Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r Ganolfan yn gyfrifol am ymdrin â phob galwad brys a galwadau nad ydynt yn rhai brys gan y cyhoedd, felly mae'r gwaith yn werth chweil ac yn hanfodol er mwyn diogelu cymunedau De Cymru. Mae'r Ganolfan yn ateb dros 2000 o alwadau y dydd gan gynnwys troseddau difrifol, marwolaethau sydyn, gwrthdrawiadau traffig ac unigolion coll sy'n agored i niwed ac felly nid yw dwy alwad byth yr un fath.
Rhaid i unigolion ddeall pwysigrwydd darparu gwasanaeth o ansawdd da a phrydlon i gwsmeriaid. Yn gyfnewid am hyn, bydd gennych swydd a fydd yn cynnig llawer o foddhad sy'n gwneud cyfraniad sylweddol at ddiogelu cymunedau De Cymru. Os ydych yn wrandäwr da ac yn gallu gwneud penderfyniadau'n gyflym, gallai'r rôl hon fod yn addas i chi.
Rydym yn gweithio mewn ffordd gydweithredol yn y Ganolfan am ein bod yn rhannu ystafell reoli â'n cydweithwyr o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Mae'r uned rheoli ambiwlans hefyd wedi'i lleoli yn yr ystafell sydd wedi'i staffio gan bersonél ambiwlans sy'n rhoi cyngor ac arweiniad i'n staff. Mae gennym nyrsys yn yr ystafell hefyd sy'n gallu asesu a brysbennu unrhyw bryderon sy'n ymwneud â llesiant emosiynol a seicolegol er mwyn cynnig cyngor i'r staff.
Mae tîm o swyddogion yr heddlu sydd hefyd wedi'u lleoli yn y Ganolfan yn asesu pob galwad a gawn am unigolion coll, sy'n galluogi ymateb sydyn.
Ar bob tîm mae staff sy'n gweithio ar y Ddesg Ddigidol; maent yn ymateb i'n holl gysylltiadau digidol gan gynnwys e-bost, Twitter a Facebook, ac yn y dyfodol agos byddwn yn cynnig gwasanaeth gwe-sgwrs.
Dyma ein cyfleoedd ar gyfer Swyddogion sy'n ymdrin â Galwadau 999/101:
Gallwch ddysgu mwy am y rolau hyn isod.
Pan fydd y staff yn dechrau eu shifft byddant yn mynd i ddesg wag ac yn mewngofnodi i system gyfrifiadurol yr heddlu a'r system genedlaethol – mae un o'r systemau hyn yn trosglwyddo galwad 999 brys neu alwad 101 nad yw'n alwad brys yn awtomatig i'r gweithredwr sydd wedi bod yn aros am alwad am yr amser hiraf.
Caiff pob aelod newydd o'r staff sy'n delio â galwadau becyn hyfforddiant cadarn. Mae hyn yn cynnwys hyfforddiant ystafell ddosbarth a thiwtor i ddarparu hyfforddiant ar y safle i ymateb i alwadau wrth iddynt gyrraedd. Mae rhan o'r hyfforddiant yn cynnwys gorffen galwadau, sy'n cael ei alw'n “swyddogaeth gorffen galwadau”. Mae hyn yn sicrhau na fydd yr aelodau o staff sy'n delio â galwadau yn cael galwad arall nes eu bod wedi cwblhau'r holl wiriadau a choladu'r wybodaeth berthnasol ar gyfer cofnodi'r digwyddiad. Mae'r broses hon wedi cael ei rhoi ar waith i sicrhau bod yr aelod o staff sy'n delio â galwadau yn cael digon o amser i ddelio â'r alwad yn gywir. Unwaith y bydd hyn wedi'i chwblhau, gall y gweithredwr ddangos ei fod ar gael ar gyfer yr alwad nesaf.
