Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r cynllun Myfyrwyr-Wirfoddolwyr yn cyd-redeg â Chynllun Gwirfoddolwyr Ieuenctid yr Heddlu
Mae'r cynllun Myfyrwyr-Wirfoddolwyr yn cyd-redeg â Chynllun Gwirfoddolwyr Ieuenctid yr Heddlu. Mae myfyrwyr mewn prifysgolion yng Nghaerdydd, Abertawe a Threfforest yn chwarae rôl ragweithiol i gadw eu cymunedau lleol yn ddiogel, er budd y gymuned ehangach a phoblogaeth myfyrwyr eu campws a'u pentrefi myfyrwyr. Drwy gymryd diddordeb byw yn eu cymunedau lleol, gall myfyrwyr chwalu unrhyw stereoteipiau negyddol a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu cymunedau.
Hefyd, cafodd y gweithgareddau a gyflawnwyd gan wirfoddolwyr fyfyrwyr eu defnyddio gan y Prifysgolion fel rhan o’u gradd BSc Gwyddorau’r Heddlu, er enghraifft, i roi astudiaeth achos ymarferol wrth addysgu dulliau ymchwil i’r myfyrwyr. Gan weithio dan arweiniad aelodau’r Timau Plismona yn y Gymdogaeth, byddwch yn ymgysylltu’n uniongyrchol â Swyddogion yr Heddlu a Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu.
Fel arfer, caiff Gwirfoddolwyr Fyfyrwyr yr Heddlu eu recriwtio drwy’r Cyngor Gwirfoddoli i Fyfyrwyr ym mhob campws, gan weithio mewn partneriaeth ag aelodau’r timau Plismona yn y Gymdogaeth leol.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan [email protected],neu gallwch hefyd anfon neges e-bost i [email protected]
Hoffem sicrhau mai ni yw'r gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau. Er mwyn gwneud hyn, rydym am i'r ymgeiswyr gorau o ystod eang o gefndiroedd wneud cais i ddod yn rhan o'n teulu plismona.
Os hoffech siarad â rhywun am ymgyrchoedd recriwtio sydd i ddod, cyfleoedd a'r cymorth sydd ar gael i chi, cysylltwch â'n tîm Gweithredu Cadarnhaol yn [email protected].