Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r tîm Adran Cysylltiadau yn gyfrifol am gyfathrebu corfforaethol mewnol ac allanol ac maent wedi'u lleoli yn ein Pencadlys ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac yn Swyddfeydd y Wasg ar draws ardal yr heddlu. Mae'r Adran Cysylltiadau hefyd yn cynnwys ein tîm Cyfryngau sy'n datblygu ac yn cynhyrchu ffilmiau, dyluniadau, animeiddiadau ac yn tynnu lluniau. Mae'r tîm cyfathrebu a’r cyfryngau wedi'u rhannu i’r timau canlynol:
Mae rolau o fewn ein tîm cyfathrebu a’r cyfryngau yn cynnwys:
Mae’r Adran Gwasanaethau Corfforaethol, sy'n rhan o bortffolio’r Dirprwy Brif Gwnstabl, yn darparu gwasanaeth cynghori a chymorth proffesiynol, rhagweithiol a deinamig i’r sefydliad ar draws ystod eang o feysydd busnes, megis:
Mae rolau o fewn y Gwasanaethau Corfforaethol yn cynnwys:
Mae ein hadran Cyllid Corfforaethol yn gyfrifol am reoli cyllid y sefydliad, gan gynnwys llunio’r gyllideb refeniw flynyddol a chyllideb y rhaglen gyfalaf.
Mae rolau o fewn Cyllid Corfforaethol yn cynnwys:
Mae’r Is-adran Gwasanaethau Digidol ar y Cyd yn cyflwyno strategaeth ddigidol ar y cyd ar draws Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru. Mae'n galluogi'r ddau Heddlu i ddatblygu a gweithredu ffyrdd newydd o weithio a darparu plismona i'n cymunedau.
Prif ffocws y Gwasanaethau Digidol yw sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth plismona digidol effeithiol ar gyfer tua 9,000 o swyddogion, staff, gwirfoddolwyr a phartneriaid a thua 2 filiwn o aelodau’r cyhoedd ar draws Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru.
Mae rolau yn ein His-adran Gwasanaethau Digidol yn cynnwys:
Mae'r tîm Cymorth Gweithredol yn rhoi cymorth hanfodol i Grŵp y Prif Swyddogion.
Mae'r tîm, sy'n cynnwys Swyddogion a Staff, yn cyflawni swyddogaethau hanfodol fel y gall Prif Swyddogion reoli busnes craidd yr heddlu mewn ffordd drefnus ac effeithlon.
Mae Swyddog Staff / Swyddog Gweithredol a Chynorthwyydd Gweithredol wedi'i neilltuo i bob Prif Swyddog i'w gefnogi gyda dyletswyddau gweinyddol a gofynion tasg.
Mae rolau o fewn ein Tîm Cymorth Gweithredol yn cynnwys:
Mae swyddfeydd a gweithdy tîm rheoli'r Fflyd yn Nhŷ Richard Thomas, Pen-y-bont ar Ogwr.
Nod y tîm yw darparu gwasanaeth rhagorol, drwy roi cyngor ar bolisïau, arweiniad a chymorth gweithredol bob amser. Mae'n goruchwylio swyddogaeth weinyddol pob agwedd ar gerbydau'r heddlu; gan gynnwys prynu, prydlesu, contract hurio, nawdd, benthyciad ac unrhyw fath arall o broses caffael cerbydau, gan gynnwys asesu addasrwydd at y diben a chydlynu polisi yswiriant cerbyd yr heddlu.
Mae rolau o fewn ein tîm Fflyd yn cynnwys:
Mae'r tîm Adnoddau Dynol yn goruchwylio'r holl weithgareddau sy'n ymwneud â'n pobl a dod â phobl newydd i mewn.
Ymhlith y meysydd y mae ein tîm Adnoddau Dynol yn eu cwmpasu mae:
Mae rolau o fewn ein tîm Adnoddau Dynol yn cynnwys:
Mae TGCh yn cyflawni nifer o swyddogaethau sy'n sail i fusnes craidd ar draws Heddlu De Cymru. Mae TGCh yn gyfrifol am wybodaeth y sefydliad, ei phrosesu, ei storio a’i chyflwyno i staff rheng flaen pan a ble y bydd yn ofynnol.
Mae'r adran yn ategu plismona gweithredol drwy ddarparu ystod o lwyfannau technegol.
