Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os ydych yn barod am yr her nesaf yn eich gyrfa neu os ydych yn teimlo bod gennych y sgiliau i ffynnu mewn rôl newydd, beth am ymuno â Heddlu De Cymru fel Swyddog Cadw yn y Ddalfa?
Mae Swyddogion Cadw yn y Ddalfa yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu i sicrhau gofal a llesiant pobl a gedwir yn y ddalfa a'u heiddo, a'u cadw'n ddiogel yn ystod y broses honno. Maent yn helpu i sicrhau bod pedair dalfa weithredol Heddlu De Cymru yn gweithredu'n ddiogel: Bae Caerdydd, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr ac Abertawe.
Mae hon yn swydd heriol lle mae angen unigolion unigryw. Gall ymddygiad yr unigolion a gedwir yn y ddalfa fod yn heriol, hyd yn oed yn ffrwydrol, felly bydd gan yr ymgeisydd perffaith ar gyfer y rôl hon:
Gwybodaeth am gyflog, buddiannau a gwobrau ar gyfer Heddlu De Cymru.
Oedran
Rhaid i chi fod yn 18 oed o leiaf i ddod yn Swyddog Cadw yn y Ddalfa. Nid oes terfyn oedran uchaf.
Rhybuddion ac Euogfarnau
Mae'n bosibl y byddwch yn gymwys i ymuno â'r heddlu o hyd os bydd gennych fân rybuddion/euogfarnau, ond bydd rhai troseddau ac amodau yn eich gwneud yn anghymwys. Mae hyn yn cynnwys unrhyw un sydd wedi cael rhybudd ffurfiol yn ystod y pum mlynedd diwethaf, neu sydd wedi cyflawni trosedd dreisgar neu drosedd trefn gyhoeddus. Wrth wneud ein penderfyniadau, cawn ein llywio gan Feini Prawf Cymhwysedd 03/2012 yr Asiantaeth Genedlaethol ar gyfer Gwella Plismona ar gyfer rôl cwnstabl yr heddlu 2019.
Dinasyddiaeth/Byw yn y DU
Rhaid i chi fod yn ddinesydd Prydeinig, dinesydd o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, dinesydd y Gymanwlad neu'n wladolyn tramor heb gyfyngiadau ar eich arhosiad yn y Deyrnas Unedig.
Mae gofynion preswylio hefyd ar waith yn ddibynnol ar y lefel fetio sy'n gysylltiedig â'r rôl rydych wedi gwneud cais amdani. Ar gyfer rolau lefel 'RV', rhaid eich bod wedi bod yn byw'n barhaus yn y DU am gyfnod o dair blynedd yn union cyn gwneud cais. Ar gyfer rolau lefel 'MV', rhaid eich bod wedi bod yn byw'n barhaus yn y DU am gyfnod o bum blynedd yn union cyn gwneud cais.
Mae hyn er mwyn bodloni'r gofyniad i fetio pob ymgeisydd mewn modd teg ac nid oes gan wasanaeth Heddlu'r DU ar hyn o bryd unrhyw ffordd o hwyluso profion fetio dramor i'r un graddau sy'n angenrheidiol ar gyfer y rheini sydd wedi bod yn byw yn y DU. Ni allwn benodi ymgeiswyr nad ydynt wedi cael eu fetio.
Statws Ariannol
Caiff statws ariannol pob ymgeisydd ei gadarnhau. Cynhelir y gwiriadau hyn am fod gan Swyddogion Cadw yn y Ddalfa fynediad i wybodaeth freintiedig, a all eu gwneud yn agored i lygredigaeth. Gwrthodir unrhyw ymgeiswyr y mae ganddynt ddyfarniadau Llys Sirol cyfredol yn eu herbyn, neu sydd wedi'u cofrestru'n fethdalwyr â dyledion heb eu talu. Os bydd gennych ddyledion methdalu sydd wedi'u gollwng, yna bydd angen i chi ddarparu Tystysgrif Boddhad gyda'ch cais. Ni chaiff ymgeiswyr sy'n destun Trefniant Gwirfoddol Unigol (IVA) cyfredol eu hystyried.