Gall y galwadau y byddwch yn delio â nhw amrywio'n fawr a bydd eich hyfforddiant yn sicrhau y gallwch nodi pa alwadau sydd ar gyfer asiantaethau eraill a chynghori'r galwr a'i ailgyfeirio at yr asiantaeth fwyaf priodol. Gall galwadau gynnwys adroddiadau am Ddamweiniau Traffig Ffyrdd, digwyddiadau domestig a all gynnwys trais, dwyn, bwrgleriaethau a lladrata, ymladd ac aflonyddwch ac aelodau o'r cyhoedd sy'n ddioddef problemau iechyd meddwl, gan gynnwys galwyr sy'n ystyried hunanladdiad. Dyma drosolwg o'r galwadau rydym yn delio â nhw. Caiff staff eu hyfforddi i ymddwyn yn bwyllog, tawelu galwyr gofidus a chael gwybodaeth gywir ganddynt yn gyflym gan sicrhau bod yr aelod o staff sy'n delio â galwadau yn asesu'r Bygythiad, Risg a Niwed o ystyried yr amgylchiadau penodol. Bydd hyn yn golygu bod galwadau'n cael eu graddio'n gywir a bod ymateb priodol ac amserol yn cael ei drefnu.
Unwaith y bydd yr alwad wedi'i graddio, ac os bydd angen ymateb o fewn 15 munud i 8 awr, caiff ei throsglwyddo i'r adran ddosbarthu lle y dyrennir swyddogion i fynychu'r digwyddiad.
Os bydd angen ymateb gan yr heddlu ond nad oes ei angen ar gymaint o frys, caiff ei anfon at ein Tîm Datrys Digwyddiadau (IRT) sydd hefyd yn gweithio yn y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus.
Unwaith y byddwch wedi ymgyfarwyddo'n llawn â'r rôl Swyddog Olrhain Cysylltiadau, bydd yn ofynnol i chi gwblhau cwrs dosbarthu pellach a fydd yn para wythnos, ac yna treulio chwe bloc pellach gyda thiwtoriaid yn datblygu sgiliau dosbarthu cyn y byddwch yn gymwys yn yr elfen hon o'r rôl.
Rôl y Swyddog Risg a Datrys Digwyddiadau yw dyrannu swyddogion i ddigwyddiadau sydd wedi cael eu creu a'u graddio gan ein cydweithwyr sy'n delio â galwadau. Mae angen ffordd ddynamig o feddwl ar gyfer y rôl Swyddog Risg a Datrys Digwyddiadau. Rydym yn defnyddio sgiliau amrywiol i ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau.
Fel Swyddog Risg a Datrys Digwyddiadau rydym yn cynnal asesiad risg o'r digwyddiadau a grëwyd gan Swyddogion Olrhain Cysylltiadau ac, os bydd angen, yn uwchraddio i ymateb cyflymach a mwy priodol. Neu fel sy'n gallu digwydd, gofyn i'r goruchwylydd dosbarthu adolygu gradd yr alwad er mwyn ei hisraddio. Drwy wneud hyn gallwn helpu'r rhingylliaid i reoli digwyddiadau yn eu Huned Reoli Sylfaenol yn fwy effeithiol.
Cawn ein hyfforddi i gwmpasu pob maes yn ardal Heddlu De Cymru ar chwe sianel wahanol. Ar y sianeli hyn rydym yn canolbwyntio ar y digwyddiadau sydd wedi cael eu creu ar gyfer y maes penodol hwnnw. Mae angen y gallu i reoli nifer o ddigwyddiadau ar unwaith a chanolbwyntio ar flaenoriaethu digwyddiadau yn ôl risg er mwyn dyrannu mewn ffordd briodol ac amserol. Rydym yn gweithio gyda rhingylliaid sector i ddyrannu swyddogion i ddigwyddiadau a rhoi cymorth os bydd angen hynny ar y swyddogion ar ffurf dod o hyd i gudd-wybodaeth drwy NICHE (System Rheoli Cofnodion) a Chyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu, sy'n ein galluogi i archwilio'r systemau i gael manylion digwyddiadau blaenorol neu unrhyw beth o bwys a fydd yn helpu'r swyddogion.
