Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Tarian yw'r Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol a sefydlwyd yn 2003 gan y tri Heddlu yn Ne Cymru. Mae'n rhan o rwydwaith o ddeg Uned Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol ledled y wlad sy'n cydweithio i ymchwilio i Droseddau Cyfundrefnol Difrifol a mynd i'r afael â nhw.
Mae Troseddau Cyfundrefnol Difrifol yn cwmpasu amrywiaeth o fygythiadau a niweidiau, sy'n cael effaith drasig ar gymunedau, teuluoedd ac unigolion, yn ogystal â cholledion sylweddol i fasnach a'r wladwriaeth. Mae cyflymder a graddfa newidiadau technolegol yn creu marchnadoedd newydd ar gyfer troseddau a chyfleoedd newydd i droseddwyr cyfundrefnol elwa ohonynt, tra erys lefelau troseddau presennol yn ystyfnig o uchel. Yn y bôn, mae Troseddau Cyfundrefnol Difrifol yn fygythiad endemig a pharhaol i bobl a ffyniant y DU.
Mae TARIAN yn cynnwys tîm amrywiol o swyddogion yr Heddlu a staff yr Heddlu arbenigol o heddluoedd Dyfed-Powys, Gwent a De Cymru. Mae'r gweithwyr proffesiynol hyn yn cyfuno eu harbenigedd a'u sgiliau er mwyn mynd i'r afael â throseddau cyfundrefnol yn y rhanbarth. Mae'r uned yn ymfalchïo mewn dros bedair ar ddeg o alluoedd arbenigol, gyda phob adran yn canolbwyntio ar faes penodol. Ymysg y galluoedd hyn y mae timau cuddwylio ymchwiliol, ymchwilwyr troseddau economaidd a seiberdroseddu, arbenigwyr adennill asedau ac arbenigwyr cudd-wybodaeth. Drwy ddefnyddio eu priod sgiliau, nod y tîm yw disodli a tharfu ar Grwpiau Troseddau Cyfundrefnol sy'n gweithredu ledled Cymru a diogelu ein cymunedau rhag troseddau difrifol a chyfundrefnol.
Mae Tarian wedi mynd drwy gyfnod o dwf sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf gyda'r Rhaglen ar gyfer Recriwtio Mwy o Swyddogion yr Heddlu a ffrydiau cyllid grant yn darparu cyfleoedd i ddatblygu galluoedd newydd o fewn yr Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol.
At hyn, mae'r twf yn Tarian wedi caniatau cyfle i ystyried strwythur cyfan yr Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol a chyflwyno rolau hanfodol a all helpu i gefnogi'r sefydliad, sy'n tyfu.
Mae Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol Tarian yn uned gydweithredol sy'n cynnwys swyddogion yr Heddlu o Heddlu Dyfed-Powys, Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru a staff yr Heddlu o Heddlu De Cymru.
Mae amrywiaeth o rolau staff yr Heddlu sy'n cefnogi galluoedd arbenigol, yn cynnwys y canlynol:
Yn cynnwys Rheolwr Cysylltiadau Cudd Rhanbarthol, Datblygwr Gallu Technegol, Technegydd Rhwydwaith ac Ymchwilwyr.
Yn cynnwys Rheolwr Uned Seiberdroseddu, Technegwyr Fforenseg Ddigidol, Cynghorwyr Seiberddiogelwch.
Yn cynnwys Rheolwr Troseddau Economaidd, Ymchwilwyr Ariannol, Goruchwyliwr Gwrthwyngalchu Arian, Swyddogion Asesu Datblygu Cudd-wybodaeth, Cynghorwyr Diogelwch Diogelu ac Atal Troseddau Economaidd, Cynghorwr Arian Crypto.
Yn cynnwys Cydlynwyr Bregusrwydd.
Yn cynnwys Rheolwr Cyffredinol yr Uned Newid Rhanbarthol, Swyddog Clercaidd, Swyddog Cyfathrebu a Cynorthwywyr Gweinyddol.
Yn cynnwys Rheolwyr Uned, Rheolwyr Systemau Ymchwiliadau Telathrebu Cudd Rhanbarthol.