Ymlyniad wrth Blaid
Mae gan Heddlu De Cymru bolisi o wahardd unrhyw un o'n swyddogion rhag bod yn aelodau o Blaid Genedlaethol Prydain, neu sefydliad tebyg y gall ei nodau, ei amcanion neu ei ddatganiadau fod yn groes i'r dyletswyddau i hyrwyddo cydraddoldeb hiliol. Os ydych yn aelod o Blaid Genedlaethol Prydain neu wedi bod yn rhan ohoni yn flaenorol, mae'n bosibl y caiff eich cais ei wrthod.
Cymwysterau
Er mwyn ymuno â'r heddlu yn y rôl hon, mae angen cymhwyster lefel 2 neu uwch mewn Mathemateg a Saesneg (Gradd A-C). Noder y bydd angen i chi
lanlwytho tystiolaeth o'ch tystysgrif Mathemateg a Saesneg lefel 2 pan fyddwch yn cyflwyno eich cais. Os nad ydych yn meddu ar dystysgrif ddilys, rhaid i chi gael un cyn dechrau'r broses gwneud cais. Os nad oes gennych gymhwyster lefel 2, neu os nad oes gennych gopi o'ch tystysgrif, bydd angen i chi sefyll prawf ar-lein a fydd yn profi eich gallu academaidd i weithio ar lefel 2. Os byddwch yn cwblhau'r prawf ar-lein yn llwyddiannus, gallwch fwrw ati gyda'r broses gwneud cais.
Tatŵau
Bydd ymgeiswyr â thatŵau gweladwy yn gymwys i gael eu penodi o bosibl.
Caiff pob achos ei ystyried yn unigol, gan ystyried nifer, natur, maint, amlygrwydd, ymddangosiad a lleoliad y tatŵau. Ni ddylai'r tatŵau fod yn dramgwyddus i gydweithwyr nac aelodau o'r cyhoedd nac ychwaith danseilio urddas eich rôl yn yr Heddlu. Caiff tatŵau ar y gwddf, yr wyneb neu'r dwylo eu hystyried yn annerbyniol o hyd, ond mae'n bosibl y rhoddir ystyriaeth o dan rai amgylchiadau, o ystyried maint, natur, ac amlygrwydd y tatŵ. Os bydd ymgeiswyr yn dewis cael unrhyw datŵau ychwanegol yn ystod y broses recriwtio, ar ôl cwblhau'r gwiriadau cymhwysedd, yna mae ganddynt gyfrifoldeb i roi gwybod i'r Adran Adnoddau Dynol a rhoi ffotograffau addas y bydd angen eu harchwilio.
Mae gonestrwydd yn hollbwysig bob amser yn ystod y broses recriwtio. Mae'n hanfodol eich bod yn datgan yr holl wybodaeth berthnasol i ni yn ystod y cam ymgeisio a chamau fetio'r broses. Byddwn yn gofyn cwestiynau i chi ond dylech hefyd ddweud unrhyw beth arall y credwch allai effeithio ar eich addasrwydd i'r rôl. Rhaid i chi hefyd hysbysu'r tîm recriwtio sy'n goruchwylio eich rôl am unrhyw newid mewn amgylchiadau yn ystod eich proses ymgeisio. Cliciwch yma i gael eu gwybodaeth gyswllt.
Mae’n bwysig gwybod nad yw llawer o amgylchiadau personol o reidrwydd yn eich atal rhag bod yn gymwys i ymuno. Fodd bynnag, os na fyddwch yn datgelu gwybodaeth berthnasol, mae’n rhaid i ni ystyried hyn fel hepgoriad bwriadol a'ch bod wedi ceisio cuddio’r wybodaeth honno oddi wrthym. Os gwnewch hyn caiff ei drin fel diffyg gonestrwydd ac uniondeb a fydd yn effeithio arnoch mewn ceisiadau yn y dyfodol. Os hoffech drafod eich amgylchiadau cyn gwneud cais, anfonwch e-bost at [email protected].
Bydd rôl Swyddog Cadw yn y Ddalfa yn gyfle cyffrous i chi weithio yn ein dalfeydd dynamig. Byddwn yn meithrin eich sgiliau a'ch galluoedd, ac yn eich addysgu i ymdrin â phobl sydd wedi'u cadw yn nalfa'r heddlu mewn ffordd effeithiol a phroffesiynol.
Mae Swyddogion Cadw yn y Ddalfa yn gweithio o dan oruchwyliaeth Swyddog y Ddalfa, sy'n Swyddog yr Heddlu ac yn gwasanaethu fel Rhingyll. Mae'r rôl hon ar gyfer Swyddog Cadw yn y Ddalfa i helpu Swyddog y Ddalfa i ddarparu amgylchedd diogel yn y ddalfa a sicrhau y caiff hawliau pobl sy'n cael eu cadw yn y ddalfa eu diogelu.