Os bydd angen cymorth brys ar swyddog, bydd yn actifadu ei larwm sy'n dod yn ôl i'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus. Yna gallwn alw am unedau eraill i fynd a chefnogi'r swyddog sydd wedi actifadu ei larwm argyfwng. Mae angen ymateb cyflym a dealltwriaeth o ble mae eich adnoddau agosaf a beth yw sgiliau'r staff.
Byddwn yn mynd ar gwrs ymlid er mwyn cael hyfforddiant ar ymdrin ag achosion o ymlid cerbydau pan fyddant yn codi. Yn aml nid yw hyn wedi'i gynllunio; mae'n digwydd ar hap ac mae angen ffocws clir. Gallwn ddyrannu'r unedau a nodi'r holl fanylion perthnasol megis manylion y cerbyd, y lleoliad a'r amgylchiadau. Unwaith y cawn wybod am gerbyd sydd wedi methu â stopio, byddwn yn mynd ati ar unwaith i roi gwybod i'r goruchwylydd dosbarthu sydd wedi cael hyfforddiant ymlid, er mwyn iddo gymryd rheolaeth dros y radio.
Cawn ein hyfforddi i beidio â chynhyrfu mewn sefyllfaoedd llawn straen, hynod gritigol a sicrhau ein bod yn rhoi cymorth i'n cydweithwyr yn yr heddlu yn yr Unedau Rheoli Sylfaenol yn ogystal â chydweithwyr dosbarthu yn yr ystafell. Rydym bob amser yn gweithio fel tîm, byth ar ein pen ein hunain.
Rhybuddion ac Euogfarnau Mae'n bosibl y byddwch yn gymwys i ymuno â'r heddlu o hyd os bydd gennych fân rybuddion/euogfarnau, ond bydd rhai troseddau ac amodau yn eich gwneud yn anghymwys. Dylech ddarllen y meini prawf cymhwysedd cyn gwneud cais.
Dinasyddiaeth/Byw yn y DU Rhaid i chi fod yn ddinesydd Prydeinig, yn ddinesydd o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, yn ddinesydd y Gymanwlad neu'n wladolyn tramor heb gyfyngiadau ar eich arhosiad yn y Deyrnas Unedig. Hefyd, rhaid eich bod wedi byw'n barhaus yn y DU am gyfnod o dair blynedd yn union cyn gwneud cais. Y rheswm dros hyn yw fel y gellir bodloni'r gofyniad i fetio pob ymgeisydd mewn modd teg am nad oes gan wasanaeth Heddlu'r DU ar hyn o bryd unrhyw ffordd o hwyluso profion fetio dramor i'r un graddau sy'n angenrheidiol ar gyfer y rheini sydd wedi bod yn byw yn y DU. Ni allwn benodi ymgeiswyr nad ydynt wedi'u fetio.
Ymlyniad wrth Blaid Mae gan Heddlu De Cymru bolisi o wahardd unrhyw un o'n swyddogion rhag bod yn aelodau o Blaid Genedlaethol Prydain, neu sefydliad tebyg y gall ei nodau, ei amcanion neu ei ddatganiadau fod yn groes i'r dyletswyddau i hyrwyddo cydraddoldeb hiliol. Os ydych yn aelod o Blaid Genedlaethol Prydain neu sefydliad tebyg, neu os buoch yn rhan o'r blaid honno neu sefydliad tebyg yn flaenorol, caiff eich cais ei wrthod.
Cymwysterau Ar gyfer rolau staff yr heddlu penodol, bydd yn ofynnol i chi feddu ar gymhwyster ar lefel benodol neu brofiad digonol o weithio yn y maes gofynnol. Caiff hyn ei nodi'n glir ym mhroffil y rôl. Os na fyddwch yn darparu tystiolaeth o'ch cymhwyster na lefel eich profiad gyda'ch cais, caiff ei dynnu yn ôl o'r broses ymgeisio.
