Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn monitro effaith y feirws ar ein gweithgareddau recriwtio yn ofalus.
Hoffem eich sicrhau chi bod eich diogelwch chi yn bwysig iawn i ni, ac rydym yn cymryd camau i leihau'r risg i bawb sy'n ymwneud â gweithgareddau recriwtio.
Cyfweliadau – pan fo modd, cynhelir y rhain dros SKYPE. Sylwer y byddwn yn gofyn am gyfweliad wyneb yn wyneb mewn rhai amgylchiadau ac os felly, dilynir amodau llym ar gyfer cadw pellter cymdeithasol.
Oherwydd COVID 19, addaswyd prosesau penodol dros dro.
Wrth baratoi i fynychu safleoedd ac adeiladau'r heddlu, gofynnwn i chi adolygu Canllawiau y Llywodraeth a GIG ynghylch y Coronafeirws.
Ni ddylech fynychu ychwaith os bydd gennych chi unrhyw Symptomau COVID 19 neu os byddwch wedi cael eich cynghori i hunanynysu.
Cynghorwyd yr ymgeiswyr hynny sy'n ddigon iach i fynychu i ddilyn y cyngor ynghylch hylendid da, gan gynnwys golchi eu dwylo yn rheolaidd:
Mawr obeithiwn y bydd y camau yr ydym yn eu cymryd yn cynnig hyder ein bod yn lleihau unrhyw risgiau posibl gymaint ag y bo modd trwy gynnwys mesurau hylendid a chadw pellter.
Sylwer y gallai'ch apwyntiad newid a byddwn yn parhau i fonitro cyngor y llywodraeth. Os bydd gennych chi unrhyw amheuon neu bryder, NI DDYLECH FYNYCHU. Cysylltwch â ni cyn gynted ag y bo modd trwy ffonio neu anfon neges e-bost.