Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
I wneud cais am rôl cwnstabl yr heddlu, bydd angen eich bod yn 18 oed neu'n hŷn (ar y diwrnod pan fyddwch yn cyflwyno'ch cais).
Efallai y byddwch dal yn gymwys i ymuno â gwasanaeth yr heddlu os oes gennych fân euogfarnau/rhybuddiadau, ond mae rhai troseddau ac amodau a fydd yn golygu eich bod yn anghymwys.
Mae'n RHAID i chi nodi pob euogfarn am droseddau blaenorol, rhybuddiadau ffurfiol (gan gynnwys rhybuddiadau a gafwyd fel person ifanc) ac unrhyw achos o rwymo i gadw'r heddwch a osodwyd gan y llysoedd.
Dylech hefyd gynnwys pob euogfarn draffig. Oherwydd natur plismona, mae'n hanfodol ein bod yn fetio ymgeiswyr llwyddiannus yn drylwyr cyn y gallant ymuno â'r rhaglen.
Mae'n rhaid eich bod yn ddinesydd Prydeinig, yn ddinesydd o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, yn ddinesydd y Gymanwlad neu'n wladolyn tramor heb gyfyngiadau ar eich arhosiad yn y Deyrnas Unedig.
Mae'n rhaid eich bod wedi byw'n barhaus yn y DU am gyfnod o dair blynedd yn union cyn gwneud cais.
Y rheswm dros hyn yw fel y gellir bodloni'r gofyniad i fetio pob ymgeisydd mewn modd teg am nad oes gan wasanaeth Heddlu'r DU ar hyn o bryd unrhyw ffordd o hwyluso profion fetio dramor i'r un graddau sy'n angenrheidiol ar gyfer y rheini sydd wedi bod yn byw yn y DU. Ni allwn benodi ymgeiswyr nad ydynt wedi'u fetio.
Bydd gwiriadau yn cael eu cynnal ar statws ariannol pob ymgeisydd. Cynhelir y gwiriadau hyn am fod Cwnstabliaid yr Heddlu yn cael mynediad at wybodaeth freintiedig, a all eu gwneud yn agored i lygredigaeth.
Mae'n rhaid i'r ymgeiswyr fod yn iach yn feddyliol ac yn gorfforol er mwyn delio â phwysau a gofynion gwaith y rôl. Cyn iddynt gael eu penodi, gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus sy'n cael cynnig swydd amodol lenwi holiadur meddygol a chael archwiliad meddygol, a fydd hefyd yn cynnwys prawf golwg a mesur màs y corff (BMI). Yn ôl cylchlythyr 59/2004 presennol y Swyddfa Gartref mae hyn rhwng 18 a 30. Efallai y caiff cais ymgeiswyr nad ydynt yn cyrraedd y safon hon ei ohirio a / neu na chânt eu penodi.
Ni ystyrir bod ymgeiswyr i fod yn Swyddogion yr Heddlu, y mae eu BMI dros 32, yn ffit, oni bai bod canran y braster yn eu corff yn llai na 30% ar gyfer dynion neu 36% ar gyfer menywod.
Os oes gennych anabledd, byddwn yn gwneud addasiadau lle y bo'n rhesymol i ni wneud hynny.
Mae'n rhaid i chi fod yn ffit yn gorfforol er mwyn ymgymryd â dyletswyddau heddwas yn llwyddiannus. Mae'n rhaid i bob ymgeisydd basio prawf ffitrwydd cyn cael ei benodi. Ar gyfer y prawf dygnwch, gofynnir i chi redeg yn ôl ac ymlaen ar drac 15 metr gan gadw amser â chyfres o synau bipian, bydd y synau bipian yn mynd yn gyflymach hyd at lefel 5.4 wrth i'r prawf fynd yn ei flaen.
Bydd gofyn i chi fynychu prawf ffitrwydd cyn penodi hefyd, tua 6 wythnos cyn y dyddiad penodi disgwyliedig, a bydd yn rhaid i chi basio hwn er mwyn i'ch cais symud yn ei flaen.