Tatŵau Mae'n bosibl y bydd ymgeiswyr sydd â thatŵau gweladwy yn gymwys i gael eu penodi. Caiff pob achos ei ystyried yn unigol, gan ystyried nifer, natur, maint, amlygrwydd, ymddangosiad a lleoliad y tatŵau. Ni ddylai'r tatŵau fod yn dramgwyddus i gydweithwyr nac aelodau o'r cyhoedd nac ychwaith danseilio urddas eich rôl yn yr Heddlu. Caiff tatŵau ar y gwddf, yr wyneb neu'r dwylo eu hystyried yn annerbyniol o hyd, ond mae'n bosibl y rhoddir ystyriaeth o dan rai amgylchiadau, o ystyried maint, natur, ac amlygrwydd y tatŵ. Os bydd ymgeiswyr yn dewis cael unrhyw datŵau ychwanegol yn ystod y broses recriwtio, ar ôl cwblhau'r gwiriadau cymhwysedd, yna mae ganddynt gyfrifoldeb i roi gwybod i'r Adran Adnoddau Dynol a rhoi ffotograffau addas y bydd angen eu harchwilio.
Fetio Caiff pwysigrwydd gonestrwydd ac uniondeb ei bwysleisio ym mhob rhan o'n proses gwneud cais. Mae staff yr heddlu yn ddarostyngedig i'r Safonau Ymddygiad Proffesiynol, sy'n nodi'r hyn a ddisgwylir gan staff yr heddlu yn glir.
RHAID i chi ddatgan pob euogfarn am droseddau blaenorol, rhybuddiadau ffurfiol (gan gynnwys pan oeddech o dan 18 oed) ac unrhyw achos o rwymo a osodwyd gan y llysoedd. Dylech hefyd gynnwys pob euogfarn sy’n gysylltiedig â thraffig.
Ymwadiad cymhwysedd Mae gonestrwydd yn hollbwysig bob amser yn ystod y broses recriwtio. Mae'n hanfodol eich bod yn datgan yr holl wybodaeth berthnasol i ni yn ystod y cam ymgeisio a chamau fetio'r broses. Byddwn yn gofyn cwestiynau i chi ond dylech hefyd ddweud unrhyw beth arall y credwch allai effeithio ar eich addasrwydd i'r rôl. Rhaid i chi hefyd hysbysu'r tîm recriwtio sy'n goruchwylio eich rôl am unrhyw newid mewn amgylchiadau yn ystod eich proses ymgeisio. Cliciwch yma i gael eu gwybodaeth gyswllt.
Mae’n bwysig gwybod nad yw llawer o amgylchiadau personol o reidrwydd yn eich atal rhag bod yn gymwys i ymuno. Fodd bynnag, os na fyddwch yn datgelu gwybodaeth berthnasol, mae’n rhaid i ni ystyried hyn fel hepgoriad bwriadol a'ch bod wedi ceisio cuddio’r wybodaeth honno oddi wrthym. Os gwnewch hyn caiff ei drin fel diffyg gonestrwydd ac uniondeb a fydd yn effeithio arnoch mewn ceisiadau yn y dyfodol. Os hoffech drafod eich amgylchiadau cyn gwneud cais, anfonwch e-bost at [email protected].
Cam cyntaf y broses ymgeisio yw'r ffurflen cymhwysedd.
Mae hyn yn edrych ar:
Unwaith y byddwch wedi cyflwyno'ch cais a bod gwiriad cymhwysedd cychwynnol wedi'i gwblhau, byddwch yn cael eich gwahodd i gwblhau ymarfer didoli ar-lein.
Mae hwn yn ymarfer amlddewis sy'n edrych ar eich patrymau ymddygiad a'ch dewisiadau mewn sefyllfa.
Fel rhan o'r didoli hwn bydd recordiadau sain a chyflwynir nifer o senarios/canlyniadau/opsiynau testun i chi. Rhaid i chi ddewis yr ymateb gorau i'r hyn a glywch yn y recordiad sain.
