Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae amrywiaeth a phrofiadau gwahanol y Gwnstabliaeth Wirfoddol yn helpu gwasanaeth yr heddlu i gynrychioli'r cymunedau a wasanaethir. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â swyddogion llawn amser, ac yn gwisgo yr un wisg â nhw (heblaw am yr ysgwyddarnau wedi'u marcio fel SC (Cwnstabl Gwirfoddol), a byddwch yn gallu gyrru cerbydau'r heddlu.
Os byddwch yn cael eich recriwtio'n llwyddiannus, byddwch yn cael hyfforddiant ffurfiol. Bydd manylion y cwrs yn cael eu cwblhau cyn eich dyddiad dechrau a bydd yn cynnwys rhai sesiynau hyfforddiant gyda'r nos ac ar benwythnosau yn achlysurol. Bydd eich penodiad ar gyfnod prawf am ddwy flynedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw bydd angen i chi gwblhau pob elfen o'ch hyfforddiant a'ch ardystio i batrolio'n annibynnol.
Yn y sesiynau hyfforddiant byddwch yn cael dealltwriaeth dda o sawl agwedd ar blismona. Byddwch yn dysgu am:
Mae gennym ymrwymiad cryf i gydraddoldeb ac amrywiaeth yn y sefydliad ac yn y gwasanaeth a ddarperir gennym. Ein nod yw hyrwyddo a chyflawni gweithlu cwbl gynhwysol i adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae Heddlu De Cymru yn croesawu'n benodol ymgeiswyr o grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli.
Mae Heddlu De Cymru yn falch o weithio o dan fenter gweithredu cadarnhaol i gefnogi'r rheini o grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli. Os ydych yn dod o gefndir amrywiol a bod gennych ddiddordeb mewn ymuno â ni, cysylltwch â'n Tîm Gweithlu Cynrychioliadol.