Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn gyflogwr cyfle cyfartal ac yn benderfynol o ddenu, cyflogi a chefnogi gweithlu sy'n cynrychioli'r gymdeithas amrywiol a wasanaethir ganddo. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau amgylchedd gwaith lle nad oes achosion o aflonyddu, bygwth, bwlio nac erlid.
Croesewir ceisiadau gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol a bydd cymorth ar gael i bob ymgeisydd ar gais.
Ein nod hefyd yw sicrhau bod ein holl arferion cyflogi, gan gynnwys y broses recriwtio, yn cael eu rhoi ar waith yn gyson ac yn deg. Rydym yn disgwyl i bob aelod o staff sy'n rhan o'r broses recriwtio rannu'r ymrwymiad hwn. Mae'r aelodau o staff a'r aseswyr sy'n rhan o'n prosesau recriwtio wedi'u hyfforddi i adlewyrchu ein safonau uchel, ac mae angen iddynt gwblhau hyfforddiant ar Ragfarn Ddiarwybod. Mae hyn yn sicrhau y caiff egwyddorion y Ddeddf Cydraddoldeb eu dilyn.
Mae Heddlu De Cymru yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd (Lefel 2) o dan Gynllun Hyderus o Ran Anabledd yr Adran Gwaith a Phensiynau. Rydym yn croesawu ceisiadau a datganiadau o ddiddordeb gan unrhyw un sydd ag anabledd ac, yn unol â'n polisïau sy'n cefnogi hyn, rydym yn gwarantu y byddwn yn cyfweld â phob ymgeisydd ag anabledd sy’n bodloni gofynion sylfaenol Proffil y Rôl.
Gwahoddir ymgeiswyr i ddarparu data cyfle cyfartal fel rhan o'u ffurflen gais at ddibenion monitro. Bydd y wybodaeth a ddarperir yn gwbl gyfrinachol ac ni fydd yn effeithio ar eich cais o gwbl: caiff ei thynnu oddi ar eich cais ar ôl iddo ddod i law ac ni fydd ar gael i'r rhai sy'n asesu eich cais. Nid oes rhaid i chi ddarparu'r wybodaeth hon, ond bydd yn ein helpu i sicrhau cyfle cyfartal.
Ein haddewid yw:
Os bydd angen i chi gael ein gwybodaeth cydraddoldeb mewn fformat arall, cysylltwch â ni i ofyn amdani neu i drafod eich anghenion.