Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion a gaiff eu gwarchod gan y gyfraith ac ymddygiad sy'n anghyfreithlon. Y naw nodwedd warchodedig a gwmpesir o dan y Ddeddf yw:
Drwy Ddeddf Cydraddoldeb 2010, sefydlwyd Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus. Daeth hyn i rym ar 5 Ebrill 2011.
Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn rhoi cyfarwyddyd ar yr ymrwymiad sydd gan gyrff Gwasanaethau Cyhoeddus mewn perthynas â gweithredu'r tri phrif nod fel y'u nodir yn Adran 149 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010. I grynhoi, mae'r rhain yn ei gwneud yn ofynnol i'r Heddlu, wrth ymarfer a gweithredu, ystyried yr angen i wneud y canlynol:
Wrth ymrwymo i hyn, mae Heddlu De Cymru yn cyhoeddi Cynllun Cydraddoldeb ar y Cyd mewn partneriaeth â Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru.
Caiff y ddogfen hon ei hadolygu bedair blynedd fan bellaf o'r dyddiad cyhoeddi diwethaf, a'i nod yw paratoi a chyhoeddi Amcanion Cydraddoldeb sy'n benodol ac yn fesuradwy.
Gallwch weld y Cynllun Cydraddoldeb ar y Cyd yma
Fel rhan o'n strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ehangach, mae Heddlu De Cymru hefyd wedi cyhoeddi Cynllun Cydraddoldeb Hiliol ar y Cyd mewn partneriaeth â Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru.
Mae'r cynllun hwn yn amlinellu'r ffordd y bydd Heddlu De Cymru yn hyrwyddo cydraddoldeb hiliol ac yn mynd i'r afael â gwahaniaethau ar sail hil ym mhob un o'i wasanaethau ac ymhlith ei weithlu.
Gallwch weld y Cynllun Cydraddoldeb Hiliol ar y Cyd yma
Os bydd angen i chi gael ein gwybodaeth cydraddoldeb mewn fformat arall, cysylltwch â ni i ofyn amdani neu i drafod eich anghenion.