Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Heddlu De Cymru yw’r heddlu mwyaf yng Nghymru ac er ei fod yn cwmpasu ardal ddaearyddol fach ag arwynebedd o tua 812 o filltiroedd sgwâr, sy’n cyfateb i ddim ond 10% o arwynebedd daearyddol Cymru, mae Heddlu De Cymru yn darparu gwasanaeth plismona i 1.3 miliwn o bobl (42% o boblogaeth y wlad).
Mae De Cymru yn rhanbarth amrywiol gydag ardaloedd gwledig, arfordirol a threfol gan gynnwys y ddwy ddinas fwyaf yng Nghymru, sef Abertawe a’r brifddinas, Caerdydd. Mae’r heddlu hefyd yn gwasanaethu 63 o’r 100 o gymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru.
Mae gan yr heddlu bron i 3000 o swyddogion yr heddlu a thros 2200 o staff yr heddlu, gan gynnwys Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSOs) a thîm o wirfoddolwyr ymroddgar sy’n cynnwys dros 100 o Gwnstabliaid Gwirfoddol a thua 150 o Wirfoddolwyr Ifanc yr Heddlu.
Fel heddlu, rydym yn buddsoddi'n sylweddol yn y dechnoleg ddiweddaraf ac yn llesiant staff a swyddogion. Mae Heddlu De Cymru wedi bod wrth wraidd llawer o ddigwyddiadau mawr – gyda Chynghrair y Pencampwyr, NATO a'r Gemau Olympaidd ymhlith eraill wedi eu cynnal yma yn Ne Cymru dros y blynyddoedd diwethaf.
Ymunwch â ni er mwyn ein helpu i fod y gorau am ddeall anghenion ein cymunedau ac ymateb iddynt.
Pan fydd hi'n amser i chi arbenigo neu gael dyrchafiad; fe welwch fod Heddlu De Cymru yn gyflogwr cefnogol a byddwn yn rhoi cyfle i'ch dyheadau a'ch galluoedd gael eu cydnabod.
Mae ein Rhaglen Rheoli Talent unigryw yn newydd ar gyfer 2020, gan gynnig llwybrau datblygu ychwanegol i swyddogion eithriadol.
Mae'r llwybr gyrfa ar gyfer swyddogion yr heddlu yn arwain at reng Prif Uwcharolygydd.
Rydym yn gwirio ceisiadau er mwyn sicrhau bod ymgeiswyr wedi llwyddo yn y cyfnod prawf a'u bod yn bodloni'r meini prawf cywir ar gyfer dyrchafiad yn y rheng y gwnaed cais amdani.
Rydym yn gwirio cymhwysedd yn unol â gofynion y Swyddfa Gartref ynglŷn â chanllawiau Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu e.e. rhaid gorchuddio tatŵau â lifrai.
Ni chaniateir i chi fod â thatŵau ar eich dwylo, eich gwddf, eich elinoedd na'ch wyneb a allai beri tramgwydd i aelodau'r cyhoedd neu gydweithwyr, neu a allai gael eu hystyried yn anllad, yn orliwgar neu'n gythruddol.
Ar gyfer rolau ditectifs, rydym hefyd yn gofyn am dystiolaeth o achrediad PIP
perthnasol.
Nodwch y rôl yr hoffech wneud cais amdani ar y ffurflen gais.
Byddwn yn sgorio'r dystiolaeth rydych wedi'i darparu o'ch sgiliau a'ch profiad. Os byddwch yn llwyddiannus ar y cam hwn, cewch eich gwahodd i fynychu cyfweliad.
Gofynnir i chi fynychu cyfweliad lle bydd angen i chi ateb cyfres o gwestiynau yn seiliedig ar gymhwysedd. Os byddwch yn llwyddiannus, cewch gynnig amodol yn ogystal â gwahoddiad i fynychu gwiriadau cefndirol.
Mae'r cynnig hwn yn amodol ar gwblhau'r holl wiriadau cefndirol gofynnol fel y nodir isod.
Os byddwch yn llwyddiannus yn y cyfweliad, bydd agen i ni gwblhau gwaith fetio diogelwch ac ariannol (gan gynnwys gwiriad gydag adran Safonau Proffesiynol eich heddlu cartref), i'r lefel sy'n ofynnol ar gyfer y rôl. Byddwn hefyd yn eich gwahodd i gwblhau g wiriad Meddygol (a BMI), prawf ffitrwydd, proses fetio biometrig (olion bysedd a chwiliad DNA ar hap) yn ogystal â phrawf cyffuriau. Byddwn yn ceisio trefnu pob prawf ar gyfer yr un diwrnod ond ni
allwn warantu hyn gan fod apwyntiadau'n dibynnu ar alw sefydliadol.
