delio â'r sefyllfa. Felly, mae'n bwysig bod yr enghreifftiau y byddwch yn eu rhoi yn sôn am eich profiadau chi, a'u bod mor fanwl â phosibl. Rydym yn disgwyl i'ch atebion fod yn berthnasol ac yn gydwybodol. Ceisiwch osgoi defnyddio jargon a bratiaith gan fod hyn yn annerbyniol.
Efallai eich bod eisoes yn defnyddio strwythur ateb rydych yn gyfforddus ag ef, ond os nad ydych, gall STAR fod yn ddefnyddiol i'w ystyried pan fyddwch yn rhoi ateb a strwythur i'ch asesiad ysgrifenedig.
STAR:
Caiff y cymwysterau sy'n ofynnol ar gyfer rôl eu nodi'n glir ym mhroffil y rôl. Mae'n bwysig y gallwch ddangos tystiolaeth eich bod wedi cyrraedd y lefel ofynnol, hyd yn oed os nad y lefel a nodwyd yw'r un uchaf. Er enghraifft, os oes gennych radd ond mae proffil y rôl yn nodi mai TGAU yw lefel y cymwysterau, rhaid i chi gynnwys eich cymwysterau TGAU fel rhan o'r cymhwystra ar gyfer y rôl.
Diddordeb busnes yw gweithgarwch neu gyflogaeth y gallwch fod yn eu cyflawni y tu allan i'ch rôl yn Heddlu De Cymru. Gall gynnwys rolau gwirfoddol, trwydded alcohol a hefyd unrhyw rôl sy'n arwain at elw ariannol e.e. rhentu eiddo. Gall rhai galwedigaethau a diddordebau busnes fod yn anghydnaws â chyflogaeth â Heddlu De Cymru. Caiff pob diddordeb busnes ei adolygu ar sail unigol.
Mae adran asesu'r ffurflen gais ar-lein ar gyfer ein swyddi Prentisiaeth, Interniaeth a Graddedig ychydig yn wahanol gan mai dim ond un bocs y mae angen i chi ei gwblhau ac mae gennych 2000 o eiriau i'w defnyddio ar gyfer yr adran hon. Bydd angen i'r adran hon ddangos eich sgiliau a'ch profiadau a'ch addasrwydd ar gyfer y rôl yn erbyn proffil y rôl. Gall fod yn ddefnyddiol ystyried yr adran hon fel eich datganiad personol; dyma eich lle chi i ddweud wrthym pam mai chi yw'r person cywir ar gyfer y rôl.
Awgrymiadau defnyddiol
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich cais ar gyfer Rhaglen Brentisiaeth, Interniaeth neu Raddedig - gan gynnwys cymorth i wneud cais - anfonwch e-bost at [email protected]
Dysgwch fwy am y rolau hyn:
Pan fyddwch wedi cyflwyno eich cais cyfan ac mae'r dyddiad cau wedi bod, y broses fydd:
Nodwch y bydd y broses hon yn wahanol i rai rolau staff yn cynnwys Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu a'r rheini sydd wedi'u lleoli yn y Ganolfan Gwasanaeth Cyhoeddus oherwydd gofynion ychwanegol y rolau hyn.
Bydd angen i bawb sy'n ymuno â Heddlu De Cymru gwblhau proses fetio diogelwch. Byddai'n ddefnyddiol i chi ddechrau casglu'r canlynol gan y byddant yn ofynnol fel rhan o'r broses hon:
Casglwch fanylion eich teulu/ffrindiau/cysylltiadau, h.y.:
Casglwch fanylion unrhyw gysylltiad blaenorol â'r heddlu, e.e.:
Os ydych yn ystyried bod gennych anabledd, dywedwch wrthym am y math o addasiadau a allai eich helpu i gymryd rhan yn y broses recriwtio a dethol. Bydd Heddlu De Cymru yn ceisio gwneud yr addasiadau rhesymol sydd eu hangen lle y bo'n ymarferol.
Os byddwch yn llwyddiannus, bydd angen i chi gwblhau holiadur meddygol ac, yn dibynnu ar y swydd, mae'n bosibl y bydd angen i chi gwblhau archwiliad meddygol e.e. prawf clyw/llygaid.
Mae rhagor o wybodaeth am addasiadau rhesymol i'w gweld yma.
Fel sefydliad rydym yn annog staff i ddefnyddio'r Gymraeg yn fewnol, er mwyn creu mwy o gyfleoedd i weld, clywed a defnyddio'r Gymraeg wrth weithredu ein busnes. Er y gallwch wneud cais i ymuno â'r heddlu heb unrhyw allu yn y Gymraeg, disgwylir i bob aelod newydd o Staff yr Heddlu gyrraedd Cymraeg lefel 1 erbyn diwedd ei gyfnod prawf, a Chymraeg lefel 2 erbyn ei flwyddyn gyntaf neu ei ail flwyddyn yn y swydd, gan ddibynnu ar y rôl y gwneir cais amdani.
Disodlwyd Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 gan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ac fel rhan o'r ddeddfwriaeth newydd, mae gan y Gymraeg statws cyfreithiol cyfartal i'r Saesneg yng Nghymru, ac ni ddylid ei thrin yn llai ffafriol. Nid oes angen i gyrff cyhoeddus lunio cynlluniau'r iaith Gymraeg a'u rhoi ar waith mwyach, ond mae'n rhaid iddynt bellach gydymffurfio â chyfres o safonau Cymraeg cenedlaethol.
Caiff sgiliau Cymraeg eu cynnwys ar bob proffil rôl. Pan fydd y rhain yn hanfodol, efallai y cewch eich asesu ar eich gallu yn y Gymraeg fel rhan o'r broses gwneud cais. Pan fydd y rhain yn ddymunol, gallwch wneud cais ar gyfer y rôl a byddwch yn cael hyfforddiant llawn a chymorth pan fyddwch wedi ymuno â ni er mwyn cyflawni'r lefel ofynnol yn y Gymraeg.
Dylech. Byddwch yn cael cyfle i gynnwys pob iaith y mae gennych lefel o sgil ynddi fel rhan o'r ffurflen gais a byddem yn eich annog i'w cynnwys. Gall y rhain fod ar unrhyw lefel o sgyrsiol i rugl.