Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Hoffem sicrhau mai ni yw'r gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau. Er mwyn gwneud hyn, rydym am i'r ymgeiswyr gorau o ystod eang o gefndiroedd wneud cais i ddod yn rhan o'n teulu plismona.
Mae gennym ymrwymiad cryf i gydraddoldeb ac amrywiaeth yn y sefydliad ac yn y gwasanaeth a ddarperir gennym. Ein nod yw denu, recriwtio, cefnogi a hyrwyddo unigolion talentog sy'n cynrychioli'r cymunedau amrywiol rydym yn eu gwasanaethu ledled De Cymru. Er mwyn gwerthfawrogi gwahaniaethau, mae'n rhaid i ni fod yn gynhwysol: rydym yn cydnabod bod pobl sydd ag amrywiaeth o sgiliau, agweddau a phrofiadau o gefndiroedd a diwylliannau amrywiol yn gallu cynnig syniadau a safbwyntiau newydd. Bydd annog a harneisio'r gwahaniaethau hyn yn gwella Heddlu De Cymru ac rydym yn ymrwymedig i gyflawni gweithlu sy'n cynrychioli'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Wrth ddarparu ein gwasanaeth plismona, mae'n hanfodol ein bod yn meithrin ymddiriedaeth a hyder ein holl gymunedau ac yn hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant i bawb.
Rydym yn annog unigolion o grwpiau a chymunedau sydd wedi'u tangynrychioli i fanteisio ar ein cyfleoedd recriwtio a datblygu. Fel y caniateir yn neddfwriaeth cydraddoldeb cyflogaeth y DU, rydym yn falch o ddilyn polisi Gweithredu Cadarnhaol i'n helpu i gyflawni hyn.
Os hoffech siarad â rhywun am ymgyrchoedd recriwtio sydd i ddod, cyfleoedd a'r cymorth sydd ar gael i chi, cysylltwch â'n tîm Gweithredu Cadarnhaol yn [email protected].
Mae gweithredu cadarnhaol yn cyfeirio at ystod o fesurau a mentrau y gall cyflogwyr eu dilyn yn gyfreithlon er mwyn annog unigolion o grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli i wneud ceisiadau am swyddi.
Mae sicrhau gwahaniaethau gwirioneddol yn nheulu'r heddlu yn arwain at safbwyntiau gwahanol sy'n ein helpu i ddeall ein cymunedau yn well. Drwy wneud hyn, gallwn fod yn arloesol ac ymateb i anghenion ein cymunedau sy'n newid o hyd.
Mae ein tîm Gweithredu Cadarnhaol, sy'n cynnwys swyddogion yr heddlu sy'n gwasanaethu a staff yr heddlu, wrth law i gynnig cymorth i ddarpar ymgeiswyr sydd â nodweddion gwarchodedig. Gallant gynnig cymorth wedi'i deilwra, un i un weithiau, i'ch arwain dwy'r broses gwneud cais. Gallant eich helpu i oresgyn unrhyw rwystrau rydych yn teimlo eich bod yn eu hwynebu, ni waeth pa adran o deulu'r heddlu rydych yn ystyried ymuno â hi.
Ar hyn o bryd, nid oes digon o ymgeiswyr o leiafrifoedd ethnig nac ymgeiswyr benywaidd i gynrychioli rolau mewn lifrai yn Heddlu De Cymru. Rydym felly'n rhoi croeso arbennig i geisiadau, a'r cyfle am sgwrs anffurfiol, gydag unigolion sy'n nodi eu bod yn bobl sy'n meddu ar y nodweddion gwarchodedig hyn.
Ar hyn o bryd, nid oes digon o ymgeiswyr o gefndiroedd ethnig lleiafrifol i gynrychioli rolau mewn lifrai yn Heddlu De Cymru. O ganlyniad, gallwn gynnig cymorth Gweithredu Cadarnhaol ym mhob agwedd ar ein proses recriwtio i ymgeiswyr sy'n ystyried eu bod yn perthyn i gymuned ethnig leiafrifol yn cynnwys mynychu digwyddiadau uwchsgilio. Fel rhan o'n gweithgarwch gweithredu cadarnhaol, rydym yn cynnal nifer o sesiynau uwchsgilio sydd wedi eu cynllunio i gefnogi ymgeiswyr o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig sy'n awyddus i ymuno â Heddlu De Cymru. Mae'r sesiynau uwchsgilio hyn wedi'u teilwra i'r broses ymgeisio ar gyfer pob rôl.
5:30pm - 7:30pm, Llun 13 Mawrth 2023
Pencadlys yr Heddlu, Heol y Bont-faen, Pen-y-bont ar Ogwr
Bydd y sesiwn hon yn trafod yr Holiadur Arddulliau Ymddygiad (BSQ) a'r Prawf Barn Sefyllfaol (SJT). Mae'r ddau brawf hyn yn rhan o bob cais am swydd Cwnstabl yr Heddlu, Ditectif, PCSO a Chwnstabl Gwirfoddol.
5:30pm - 7:30pm, Maw 18 Ebrill 2023
Pencadlys yr Heddlu, Heol y Bont-faen, Pen-y-bont ar Ogwr
Bydd y sesiwn hon yn trafod yr Holiadur Arddulliau Ymddygiad (BSQ) a'r Prawf Barn Sefyllfaol (SJT). Mae'r ddau brawf hyn yn rhan o bob cais am swydd Cwnstabl yr Heddlu, Ditectif, PCSO a Chwnstabl Gwirfoddol.
I wneud cais i gymryd rhan yn y sesiwn uwchsgilio, e-bostiwch [email protected] Rhaid i chi gynnwys y canlynol yn yr e-bost:
Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i gwblhau gwiriad cychwynnol o gymhwysedd ar gyfer y rôl rydych yn gwneud cais amdani ac i gadarnhau eich bod yn gymwys i gael cymorth gweithredu cadarnhaol.
Ar gyfer unrhyw unigolion eraill sy'n teimlo y byddent yn elwa ar gymorth ychwanegol - yn cynnwys ymgeiswyr benywaidd - cysylltwch â'r tîm Gweithredu Cadarnhaol ar [email protected] i drafod eich anghenion a'r cymorth y gallwn ei gynnig i chi.
Edrychwch hefyd ar ein tudalen canllawiau ar ymgeisio ar gyfer rôl Swyddog yr Heddlu a'n tudalen canllawiau ar ymgeisio ar gyfer rôl Staff yr Heddlu i gael rhagor o wybodaeth.