Mae rolau o fewn ein tîm TGCh yn cynnwys:
Mae ein Gwasanaethau Cyfreithiol ar y Cyd yn adran gydweithredol sy’n gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr yn Heddlu Gwent. Mae’r tîm yn rhoi cyngor cyfreithiol cynhwysfawr i’r Prif Gwnstabl, gan ddarparu cynrychiolaeth yn y Llys ar gyfer gwrandawiadau disgyblu, tribiwnlysoedd cyflogaeth, ymholiadau mawr, cwestau a gwrandawiadau eraill yn ôl yr angen.
Mae rolau o fewn ein Gwasanaeth Cyfreithiol ar y Cyd yn cynnwys:
Mae'r Uned Ymchwilio Gwyddonol ar y Cyd yn adran gydweithredol sy'n gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr yng Ngwent a Dyfed-Powys. Mae'r Uned Ymchwilio Gwyddonol ar y Cyd yn cynnwys sawl adran arbenigol fel Adnabod Safleoedd Troseddau, Adnabod Olion Bysedd, Esgidiau, Cyffuriau a Delweddu Fforensig Arbenigol.
Mae rolau o fewn ein Huned Ymchwilio Gwyddonol ar y Cyd yn cynnwys:
Mae tîm y Gwasanaethau Cyfiawnder yn gweithio mewn lleoliadau amrywiol ym mhob rhan o'r heddlu gan gefnogi Swyddogion rheng flaen, staff a phartneriaid o fewn y System Cyfiawnder Troseddol.
Mae'r tîm yn gyfrifol am amrywiaeth eang o waith strategaeth/polisi ac mae'n darparu cymorth swyddogaethol i Heddlu De Cymru drwy; rheoli tystiolaeth, gofalu am dystion, adnabod, trawsgrifio cyfweliadau a chefnogi'r broses Rheoli Troseddwyr Integredig.
Mae rolau o fewn ein tîm Gwasanaethau Cyfiawnder yn cynnwys:
Mae dysgu a datblygu yn un o swyddogaethau craidd rheoli adnoddau dynol. Prif swyddogaeth y tîm yw meithrin sgiliau a gwybodaeth gweithwyr o fewn y sefydliad, gan arwain at well perfformiad.
Mae rolau o fewn ein tîm Dysgu a datblygu yn cynnwys:
Nod yr Adran Safonau Proffesiynol yw lleihau honiadau o gamymddwyn a chwynion gan y cyhoedd drwy wella perfformiad staff a chodi safonau ymddygiad.
Mae'r adran yn goruchwylio'r gwaith o reoli cwynion cyhoeddus, ymddygiad mewnol ac achosion disgyblu. Mae hefyd yn ymgorffori dysgu a gwelliant a nodwyd yn ei achosion.
Mae rolau yn ein Hadran Safonau Proffesiynol yn cynnwys:
Mae’r Gwasanaethau Cymorth Gweithredol yn cefnogi Gweithrediadau Arbenigol, Cynllunio’r Heddlu, Gwasanaethau’r Ddalfa a’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus.
Mae rolau o fewn ein tîm Gwasanaethau Cymorth Gweithredol yn cynnwys:
Rhybuddion ac Euogfarnau
Mae'n bosibl y byddwch yn gymwys i ymuno â'r heddlu o hyd os bydd gennych fân rybuddion/euogfarnau, ond bydd rhai troseddau ac amodau yn eich gwneud yn anghymwys. Mae hyn yn cynnwys unrhyw un sydd wedi cael rhybudd ffurfiol yn ystod y pum mlynedd diwethaf, neu sydd wedi cyflawni trosedd dreisgar neu drosedd trefn gyhoeddus.
Dinasyddiaeth/Byw yn y DU
Rhaid i chi fod yn ddinesydd Prydeinig, dinesydd o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, dinesydd y Gymanwlad neu'n wladolyn tramor heb gyfyngiadau ar eich arhosiad yn y Deyrnas Unedig.
Mae gofynion preswylio hefyd ar waith yn ddibynnol ar y lefel fetio sy'n gysylltiedig â'r rôl rydych wedi gwneud cais amdani. Ar gyfer rolau lefel 'RV', rhaid eich bod wedi bod yn byw'n barhaus yn y DU am gyfnod o dair blynedd yn union cyn gwneud cais. Ar gyfer rolau lefel 'MV', rhaid eich bod wedi bod yn byw'n barhaus yn y DU am gyfnod o bum blynedd yn union cyn gwneud cais.