Yn cynnwys Pennaeth Dadansoddi, Uwch-Ddadansoddwyr Cudd-wybodaeth, Ymchwilwyr, Dadansoddwr Perfformiad.
Gall diwrnod ym mywyd Ymchwilydd Ariannol yn y Tîm Gorfodi Atafaelu Asedau amrywio gan fod pob diwrnod yn wahanol, yn arbennig wrth weithio ar achosion gwahanol.
Mae'r tîm yn ailedrych ar orchmynion atafaelu (gorchmynion a osodwyd gan y llys yn erbyn diffynnydd sydd wedi'i ddyfarnu'n euog, sy'n eu gorchymyn i dalu'r swm y maent wedi elwa ohono o'u troseddau) i weld a oes gan yr unigolyn dan sylw unrhyw asedau pellach y gellir eu hychwanegu at eu gorchymyn. Rydym yn derbyn llwythi gwaith mewn nifer o ffyrdd, yn cynnwys y canlynol:
Y drefn arferol o ddydd i ddydd:
Gall bob diwrnod fod yn wahanol, oherwydd ar rai diwrnodau bydd angen i chi fynychu'r llys, mynychu gwahanol gyrsiau i gaffael gwybodaeth a datblygu sgiliau pellach a helpu timau eraill a allai olygu helpu gyda gwarantau a chymryd datganiadau. Mae rhestr dyletswyddau'r swydd hon yn ddiddiwedd, a dyma sy'n gwneud y swydd mor gyffrous!
Nid oes llawer o bobl yn gwybod bod timau fel hyn yn bodoli ac maent yn synnu i ddarganfod tîm clòs o beirianwyr meddalwedd a chaledwedd rhyng-ddisgyblaethol mewn swyddfa yn Tarian, yn gweithio ar ddatblygu a defnyddio rhai o'r galluoedd technegol newydd a mwyaf cyffrous ym maes plismona.
Mae'r tîm yn cydweithio gyda thimau casglu cudd-wybodaeth ac ymchwiliol o bob rhan o Tarian a'r tri heddlu cyfansoddol, yn nodi a datrys problemau technegol yn y ffyrdd mwyaf arloseol, tactegol a chudd posibl. Mae technoleg yn rhan annatod o fywyd modern ac mae o hyd yn datblygu ar raddfa gyflym, ac mae'n rhaid i ni aros gam ar y blaen i helpu wrth ganfod a mynd i'r afael â throseddau difrifol a chyfundrefnol yng Nghymru.
Nid yw diwrnod ym mywyd Datblygwr Gallu Technegol byth yr un peth. Mae pob prosiect ac ymgyrch rydym yn gweithio arnynt yn wahanol i'r diwethaf ac rydym o hyd yn ymchwilio a dysgu sgiliau a thechnolegau newydd, gan weithio gydag arbenigwyr o Unedau Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol eraill ac asiantaethau partner ledled y DU a dysgu ganddynt.
Rydym yn adolygu gwaith sydd i ddod bob wythnos a thrafod unrhyw faterion technegol ac adrannol fel tîm, a chydweithio i ddatblygu'r galluoedd hyn gan ddefnyddio sgiliau gwahanol gan nad oes gan unrhyw aelod o'r tîm yr union sgiliau; mae hyn yn gweithio'n dda gan y gallwn ddatrys problemau gweithredol heb gael ein cyfyngu. Mae sgiliau yn amrywio o sawl disgyblaeth mewn ieithoedd rhaglennu, gweithgynhyrchu caledwedd a chyfathrebu rhwydwaith.
Mae gweithio yn y byd hwn yn agor eich llygaid i alluoedd cyfrifiadura a thechnolegau cysylltiedig.
Mae'r boddhad swydd yn ardderchog, gan wybod y gall eich gwybodaeth o ran cyfrifiadura a seiberddiogelwch gael effaith gadarnhaol wrth helpu cymunedau ac atal niwed o droseddau difrifol a chyfundrefnol i unigolion a'r gymuned ehangach.
Os ydych am gyfuno eich brwdfrydedd am dechnoleg a'r byd plismona, ni allaf feddwl am swydd fwy cyffrous a gwerth-chweil na hon.