Beth yw hyd y broses recriwtio?
Bydd y cyfnod recriwtio ar gyfer y rôl hon yn dibynnu ar gapasiti gweithredol. Byddem yn disgwyl i'r broses gymryd rhwng 1 a 3 mis.
Oes isafswm neu uchafswm oedran ar gyfer gwneud cais?
Rhaid i chi fod yn 18 oed o leiaf i ddod yn Swyddog Cadw yn y Ddalfa. Nid oes terfyn oedran uchaf.
Pa gymwysterau fydd eu hangen arnaf?
Mae'n rhaid bod ymgeiswyr wedi cyflawni TGAU gradd A-C o leiaf mewn Mathemateg a Saesneg.
Beth yw'r oriau gwaith?
Gan fod y ddalfa yn fusnes 24 awr, saith diwrnod yr wythnos, bydd yn ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus weithio patrwm sifft yn cwmpasu'r oriau busnes. Bydd hyn yn golygu gweithio sifftiau gyda'r nos ac ar y penwythnos yn unol â'r patrwm gweithio 12 awr, sef pedwar diwrnod yn gweithio a phedwar diwrnod i ffwrdd; dau ddiwrnod wedyn dwy noson, wedyn pedwar diwrnod i ffwrdd.
Ble y byddaf yn cael fy lleoli?
Caiff ymgeiswyr llwyddiannus eu lleoli yn un o'r pedair dalfa weithredol, gan ddibynnu ar leoliad swyddi gwag. Mae'r dalfeydd wedi'u lleoli yng Nghaerdydd, Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful.
A fydd cyfleoedd i ddatblygu fy ngyrfa?
Mae rhaglenni datblygu cefnogol ar gyfer rolau eraill yn y sefydliad a fydd yn eich galluogi i ategu'r profiad gwerthfawr a gewch o fewn rôl Swyddog Cadw yn y Ddalfa a'i ddefnyddio wrth gyflwyno ceisiadau ar gyfer rolau rheng flaen eraill megis Swyddog yr Heddlu a Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu.
Gallwch gwblhau'r ymarferion ar unrhyw declyn sydd â'r rhyngrwyd gyda chamera (gliniadur, llechen neu ffôn), ond er mwyn sicrhau cydnawsedd llawn gyda'r llwyfan ar-lein, dylai'r canlynol gael ei osod:
Byddai’n ddoeth cwblhau’r broses ymgeisio gyfan ar yr un ddyfais gan y bydd y cyfeiriadau IP yn gwrthdaro os ydych chi’n penderfynu newid dyfeisiau ar ôl i chi ddechrau a gallai hyn eich atal rhag parhau â’ch cais. Felly, fe’ch cynghorir i beidio â chwblhau eich cais yn y gwaith.
Cynghorir ymgeiswyr hefyd i gadw llygad ar eu blwch post “sothach” am negeseuon e-bost yn rhoi’r newyddion diweddaraf gan y system.
Y cam cyntaf fydd proses gwneud cais ar-lein, sy'n cynnwys rhai cwestiynau cymhwysedd hanfodol. Os byddwch yn llwyddo yn y cam hwn, gofynnir i chi gwblhau ffurflen gais Staff yr Heddlu a fydd yn gofyn am dystiolaeth o'ch sgiliau yn erbyn y cymwyseddau y gofynnir amdanynt ym mhroffil y rôl a fydd wedi'i hatodi i'r hysbyseb swydd.
Bydd eich cyfweliad yn seiliedig ar y cymwyseddau a'r gwerthoedd sydd wedi'u cynnwys yn y proffil rôl a oedd yn gysylltiedig â'r hysbyseb, ac sydd hefyd yn bwysig i Heddlu De Cymru.
Defnyddiwch enghreifftiau o'ch bywyd gwaith, cymdeithasol, cartref neu addysgol i ateb y cwestiynau cyfweliad. Yn yr enghreifftiau hyn rydym yn chwilio am dystiolaeth benodol o ymddygiadau cymhwysedd sy'n gweddu i werthoedd ein sefydliad.
