Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Gwirfoddolwyr sy'n Cynorthwyo'r Heddlu yn wirfoddolwyr sy'n ddinasyddion ac sy'n rhoi eu hamser i gyflawni tasgau sy'n cyd-fynd â'r dyletswyddau a gyflawnir gan staff a swyddogion yr heddlu.
Bellach, mae Gwirfoddolwyr sy'n Cynorthwyo'r Heddlu yn rhan o ddiwylliant yr heddlu ac fe'u gwerthfawrogir yn fawr, nid yn unig am y cymorth uniongyrchol y maent yn ei ddarparu ond am y cysylltiadau allweddol gyda'r gymuned. Cânt eu fetio a byddant yn cyflawni nifer o dasgau amrywiol gan ddibynnu ar anghenion a chyfyngiadau pob Heddlu unigol.
Mae Gwirfoddolwyr sy'n Cynorthwyo'r heddlu yn rhan annatod o Heddlu De Cymru. Egwyddor sylfaenol y bartneriaeth yw bod Gwirfoddolwyr yn cyd-fynd â ac yn cynorthwyo rolau cyflogeion ym mhob maes o waith yr Heddlu.
Bydd pob ymgeisydd yn destun gweithdrefn fetio. Bydd hyn yn cynnwys gweithgarwch clirio diogelwch priodol a sicrhau dau eirda.
Ni dderbynnir ceisiadau os bydd posibilrwydd sylweddol o unrhyw wrthdaro rhwng buddiannau, i'r ymgeisydd neu i eraill, rhwng eu rhwymedigaethau fel Gwirfoddolwr sy'n Cynorthwyo'r Heddlu a'u heffeithiolrwydd yn eu bywyd proffesiynol neu mewn rôl gwirfoddoli arall.
Rhaid bod ymgeiswyr sy'n ddinasyddion tramor yn gallu profi eu bod wedi sicrhau 'caniatâd cyfredol a dilys i breswylio a gweithio yn y DU', sy'n cynnwys gwasanaeth gwirfoddol.
Rhaid cael prawf cyn y gellir derbyn ymgeiswyr. Ceir rheol o breswylio yn y DU am 3 blynedd hefyd sy'n berthnasol i bob ymgeisydd.
Yr oedran ieuengaf er mwyn bod yn Wirfoddolwr sy'n Cynorthwyo'r Heddlu yw 18 oed.
Fodd bynnag, rydyn ni'n derbyn ceisiadau gan bobl ifanc 17 oed sydd bron â chael eu pen-blwydd yn 18 oed.
Ni fydd uchafswm o ran oed, fodd bynnag, mae gofynion recriwtio cyfredol yn nodi bod yn rhaid bod iechyd ymgeiswyr yn dda er mwyn iddynt allu cyflawni rôl Gwirfoddolwr sy'n Cynorthwyo'r Heddlu.
Rydym yn ffodus iawn yn Ne Cymru gan bod galw uchel iawn ymhlith ein cyhoedd i gymryd rhan yn ein cynllun gwirfoddoli. O'r herwydd, efallai y bydd y cyfleoedd yn gyfyngedig mewn rhai ardaloedd daearyddol y llu weithiau.
Gall y broses ymgeisio safonol fod yn eithaf hir ac mae angen craffu'r holl ymgeiswyr mewn ffordd drylwyr.
Cam 1 – Bydd hwn yn gyflwyniad gan Swyddog yr Heddlu, Staff yr Heddlu neu wirfoddolwyr eraill, neu trwy gofrestru'r ffaith y mynegir diddordeb mewn rolau gwirfoddol a hysbysebir ar y wefan hon neu ar ein gwefannau cyfryngau cymdeithasol.
Cam 2 – Bydd hwn yn golygu llenwi holiadur syml a fydd yn pennu eich addasrwydd cychwynnol ar gyfer y cynllun, ac a fydd yn pennu a oes cyfleoedd yn bodoli yn eich ardal ddaearyddol.
Cam 3 – Fel arfer, bydd hwn yn wahoddiad i fynychu noson i wirfoddolwyr yn eich Gorsaf Heddlu leol, lle y byddwch yn cael cyflwyniad i'r cynllun ac ar yr adeg hon, gofynnir i chi ddarparu prawf o bwy ydych chi. Ar ddiwedd y noson hon, bydd y sawl sy'n dymuno parhau gyda'u cais yn cael pecyn ymgeisio i'w lenwi a'i ddychwelyd cyn pen 7 diwrnod.
Cam 4 – Yna, bydd y pecyn ymgeisio a ddychwelir (os bydd yn dderbyniol) yn cael ei basio trwy ein hadrannau recriwtio a fetio.