Mae hyn er mwyn bodloni'r gofyniad i fetio pob ymgeisydd mewn modd teg ac nid oes gan wasanaeth Heddlu'r DU ar hyn o bryd unrhyw ffordd o hwyluso profion fetio dramor i'r un graddau sy'n angenrheidiol ar gyfer y rheini sydd wedi bod yn byw yn y DU. Ni allwn benodi ymgeiswyr nad ydynt wedi cael eu fetio.
Statws Ariannol
Caiff statws ariannol pob ymgeisydd ei gadarnhau. Mae'r gwiriadau hyn yn cael eu cynnal oherwydd bod gan staff yr Heddlu fynediad at wybodaeth freintiedig, a allai eu gwneud yn agored i lygredd. Gwrthodir unrhyw ymgeiswyr y mae ganddynt ddyfarniadau Llys Sirol cyfredol yn eu herbyn, neu sydd wedi'u cofrestru'n fethdalwyr â dyledion heb eu talu. Os bydd gennych ddyledion methdalu sydd wedi'u gollwng, yna bydd angen i chi ddarparu Tystysgrif Boddhad gyda'ch cais. Ni chaiff ymgeiswyr sy'n destun Trefniant Gwirfoddol Unigol (IVA) cyfredol eu hystyried.
Ymlyniad wrth Blaid
Mae gan Heddlu De Cymru bolisi o wahardd unrhyw un o'n swyddogion rhag bod yn aelodau o Blaid Genedlaethol Prydain, neu sefydliad tebyg y gall ei nodau, ei amcanion neu ei ddatganiadau fod yn groes i'r dyletswyddau i hyrwyddo cydraddoldeb hiliol. Os ydych yn aelod o Blaid Genedlaethol Prydain neu wedi bod yn rhan ohoni yn flaenorol, mae'n bosibl y caiff eich cais ei wrthod.
Tatŵau
Bydd ymgeiswyr â thatŵau gweladwy yn gymwys i gael eu penodi o bosibl.
Caiff pob achos ei ystyried yn unigol, gan ystyried nifer, natur, maint, amlygrwydd, ymddangosiad a lleoliad y tatŵau. Ni ddylai'r tatŵau fod yn dramgwyddus i gydweithwyr nac aelodau o'r cyhoedd nac ychwaith danseilio urddas eich rôl yn yr Heddlu. Caiff tatŵau ar y gwddf, yr wyneb neu'r dwylo eu hystyried yn annerbyniol o hyd, ond mae'n bosibl y rhoddir ystyriaeth o dan rai amgylchiadau, o ystyried maint, natur, ac amlygrwydd y tatŵ. Os bydd ymgeiswyr yn dewis cael unrhyw datŵau ychwanegol yn ystod y broses recriwtio, ar ôl cwblhau'r gwiriadau cymhwysedd, yna mae ganddynt gyfrifoldeb i roi gwybod i'r Adran Adnoddau Dynol a rhoi ffotograffau addas y bydd angen eu harchwilio.
Mae gonestrwydd yn hollbwysig bob amser yn ystod y broses recriwtio. Mae'n hanfodol eich bod yn datgan yr holl wybodaeth berthnasol i ni yn ystod y cam ymgeisio a chamau fetio'r broses. Byddwn yn gofyn cwestiynau i chi ond dylech hefyd ddweud unrhyw beth arall y credwch allai effeithio ar eich addasrwydd i'r rôl. Rhaid i chi hefyd hysbysu'r tîm recriwtio sy'n goruchwylio eich rôl am unrhyw newid mewn amgylchiadau yn ystod eich proses ymgeisio. Cliciwch yma i gael eu gwybodaeth gyswllt.
Mae’n bwysig gwybod nad yw llawer o amgylchiadau personol o reidrwydd yn eich atal rhag bod yn gymwys i ymuno. Fodd bynnag, os na fyddwch yn datgelu gwybodaeth berthnasol, mae’n rhaid i ni ystyried hyn fel hepgoriad bwriadol a'ch bod wedi ceisio cuddio’r wybodaeth honno oddi wrthym. Os gwnewch hyn caiff ei drin fel diffyg gonestrwydd ac uniondeb a fydd yn effeithio arnoch mewn ceisiadau yn y dyfodol. Os hoffech drafod eich amgylchiadau cyn gwneud cais, anfonwch e-bost at [email protected].
Os oes gennych ddiddordeb mewn cyfleoedd a fydd ar gael gyda Heddlu De Cymru yn y dyfodol, rhowch eich manylion ar ein banc talent a byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd gennym swyddi gwag sy'n gweddu eich sgiliau a'ch dewisiadau. COFRESTRWCH EICH DIDDORDEB