Byddwch yn benodol: rydym am wybod yr hyn y gwnaethoch CHI ei ddweud neu ei wneud ar adeg benodol i ymdrin â'r sefyllfa. Felly, mae'n bwysig bod yr enghreifftiau rydych yn eu rhoi yn sôn am eich profiadau chi ac mor fanwl â phosibl.
Bydd angen i chi gwblhau ymarfer chwarae rôl hefyd.
Os byddwch yn llwyddiannus yn y cyfweliad, byddwn yn dechrau cynnal gwiriadau cyn cael eich cyflogi.
O ganlyniad i natur gwaith plismona, mae ffitrwydd ac iechyd da yn hollbwysig. Fodd bynnag, croesawir ceisiadau gan bobl sydd ag anableddau a gwneir pob ymdrech i wneud addasiadau rhesymol yn ôl y gofyn.
Os byddwch yn llwyddiannus yn y cam cyfweld, byddwch yn cael archwiliad meddygol.
Ceir anhwylderau a chyflyrau meddygol penodol y gallent gael effaith niweidiol ar eich gallu i gyflawni'r rôl mewn ffordd effeithiol; ystyrir pob achos yn ofalus fel rhan o'r broses feddygol.
Wrth gael prawf llygaid, rhaid i recriwtiaid newydd gael golwg 6/12 yn eu llygaid dde neu chwith, neu o leiaf golwg 6/6 yn y ddwy lygad. Rhaid i'r rhai sy'n gwisgo sbectol neu lensys cyffwrdd gael golwg 6/36 yn y ddwy lygad pan na fyddant yn gwisgo'u sbectol neu eu lensys cyffwrdd.
Byddwch yn cwblhau ffurflenni mewn perthynas â gwybodaeth fetio diogelwch, a chaiff gwiriadau a chliriadau eu cwblhau gan ein Hadran Fetio. Rhaid i'n Huned Fetio gynnal gwiriadau cefndirol gan ddefnyddio gwybodaeth a ddarparwyd gennych yn eich cais yn eich erbyn chi a'ch teulu gan ddefnyddio systemau'r Heddlu. Bydd y rhain yn cynnwys euogfarnau/rhybuddion a fetio ariannol.
Mae angen geirdaon i gwmpasu o leiaf 5 blynedd o hanes cyflogaeth barhaus. Os nad ydych wedi bod mewn cyflogaeth ers 5 blynedd byddwn yn ceisio cael geirdaon o fyd addysg a gan bobl sy’n eich adnabod yn bersonol.
Gofynnir i chi gael prawf cyffuriau a darparu gwybodaeth am unrhyw feddyginiaeth yr ydych yn ei chymryd hefyd. Cyflwynwyd deddfwriaeth sy'n mynnu bod ymgeiswyr yn dilyn proses fetio biometrig.
Os byddwch yn methu'r prawf cyffuriau, ni chynigir swydd i chi gyda Heddlu De Cymru. Tynnir yn ôl y cynnig a roddwyd i ymgeiswyr mewnol sy'n methu prawf cyffuriau a gellir defnyddio'r canlyniadau o'r prawf cyffuriau yn unol â Pholisi Disgyblu Staff Heddlu De Cymru a Chod Ymddygiad Staff yr Heddlu.
Ar y dydd, byddwn yn gofyn i chi lofnodi ffurflen caniatâd er mwyn casglu eich olion bysedd a sampl o'ch DNA at ddibenion archwiliad tybiannol a bod eich olion bysedd a'ch proffil DNA yn cael eu cadw yng Nghronfa Ddata Diddymu yr Heddlu (PEDb).
Diben sicrhau olion bysedd a samplau DNA yw er mwyn gallu cynnal archwiliad tybiannol yn erbyn y cronfeydd lleol a chenedlaethol cyn i chi gael eich penodi i'r heddlu. Diben hyn yw sicrhau nad ydych wedi bod yn destun sylw niweidiol yr heddlu yn flaenorol, nad ydych wedi ein hysbysu ohono, a hefyd, nad oes unrhyw gyswllt rhyngoch chi ac unrhyw safleoedd trosedd heb eu datrys.
Anfonwch unrhyw ymholiadau pellach drwy e-bost i: [email protected]
Os oes gennych ddiddordeb mewn cyfleoedd a fydd ar gael gyda Heddlu De Cymru yn y dyfodol, rhowch eich manylion ar ein banc talent a byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd gennym swyddi gwag sy'n gweddu eich sgiliau a'ch dewisiadau. COFRESTRWCH EICH DIDDORDEB