Cam 5 – Yn dilyn cais llwyddiannus, bydd eich cydlynydd gwirfoddolwyr lleol yn cysylltu â chi ac yn trefnu dyddiad cychwyn mewn unrhyw rôl gwirfoddol a neilltuwyd. Caiff gwirfoddolwyr penodol eu recriwtio i rolau penodol ac fel arfer, hysbysebir y rhain.
Ni chaiff contract cyflogaeth ei greu. Fodd bynnag, bydd gofyn i Wirfoddolwr lofnodi Cytundeb Gwirfoddolwr a fydd yn nodi sail y bartneriaeth. Gall y naill bartner neu'r llall ganslo'r bartneriaeth ar unrhyw adeg, gan ddynodi terfyniad rôl y Gwirfoddolwr sy'n Cynorthwyo'r Heddlu. Mae Heddlu De Cymru wedi'i eithrio o ddarpariaethau'r Deddf Adsefydlu Troseddwyr.
Oes. Mae'r holl Wirfoddolwyr sy'n Cynorthwyo'r Heddlu yn gyfrifol am gynnal cyfrinachedd ac mae gofyn iddynt lofnodi ffurflenni sy'n cytuno i egwyddorion Diogelu Data a'r Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol. Ar ôl eu llofnodi, rhoddir copi i'r Gwirfoddolwr a chaiff y copïau gwreiddiol eu cadw yn y ffeil bersonol.
Mae Gwirfoddolwr sy'n Cynorthwyo'r Heddlu yn gynrychiolydd Heddlu De Cymru. Disgwylir ymddygiad o'r safon uchaf bob amser er mwyn sicrhau y caiff hyder cyflogeion a'r cyhoedd ei gynnal ac mae'n rhaid i Wirfoddolwyr sicrhau hefyd na fydd gweithgareddau a gyflawnir yn eu bywyd preifat yn effeithio ar uniondeb Heddlu De Cymru neu'n peryglu rôl Gwirfoddolwyr sy'n Cynorthwyo'r Heddlu.
Bydd yr holl Wirfoddolwyr sy'n Cynorthwyo'r Heddlu yn cael hyfforddiant ymsefydlu pan fyddant yn ymuno â'r sefydliad. I Wirfoddolwyr sy'n Cynorthwyo'r Heddlu, bydd y broses ymsefydlu yn cynnwys materion sy'n ymwneud ag amrywiaeth a gwybodaeth gyffredinol arall.
Y Cydlynydd Gwirfoddolwyr fydd yn gyfrifol am gydlynu'r hyfforddiant ymsefydlu. Nodir gofynion hyfforddiant pellach a byddant yn ddibynnol ar y rôl a gyflawnir.
Bydd hyn yn rhan o'r cytundeb rhwng y Gwirfoddolwr sy'n Cynorthwyo'r Heddlu a'r Cydlynydd Gwirfoddolwyr. Rhagwelir y byddai unrhyw rôl gwirfoddoli yn gofyn am fynychu o leiaf 3 awr yr wythnos (12 awr y mis).
Mae Gwirfoddolwr sy'n Cynorthwyo'r Heddlu yn rhywun sy'n gwneud dewis personol i ymrwymo amser ac egni i gyflawni tasg yn unol â chyfarwyddyd y sefydliad ac ar ran y sefydliad. Maent yn cytuno gwneud hyn heb ddisgwyl unrhyw iawndal na gwobr ariannol, ac eithrio talu treuliau parod a bennir ymlaen llaw.
Rhoddir eitemau adnabod corfforaethol Heddlu De Cymru i wirfoddolwyr ac os nodir bod hynny'n angenrheidiol, lifrai ac offer sy'n cyd-fynd â'r rôl i'w gyflawni.
Rhaid iddynt wisgo eu heitemau adnabod bob amser a'u lifrai/offer os darparwyd y rhain, pan fyddant yn darparu gwasanaeth. Rhaid iddynt wisgo/defnyddio unrhyw offer/dillad diogelwch sy'n angenrheidiol ar gyfer eu rôl.
Ceir nifer o rolau amrywiol ar gyfer Gwirfoddolwyr sy'n Cynorthwyo'r Heddlu o fewn Heddlu De Cymru ac mae'r canlynol yn enghreifftiau o rai rolau a gyflawnir eisoes:
Yn unol â chanllawiau'r Swyddfa Gartref a Pholisi Fetio Cenedlaethol Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu, atgoffir ymgeiswyr bod yn rhaid eu bod wedi bod yn byw yn y DU yn barhaus am y cyfnod o dair blynedd cyn y gwneir cais.
Diben hyn yw bodloni'r gofyniad i fetio'r holl ymgeiswyr mewn ffordd deg ac nid oes gan wasanaeth Heddlu y DU ffordd o hwyluso archwiliadau fetio mewn gwledydd tramor ar hyn o bryd, i'r graddau sy'n ofynnol ar gyfer y rhai sydd wedi bod yn byw yn y DU. Ni fydd modd penodi ymgeiswyr na ellir eu fetio.