Byddwch yn cael y dasg o gefnogi ymchwiliadau parhaus drwy gasglu tystiolaeth o ffynonellau agored a chaeedig, datblygu cudd-wybodaeth, a llunio adroddiadau yn seiliedig ar eich canfyddiadau.
Bydd diwrnod arferol yn cynnwys ymchwilio i ddynodyddion ar gyfer yr unigolyn dan sylw yn systemau'r heddlu ac o ffynonellau agored – megis gwefannau, llwyfannau'r cyfryngau cymdeithasol, fforymau ar-lein, a'r we dywyll – er mwyn ceisio creu llun o'r cefndir. Mae pobl yn aml yn synnu i glywed mai dim ond un ffynhonnell o wybodaeth yw'r systemau heddlu a ddefnyddir, a bod y rhan fwyaf o'r cyfarpar a ddefnyddir ar gael i bawb. Yna, byddwch yn cyflwyno eich canfyddiadau mewn adroddiad a fydd yn cynnwys asesiad a rhai llwybrau ymholi a argymhellir ar gyfer y tîm ymchwilio.
“Cyn ymuno â'r rhanbarth, roeddwn yn gweithio mewn amrywiaeth o swyddi staff yr heddlu ar lefel heddlu. Cefais fy nenu i faes ymchwil oherwydd y rôl allweddol y mae'n ei chwarae mewn ymchwiliadau, a'r ffaith y gall canfod darn allweddol o wybodaeth arwain at ddatblygiadau sylweddol mewn achos, sy'n rhoi llawer o foddhad.
“Mae gweithio i'r rhanbarth bob amser yn gyffrous, ac er fy mod i wedi fy lleoli yn yr uned seiberdroseddu, rydw i wedi cael cyfle i gefnogi sawl adran arbenigol iawn arall yn Tarian.
“I unrhyw un sydd am ddod yn ymchwilydd, byddwn yn argymell ymarfer eich sgiliau ymchwil gartref drwy archwilio'r adnoddau a'r technegau sydd ar gael i'r cyhoedd am ddim, gan fod dysgu sut i ddefnyddio'r rhyngrwyd fel adnodd ymchwil ymchwiliol effeithiol yn werthfawr yn y rôl hon. Hefyd, mae sgiliau cyfathrebu cryf yn hanfodol, ynghyd â sgiliau cyfrifiadurol da a natur chwilfrydig a dadansoddol.”
Nid oes y fath beth â diwrnod arferol pan fyddwch yn gweithio fel dadansoddwr, ond fel rheol bydd yn cynnwys mynychu cyfarfodydd tîm, casglu a dadansoddi data gan ddefnyddio meddalwedd arbenigol, creu llun o weithgareddau a phatrymau, a chyflwyno'r wybodaeth sy'n deillio o hynny i swyddogion ymchwiliol a rheolwyr.
Mae gweithio ar sawl prosiect ar unwaith yn batrwm gweithio cyffredin, felly mae'n hanfodol bod dadansoddwr yn gallu cyflawni tasgau amrywiol ar yr un pryd a rheoli ei amser yn dda. Mae meddu ar lygad craff a dyfalbarhad yn allweddol hefyd. Ond mae'n rôl sy'n rhoi llawer o foddhad ac mae'n addas iawn i rywun sy'n mwynhau datrys posau a bod yn aelod allweddol o dîm.
Mae gweithio i'r rhanbarth wedi bod yn fanteisiol iawn. Mae'r sefydliad cyfan yn hynod groesawgar, ac yn llawn pobl fedrus ond hawdd mynd atynt. Byddwch hefyd yn cael gweithio ar achosion cymhleth yn ymwneud â phartneriaethau ac asiantaethau rhyngwladol, sy'n gyffrous iawn.
“Yr wythnos hon, er enghraifft, rwy'n helpu gyda thri ymchwiliad sy'n mynd rhagddynt. Rwy’n edrych ar ddata cyfathrebu ar gyfer un ohonynt. Bydd angen i mi greu dwy siart ddadansoddi weledol, allforio a mapio'r data, a chwilio am y geiriau allweddol a ddarparwyd gan yr ymchwilwyr. Bydd hyn yn fy ngalluogi i greu llinell amser gyfathrebu a cheisio profi troseddoldeb. Yna, byddaf yn rhoi hwn mewn cynllun casglu ffurfiol at ddibenion datgelu.
