Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Fframwaith Cymwysterau Addysgol Plismona
Mae PEQF yn dalfyriad Saesneg o Fframwaith Cymwysterau Addysgol Plismona ac yw'r fframwaith hyfforddi proffesiynol ar gyfer swyddogion yr heddlu. Mae PEQF yn cael ei ddatblygu'n barhaus i sicrhau bod yr hyfforddiant rydym yn ei ddarparu i'r safon gorau ac er mwyn adlewyrchu safbwyntiau ein myfyrwyr.
Fel rhan o weledigaeth plismona 2025, nodir:
Y rhaglenni hyn yw ein gwahanol lwybrau mynediad at fod yn Swyddog yr Heddlu. Rydym yn recriwtio'n aml felly cadwch lygad ar ein tudalen Gyrfaoedd am ddiweddariadau.
Dysgwch fwy am y PEQF yma Fframwaith Cymwysterau Addysg Plismona (PEQF) | Coleg Plismona
Beth am glywed gan rai o'n swyddogion dan hyfforddiant PCDA a DHEP am eu profiad o gwblhau eu hyfforddiant.
Ym mis Tachwedd 2022, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cartref ei bod wedi gofyn i'r Coleg Plismona ystyried llwybr mynediad i faes plismona lle nad oes angen gradd er mwyn ategu'r llwybrau mynediad sydd eisoes yn bodoli.
Mae'r Coleg Plismona yn ystyried ac yn adolygu'r ymholiad a byddant yn rhoi gwybod i Heddluoedd yn unigol pan fydd y broses wedi'i chwblhau.Bydd hyn yn cynnwys rhaglen newydd – ac nid dychwelyd i Raglen Dysgu a Datblygu Gychwynnol flaenorol yr Heddlu.
Hyd nes y caiff yr ymholiad ei gadarnhau, bydd Heddlu De Cymru yn parhau i ddilyn llwybrau mynediad y rhaglen radd sydd eisoes yn bodoli.