Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Drwy gydol y broses gwneud cais, byddwn yn cyfathrebu â chi drwy e-bost. Mae’n bwysig eich bod yn nodi eich cyfeiriad e-bost presennol yn eich cais. Mae hefyd yn werth edrych yn eich ffolder sothach yn rheolaidd wrth i'r broses hon fynd rhagddi.
Gall rhai elfennau o'r broses sifftio a'r gwiriadau cyn cyflogi gymryd sawl wythnos i'w cwblhau; mae'n bosibl na fyddwn yn cyfathrebu â chi o gwbl am gyfnodau hir pan fydd y gwaith hwn yn mynd rhagddo. Nid oes angen i chi gysylltu â ni – byddwn yn cysylltu â chi pan fydd eich cais yn barod i symud ymlaen i'r cam nesaf.
Gallwch weld eich cais drwy ein tudalen recriwtio ar-lein. Er mwyn gweld eich cais:
Os cewch eich gwahodd i drefnu prawf, apwyntiad neu gyfweliad, dylech wneud hyn drwy ein tudalen recriwtio ar-lein.
Dilynwch y cyfeiriadau uchod i weld eich cais. O dan ‘Your applications’, bydd angen i chi ddewis ‘Review Status’ ar gyfer y rôl berthnasol. Bydd botwm ar y dudalen hon lle y gallwch drefnu'r elfen o'r broses y mae angen i chi ei chwblhau. Fel arfer, byddwch yn cael neges e-bost yn rhoi gwybod i chi bod angen cymryd camau ar eich cais.
Rydym yn deall y gall amgylchiadau unigol newid ac efallai y bydd angen i chi dynnu'n ôl o un o'n prosesau recriwtio.
I dynnu'n ôl, dilynwch y cyfeiriadau uchod i weld eich cais. O dan ‘Your applications’, bydd angen i chi ddewis ‘Review Status’ ar gyfer y rôl berthnasol. Ar y dudalen hon, mae botwm ‘Withdraw application’. Drwy glicio ar y botwm, byddwch yn gweld blwch cadarnhau lle y bydd angen i chi gadarnhau eich bod am dynnu'n ôl. Dylech roi rheswm am dynnu'n ôl fel rhan o'r cam cadarnhau hwn.
Cofiwch na fyddwch yn gallu ailymuno â'r broses recriwtio ar ôl i chi dynnu eich cais yn ôl. Ni fydd tynnu eich cais yn ôl yn eich atal rhag gwneud ceisiadau i Heddlu De Cymru yn y dyfodol.
Os byddwch wedi gwneud camgymeriad ar eich ffurflen gais, dylech ei gywiro cyn gynted â phosibl drwy gysylltu â'r tîm recriwtio i'w newid. Peidiwch â chreu cais arall gan y bydd y system yn ei nodi fel cyflwyniad dwbl.
Rhaid i chi roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau i'ch amgylchiadau personol sy'n codi ar ôl i chi gyflwyno eich cais. Mae'r rhain yn cynnwys; newid i statws priodasol neu bartneriaeth sifil, newid i'ch enw neu eich cyfeiriad, newidiadau sy'n ymwneud ag euogfarnau neu rybuddion, newidiadau sy'n ymwneud â statws ariannol ac unrhyw newidiadau i gyd-breswylwyr (gan gynnwys plant dan oed).
O ganlyniad i nifer y ceisiadau rydym yn eu cael, yn anffodus nid oes modd i ni roi adborth yn ystod y broses o lunio rhestr fer.
Mae'n bosibl y bydd adborth ar gael i ymgeiswyr ar ôl y cam cyfweld, er y bydd hyn yn dibynnu ar y rôl a nifer yr ymgeiswyr sy'n cael eu cyfweld. Efallai na fydd hyn yn bosibl bob tro.
Rydym yn argymell yn gryf na ddylech roi rhybudd i'ch cyflogwr presennol tan y byddwch wedi cael eich contract a'ch dyddiad dechrau gan Heddlu De Cymru.
Mae cyfnod o hyfforddiant gorfodol yn gysylltiedig â nifer o'n rolau gweithredol ac arbenigol a bydd ymgeiswyr yn ymrwymedig i'r cyfnodau hynny os byddant yn cael cynnig cyflogaeth gan Heddlu De Cymru. Byddwch yn cael nifer penodol o ddiwrnodau gwyliau blynyddol yn ystod y cyfnod hyfforddiant hwn, ond ni chaniateir i chi gymryd unrhyw wyliau blynyddol ychwanegol yn ystod y cyfnod hyfforddiant, oni bai bod amgylchiadau arbennig.
Gall amgylchiadau arbennig gynnwys gwyliau ar gyfer priodasau (eich priodas eich hun neu briodas perthynas agos yn unig), diwrnodau graddio neu angladd. Os byddwch yn dechrau rôl sy'n golygu bod angen i chi ymgymryd â hyfforddiant gorfodol, dylech roi gwybod i'r tîm AD cyn eich dyddiad dechrau os bydd angen mwy o wyliau arnoch gan y bydd angen i'r arweinydd hyfforddiant gymeradwyo'r cais.
Dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol bod cyfnodau hyfforddiant gorfodol ar gyfer y rolau canlynol fel a ganlyn:
Mae ein holl wybodaeth recriwtio ar gael ar ein gwefan er mwyn sicrhau ei bod yn hawdd i unrhyw ddarpar ymgeiswyr i Heddlu De Cymru gael gafael arni. Os bydd angen cymorth ychwanegol arnoch ar unrhyw gam o'r broses gwneud cais, cysylltwch â'n timau recriwtio. Mae nifer o'n timau yn gweithio gartref o hyd felly dylech anfon eich ymholiad drwy e-bost i ddechrau.
Recriwtio Swyddogion yr Heddlu (gan gynnwys drwy'r Rhaglen Garlam i Rôl Ditectif a'r rhaglen Cyn Ymuno)
E-bost: [email protected]
Recriwtio Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu a Chwnstabliaid Gwirfoddol
E-bost: [email protected]
Recriwtio Staff yr Heddlu
E-bost: [email protected]
Dylid anfon unrhyw ymholiadau cyffredinol drwy e-bost i: [email protected] neu os hoffech siarad ag aelod o'r tîm recriwtio, ffoniwch: 01656 869225
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys eich enw, cyfeirnod eich cais a chyfeirnod y swydd wag fel rhan o bennawd unrhyw negeseuon e-bost.