“Mae'n broffesiwn hygyrch iawn i'r rhai sydd â'r meddylfryd cywir; Roedd gen i gefndir ym maes gweinyddiaeth, ac ymchwil yn dilyn hynny, ac roedd dadansoddi yn gam naturiol ymlaen.”
Fel Uwch-ddadansoddwr Cudd-wybodaeth, byddwch yn goruchwylio'r holl ddadansoddwyr ymchwil a gweithredol sy'n gweithio i'r rhanbarth. Byddwch yn gyfrifol am sicrhau ansawdd eu gwaith, cyfathrebu â'u harweinwyr adran, a rheoli'r galwadau ar eu hamser.
“Roeddwn yn gweithio fel dadansoddwr yn yr Heddlu Metropolitanaidd am nifer o flynyddoedd cyn ymuno â Heddlu De Cymru a dod i Tarian. Roedd symud yn golygu y gallwn fynd i'r afael â gwaith gweithredol a strategol, mewn amgylchedd arloesol, gyda swyddogion a staff medrus iawn.
“Gallai diwrnod arferol gynnwys mynychu cyfarfodydd achos, cynnal gwaith ar ffeiliau achos adweithiol, delio â cheisiadau adrannol am waith, siarad â’r dadansoddwyr rhanbarthol, neu baratoi ar gyfer achos llys drwy gyfarfod â bargyfreithwyr a Gwasanaeth Erlyn y Goron.”
“Rhan orau fy swydd yw gweld aelodau fy nhîm yn tyfu ac yn gwneud cynnydd.
Mae Tarian yn amgylchedd gwych i ddatblygu eich gyrfa ynddo, gan fod pob rhan o'r sefydliad yn gwerthfawrogi dysgu a datblygu parhaus”.
Mae angen i uwch-ddadansoddwr cudd-wybodaeth feddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol, gan ei fod yn ofynnol i chi ymgysylltu ag unigolion o rengoedd gwahanol, o adrannau gwahanol, bob dydd. Rhaid i chi allu cyfleu gwybodaeth hanfodol yn hyderus, gan sicrhau bod y wybodaeth honno wedi'i deall. Mae meddu ar lygad craff a galluoedd i gyflawni tasgau amrywiol ar yr un pryd hefyd yn hanfodol.
I'r rhai sydd â diddordeb mewn cyrraedd rôl debyg, byddwn yn argymell ymuno â heddlu lleol fel ymchwilydd neu ddadansoddwr i gael profiad ac ehangu eich sylfaen wybodaeth. Gall dadansoddwyr arbenigo ym meysydd gwaith gweithredol, strategol neu ddadansoddol, ond mae yna sgiliau sylfaenol sy'n gyffredin i'r tri.
Mae diwrnod ym mywyd Rheolwr Systemau Ymchwiliadau Telathrebu Cudd Rhanbarthol (Pwynt Cyswllt Unigol Telathrebu Rhanbarthol) yn rôl ddiddorol a dyrys.
Mae ein Pwyntiau Cyswllt Unigol Telathrebu yn gweithio fel grŵp o bedwar. Caiff eu bywyd gwaith ei lywodraethu yn bennaf gan y Ddeddf Pwerau Ymchwilio a drwy ddefnyddio CHARTER (y system rydym yn ei defnyddio). Nhw yw'r arbenigwyr pwnc ar gyfer yr Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol ar bob mater yn ymwneud â chaffael data Cyfathrebu, yn ei amryw ffurfiau, yn gyfreithlon.
Fel Pwyntiau Cyswllt Unigol Rhanbarthol byddwch yn gweithio ar ran yr Uned Ranbarthol i gynghori, cefnogi a chaffael data cyfathrebu at ddibenion tystiolaeth a chudd-wybodaeth. Mae'r dyletswyddau hyn yn gofyn am gyswllt gweithio cadarn gyda'r rhan fwyaf o'r galluoedd Rhanbarthol. Mae gan y rhan fwyaf o'r galluoedd Rhanbarthol 'ymgeiswyr proffesiynol' mewn swydd sy'n hyddysg mewn paratoi a gwneud ceisiadau ar gyfer data cyfathrebu sydd eu hangen ar gyfer atal a chanfod troseddau difrifol.
