Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gallwn gymeradwyo addasiadau rhesymol yn ein canolfannau asesu ar gyfer ymgeiswyr a all ddarparu adroddiad diagnostig llawn i oedolion. Os na allwch ddarparu adroddiad fel rhan o'ch cais, byddwch yn ymwybodol efallai na fydd modd ystyried addasiadau rhesymol ar gyfer yr elfennau hyn.
Mae'n bwysig bod ymgeiswyr yn ystyried a hoffent ofyn am drefniadau a fydd yn eu helpu i gwblhau elfennau o'r broses recriwtio. Gallai hyn fod mewn perthynas ag anabledd, niwroamrywiaeth, beichiogrwydd, menopos, anaf, crefydd neu gred ac ati. Gall enghreifftiau o drefniadau y gellir eu darparu gynnwys cynnal cyfweliadau mewn ystafelloedd ar y llawr gwaelod yn unig, lwfansau i unigolion sy'n feichiog aros mewn rhestrau recriwtio nes eu bod yn teimlo y gallant barhau yn y broses recriwtio neu roi amser ychwanegol i unigolion â dyslecsia.
Os hoffech ofyn am drefniadau i gael cymorth neu wybodaeth bellach, cysylltwch â'n Tîm Recriwtio Adnoddau Dynol; dylai hyn fod cyn i chi gyflwyno cais lle y bo'n bosibl.
Caiff unrhyw geisiadau cyswllt neu wybodaeth a dderbynnir sy'n ymwneud ag addasiadau ac ystyriaethau rhesymol eu trin yn gwbl gyfrinachol.
Os bydd angen i chi gael ein gwybodaeth cydraddoldeb mewn fformat arall, cysylltwch â ni i ofyn amdani neu i drafod eich anghenion.