Bydd statws ariannol pob ymgeisydd yn cael ei archwilio. Cynhelir yr archwiliadau hyn oherwydd bydd gan heddwas fynediad i wybodaeth freintiedig a all eu gwneud yn agored i lygredd.
Mae gan Heddlu De Cymru bolisi o wahardd unrhyw un o'n swyddogion rhag bod yn aelodau o Blaid Genedlaethol Prydain, neu sefydliad tebyg y gall ei nodau, ei amcanion neu ei ddatganiadau fod yn groes i'r dyletswyddau i hyrwyddo cydraddoldeb hiliol. Os ydych yn aelod o Blaid Genedlaethol Prydain neu wedi bod yn rhan ohoni yn flaenorol, mae'n bosibl y caiff eich cais ei wrthod.
Mae'n bosibl y bydd ymgeiswyr sydd â thatŵs a thyllau yn y corff sy'n weladwy yn gymwys i gael eu penodi. Caiff pob achos ei ystyried ar sail unigol, gan ystyried nifer, natur, maint, amlygrwydd, ymddangosiad a lleoliad y tatŵs.
Mae'n rhaid nad oes unrhyw datŵau yn dramgwyddus i gydweithwyr nac aelodau o'r cyhoedd ac nad ydynt yn tanseilio urddas eich rôl yn yr heddlu. Tybir o hyd y bydd tatŵs ar y gwddf, y wyneb neu'r dwylo yn annerbyniol ond efallai y bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi o dan rai amgylchiadau yn dibynnu ar faint, natur ac amlygrwydd y tatŵ.
Os bydd ymgeiswyr yn dewis cael unrhyw datŵs ychwanegol a thyllau ychwanegol yn y corff yn ystod y broses recriwtio, ar ôl llwyddo yn y gwiriadau cymhwystra, nhw sy'n gyfrifol am hysbysu staff adnoddau dynol a chyflwyno ffotograffau priodol y bydd angen bwrw golwg drostynt.
Mae gonestrwydd yn hollbwysig bob amser yn ystod y broses recriwtio. Mae'n hanfodol eich bod yn datgan yr holl wybodaeth berthnasol i ni yn ystod y cam ymgeisio a chamau fetio'r broses. Byddwn yn gofyn cwestiynau i chi ond dylech hefyd ddweud unrhyw beth arall y credwch allai effeithio ar eich addasrwydd i'r rôl. Rhaid i chi hefyd hysbysu'r tîm recriwtio sy'n goruchwylio eich rôl am unrhyw newid mewn amgylchiadau yn ystod eich proses ymgeisio. Cliciwch yma i gael eu gwybodaeth gyswllt.
Mae’n bwysig gwybod nad yw llawer o amgylchiadau personol o reidrwydd yn eich atal rhag bod yn gymwys i ymuno. Fodd bynnag, os na fyddwch yn datgelu gwybodaeth berthnasol, mae’n rhaid i ni ystyried hyn fel hepgoriad bwriadol a'ch bod wedi ceisio cuddio’r wybodaeth honno oddi wrthym.
Gallwn gymeradwyo addasiadau neu ystyriaethau rhesymol yn ein canolfannau asesu a chyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr a all ddarparu tystiolaeth addas.
Mae'n bwysig bod ymgeiswyr yn ystyried a hoffent ofyn am drefniadau a fydd yn eu helpu i gwblhau elfennau o'r broses recriwtio. Gallai hyn fod mewn perthynas ag anabledd, niwroamrywiaeth, beichiogrwydd, menopos, anaf, crefydd neu gred ac ati.
Caiff addasiadau/ystyriaethau eu trafod yn unigol, yn seiliedig ar eich amgylchiadau a'r dystiolaeth a ddarperir gennych. Gellir cynnig addasiadau/ystyriaethau i gefnogi ystod o amgylchiadau unigol.