Mae ein ceisiadau o ddydd i ddydd yn bennaf yn deillio o'r Tasglu Rhanbarthol (RTF), yr Uned Troseddau Economaidd Ranbarthol (RECU), yr Uned Seiberdroseddu Ranbarthol (RCCU), y Tîm Tarfu Rhanbarthol (RDT), y Tîm Ymateb Amlasiantaethol i Droseddau Difrifol a Chyfundrefnol (MARSOC), yr Uned Cudd-wybodaeth Ranbarthol (RIU), y Tîm Ymchwilio Cudd Ar-lein (UCOL) a'r Uned Cudd-wybodaeth Sensitif (SIU). Mae'r cynnydd mewn galluoedd o fewn yr Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol, a recriwtio rhagor o staff a datblygiadau mewn technoleg wedi gwneud y maes Data Cyfathrebu yn faes busnes hyn yn oed yn fwy heriol a diddorol.
Mae'r ceisiadau hyn yn cwmpasu'r spectrwm cyfan o droseddau difrifol a chyfundrefnol. Mae eu cyfraniad drwy hanes cyfan yr ymchwiliadau hyn yn gwneud ein rôl yn un ddiddorol a gwerth chweil. Maent yn rhan o'r cam datblygu gweithredol, hyd at yr ymchwiliad ac yna darparu tystiolaeth i'r erlyniad.
Mae gwaith Pwynt Cyswllt Unigol Telathrebu Rhanbarthol yn golygu cydberthynas agos â'r Gweithredwyr Telathrebu, sef Darparwyr Gwasanaeth Cyfathrebu gynt. Bydd ymgeiswyr yn gwneud cais am y data sydd eu hangen arnynt, yna byddant yn sicrhau ansawdd y ceisiadau hyn ac yn cynnig awgrymiadau o ran addasrwydd y cais, paratoi'r ceisiadau angenrheidiol, cael awdurdod (o dan y Ddeddf Pwerau Ymchwilio) gan yr Awdurdod priodol, prosesu'r awdurdod a'r cais, ei gyflwyno i ddeiliad y data, rheoli'r broses o'i ddychwelyd ac yna ei ddarparu i'r ymgeisydd gwreiddiol. Yr Uned Pwynt Cyswllt Unigol yw'r unig uned achrededig, o fewn yr Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol, a all gwblhau'r gwaith hwn. Fel rhan o hyn, disgwylir iddynt fynychu cyrsiau achrededig Cenedlaethol, a Rhaglenni Datblygu Parhaus yn dilyn hyn er mwyn sicrhau eu bod yn ymwybodol o newidiadau mewn deddfwriaeth a datblygiadau mewn technoleg.
Mae'r Uned yn destun ymchwiliadau rheolaidd gan Arolygwyr Cyfathrebu ac Asiantaethau eraill. Mae paratoi ar gyfer y rhain ac adroddiadau i'r Swyddfa Gartref am resymau cyllidebol hefyd yn swyddogaeth bob dydd. Yn ychwanegol i'n rôl yn y swyddfa bob dydd rydym hefyd yn darparu cyfleuster 'ar alw' ar gyfer ceisiadau 'y tu allan i oriau' brys.
Yn ogystal â gwneud cyfraniad go iawn i ddiogelwch ein cymunedau, drwy ymuno â #TîmHDC, byddwch yn dod yn rhan o sefydliad blaengar, arloesol a chynhwysol. Gallwch weld mwy o wybodaeth am ein graddfeydd cyflog, buddiannau, mentrau llesiant a rhaglenni gwobrwyo yma.
Edrychwch ar ein bwrdd swyddi byw i weld ein holl gyfleoedd presennol.
Heb ddod o hyd i'r hyn rydych yn chwilio amdano? Os oes gennych ddiddordeb mewn cyfleoedd yn yr adran hon yn y dyfodol, cofrestrwch eich manylion ar ein cronfa ddoniau a gallwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi pan fydd gennym swyddi gwag sy'n gweddu i'ch sgiliau a'ch dewisiadau. cliciwch yma i gofrestru.