Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Gwirfoddolwyr Cefnogi’r Heddlu yn rhan annatod o Heddlu De Cymru. Maent yn bobl sy’n rhoi o’u hamser i gyflawni tasgau sy’n ategu’r gwaith a gyflawnir gan swyddogion a staff yr heddlu. Maent yn rhan o ddiwylliant yr heddlu, ac maent yn werthfawr iawn, nid yn unig am eu bod yn rhoi cymorth uniongyrchol, ond oherwydd y cysylltiadau allweddol â’r gymuned. Cânt eu fetio ac maent yn cyflawni llawer o dasgau amrywiol, yn dibynnu ar anghenion a chyfyngiadau pob heddlu unigol.
Diweddariad
Yn anffodus, o ganlyniad i achosion Coronafeirws COVID-19, mae’r holl ganolfannau a gweithgareddau yn ymwneud â Gwirfoddolwyr Ieuenctid yr Heddlu wedi cael eu gohirio am y tri mis nesaf. Felly, ni fyddwn yn derbyn datganiadau o ddiddordeb yn ystod y cyfnod hwn.
Mae’n debygol y caiff y penderfyniad hwn ei adolygu yn y tri mis nesa, yn y cyfamser mae croeso i chi gysylltu â ni i nodi eich diddordeb.
Mae’r cynllun Gwirfoddolwr Fyfyriwr yn cyd-fynd â Chynllun Gwirfoddolwr Cefnogi’r Heddlu, Heddlu De Cymru. Dros y chwe blynedd ddiwethaf, mae myfyrwyr yn Ne Cymru, yn enwedig ym Mhrifysgolion Caerdydd, Abertawe a Morgannwg (Trefforest), wedi mynd ati’n rhagweithiol i gadw eu cymunedau lleol yn ddiogel, er budd y gymuned a’r myfyrwyr ar y campws a phentrefi myfyrwyr.
Mae’n galonogol bod y myfyrwyr yn ymgysylltu â’r gymuned leol mewn modd cyfeillgar. Mae’r cyhoedd yn aml ond yn gweld ochr negyddol y gymuned o fyfyrwyr ac felly’n eu beio am lawer o broblemau (boed hynny yn haeddiannol ai peidio). Wrth iddynt gymryd rhan a siarad â phobl a datrys problemau, mae’r cyhoedd wedi gweld bod y myfyrwyr yn poeni am hyn, a bod diddordeb ganddynt ym marn y gymuned yn gyffredinol.
Hefyd, cafodd y gweithgareddau a gyflawnwyd gan wirfoddolwyr fyfyrwyr eu defnyddio gan y Prifysgolion fel rhan o’u gradd BSc Gwyddorau’r Heddlu, er enghraifft, i roi astudiaeth achos ymarferol wrth addysgu dulliau ymchwil i’r myfyrwyr. Gan weithio dan arweiniad aelodau’r Timau Plismona yn y Gymdogaeth, byddwch yn ymgysylltu’n uniongyrchol â Swyddogion yr Heddlu a Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu.
Fel arfer, caiff Gwirfoddolwyr Fyfyrwyr yr Heddlu eu recriwtio drwy’r Cyngor Gwirfoddoli i Fyfyrwyr ym mhob campws, gan weithio mewn partneriaeth ag aelodau’r timau Plismona yn y Gymdogaeth leol.
Caiff Gwirfoddolwyr Fyfyrwyr eu recriwtio ym mis Mai a mis Medi bob blwyddyn fel arfer, ac mae galw uchel iawn am leoedd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan eich Undeb Myfyrwyr.
Mae cyfleoedd hefyd i gefnogi ein Comisiynydd Heddlu a Throseddu i ddwyn yr heddlu i gyfrif drwy wirio’n annibynnol sut rydym yn gofalu am y bobl yn y ddalfa a’n hanifeiliaid gwaith drwy wirfoddoli gyda’r canlynol:
Prif ddiben y rôl yw darparu a chydgysylltu gwasanaeth cymorth bugeiliol rhyng-enwadol i swyddogion yr heddlu a staff a gyflogir gan Heddlu De Cymru.