Er mwyn hwyluso'r gwiriadau cefndir hyn, byddwn yn gofyn i chi gwblhau'r canlynol:
Byddwn hefyd yn cysylltu â'ch heddlu cartref ar yr adeg hon i gadarnhau cyfnodau o salwch a hyfforddiant, yn ogystal â'ch cyflog/pensiwn.
Unwaith y byddwn wedi cwblhau'r holl wiriadau cefndir yn ogystal â chadarnhau
gwybodaeth yr heddlu gartref, byddwn yn anfon cynnig terfynol o benodiad atoch yn cadarnhau'r swydd, y lleoliad, yr hyfforddiant ac ati.
Byddwn yn gofyn i chi fynychu sesiynau sefydlu am dair wythnos ar ôl dechrau – bydd hyn yn cynnwys pethau fel ffitio lifrai a chael cerdyn adnabod, cyflwyniad i'r Gymraeg, hyfforddiant ar Amrywiaeth, Diogelwch Swyddogion, Diogelu Data a chyrsiau ar ein systemau.
Ar ôl i chi gwblhau'r sesiynau sefydlu, byddwn yn eich gwahodd i fynychu seremoni ailardystio.
Noder mai dim ond i rolau Swyddogion yr Heddlu y mae'r broses drosglwyddo yn gymwys. Ar gyfer pob rôl Plismona arall, bydd angen i chi wneud cais newydd pan gaiff y swydd wag berthnasol ei hysbysebu. Dilynwch y ddolen i weld ein swyddi gwag cyfredol.
Yn anffodus, rhaid i swyddogion sy'n dymuno gwneud cais fod wedi cwblhau eu cyfnod prawf 2/3 flynedd yn llwyddiannus ar y rheng briodol neu Gam 4 proses NPPF erbyn dyddiad cau y broses ymgeisio.
Yn anffodus, nid yw ymchwilwyr sifil yn swyddogion heddlu tynghedig ac nid ydynt yn gymwys i drosglwyddo i rôl Swyddog yr Heddlu, er gwaethaf y ffaith y gallent fod wedi cael profiad ymchwilio.
Sylwer bod rhan fwyaf y swyddi gwag yn Uned Reoli Sylfaenol y Dwyrain ac mewn adrannau arbenigol penodol. Os hoffech drosglwyddo i leoliadau neu rolau eraill o fewn Heddlu De Cymru, efallai y caiff eich cais ei ddal yn unol â swyddi gwag yn y dyfodol.
Nid ydym yn derbyn ceisiadau gan swyddogion sy'n gwasanaethu gyda'r canlynol ar hyn o bryd:
Byddwn yn cysylltu â'ch adran AD i gadarnhau eich cofnodion salwch, PDR, hyfforddiant, eich cyflog a'ch pensiwn. A fyddech gystal â darparu rhif ffôn a chyfeiriad e-bost uniongyrchol ar eu cyfer.
Byddem yn awgrymu y byddai rheng Arolygydd neu'n uwch yn addas.
Os bydd y cyrsiau hyfforddiant a fynychwyd yn rhai sy'n cael eu hachredu ar lefel genedlaethol, gan ddilyn canllawiau cenedlaethol, a cheir tystiolaeth o gymhwysedd (h.y. tystysgrif cwblhau cyrsiau a darpariaeth ddiweddaru), byddai modd eu trosglwyddo.
Byddai angen i swyddogion sy'n meddu ar gymhwyster Ospre wneud cais am ddyrchafiad ar ôl iddynt gael eu penodi, pan fydd gennym broses recriwtio dyrchafiad ar agor yn Heddlu De Cymru. Byddwch yn trosglwyddo yn unol â'ch gradd bresennol.
Os byddwch yn llwyddiannus, byddwn yn gofyn i chi fynychu apwyntiad meddygol, sy'n cynnwys prawf golwg. Y safon ofynnol ar hyn o bryd yw 6/36 heb gymorth (heb yr angen i wisgo sbectol/lensys cyffwrdd.
Nid oes modd gwneud cais ar hyn o bryd. Cadwch lygad allan am y wybodaeth ddiweddaraf.