Os byddwch yn llwyddo yn y didoli ar-lein, cewch eich gwahodd i gwblhau asesiad y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus; mae'r asesiad hwn yn brawf sain a theipio. Prawf sain a theipio:
Caiff y rhai hynny sy'n llwyddiannus yn yr asesiad eu gwahodd i gyfweliad. Os byddant yn llwyddiannus yn y cyfweliad, cynigir y rôl iddynt yn amodol ar gwblhau prosesau cyn penodi yn llwyddiannus.
Ar gyfer rolau'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus, y rhain yw:
Pa wiriadau y bydd angen i mi eu cwblhau os byddaf yn llwyddiannus ar y cam asesu?
Gwahoddir ymgeiswyr i gwblhau holiadur meddygol, a gaiff ei drafod o bosibl, er mwyn nodi unrhyw faterion a all atal penodiad oherwydd risg i'r ymgeisydd neu unrhyw un sy'n defnyddio gwasanaeth Heddlu De Cymru.
Yn ogystal, bydd prawf clyw yn cael ei gwblhau at ddibenion goruchwylio iechyd. Mae natur y gwaith yn golygu bod angen gwiriadau fetio diogelwch. Mae penodiadau yn amodol ar gwblhau'r gwiriadau hyn yn foddhaol.
Ceisir geirdaon cyflogaeth gan gyflogwyr cyfredol a blaenorol o'r tair blynedd diwethaf.
Pa hyfforddiant y byddaf yn ei gael?
Mae pob aelod newydd o staff yn cwblhau rhaglen hyfforddi 14 wythnos sy'n gymysgedd o ddysgu yn yr ystafell ddosbarth a dysgu yn y gwaith gyda thiwtor o'ch tîm. Mae hyn yn cynnwys hyfforddiant ar yr holl systemau cyfrifiadurol y byddwch yn eu defnyddio a hyfforddiant delio â galwadau ar sut i ymdrin â nifer o wahanol fathau o alwyr ynghyd â sut i asesu a graddio digwyddiadau. Mae'r hyfforddiant manwl hwn yn sicrhau bod y staff wedi'u hyfforddi'n llawn cyn y byddant yn ateb galwadau ar eu pen eu hunain.
Pryd y byddaf yn cael cynnig penodiad?
Dim ond ar ôl gwiriadau cefndir boddhaol y caiff hyn ei roi. Byddwn yn ceisio rhoi cymaint o rybudd i chi ag y gallwn ond byddwn yn rhoi o leiaf bedair wythnos i chi er mwyn i chi allu siarad â'ch cyflogwr presennol ynglŷn â phryd y gall eich rhyddhau i ddechrau gweithio gyda ni. Byddwch hefyd yn cael contract cyflogaeth ar yr adeg hon.
Sicrhewch nad ydych yn cyflwyno'ch hysbysiad gadael i'ch cyflogwr presennol nes ein bod wedi rhoi eich contract i chi.
Pa fath o batrwm shifftiau y byddaf yn ei weithio?
Bydd yn ofynnol i chi weithio patrwm shifft, sy'n cynnwys gweithio cyfuniad o shifftiau wyth, naw a deg awr dros gyfnod 24/7 am chwe diwrnod a fydd yn cynnwys shifftiau yn y bore, yn y prynhawn a gyda'r nos, ac yna pedwar diwrnod seibiant.
A allaf weithio'n rhan amser?
Gallwch, os byddwch yn llwyddiannus, gallwch wneud cais i weithio'n rhan amser. Caiff eich cyflog, a hawliadau eraill megis gwyliau, eu haddasu pro rata.
Nid yw fy nghwestiwn wedi cael ei ateb yn y Cwestiynau Cyffredin hyn, sut y gallaf gysylltu?
Gallwch anfon unrhyw ymholiadau pellach drwy e-bost i: [email protected]
Anfonwch unrhyw ymholiadau pellach drwy e-bost i: [email protected]
Os oes gennych ddiddordeb mewn cyfleoedd a fydd ar gael gyda Heddlu De Cymru yn y dyfodol, rhowch eich manylion ar ein banc talent a byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd gennym swyddi gwag sy'n gweddu eich sgiliau a'ch dewisiadau. COFRESTRWCH EICH DIDDORDEB