Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Bwrsariaeth PPD Heddlu De Cymru yn cynnig hyd at £4,000 er mwyn talu am y broses cyn gwneud cais, astudio ym mlynyddoedd 1-3 ar gwrs Gradd Plismona Proffesiynol mewn un o'r Prifysgolion a enwir o fewn y Cylch Gorchwyl ac yna'r cais i Heddlu De Cymru.
Gwasanaethir poblogaeth leol o oddeutu 1.3 miliwn o bobl gan Heddlu De Cymru, gyda 6.7% ohonynt o gefndiroedd Du, Asiaidd neu Ethnig Leiafrifol. Fodd bynnag, 3.5% yn unig o'n swyddogion heddlu sydd o gefndiroedd ethnig lleiafrifol a 2.9% yw'r gynrychiolaeth ar draws yr heddlu. Rydym yn gweithio i fynd i'r afael â'r tangynrychiolaeth hwn er mwyn i ni allu gwasanaethu ein cymunedau amrywiol yn well.
Er mwyn mynd i'r afael â'r tangynrychiolaeth hwn, mae Heddlu De Cymru yn gweithio gyda'r prifysgolion lleol yng Nghymru sy'n cyflwyno'r cwrs Gradd Plismona Proffesiynol a bydd yn ariannu cynllun bwrsariaeth ar gyfer myfyrwyr ethnig lleiafrifol ar y cwrs PPD fel rhan o fenter gweithredu cadarnhaol. Dysgwch fwy am y ffordd rydym yn gweithio i sicrhau Gweithlu Cynrychioladol.
Er mwyn i unrhyw fyfyriwr gael ei dderbyn ar Gynllun Bwrsariaeth PPD Heddlu De Cymru, mae'n rhaid iddo:
Lawrlwythwch y Cylch Gorchwyl ar gyfer Bwrsariaeth PPD Heddlu De Cymru.
Nid ydym yn derbyn ceisiadau ar hyn o bryd.
Rydym yn croesawu ceisiadau o ddechrau mis Mehefin hyd at ddiwedd mis Medi pob blwyddyn.
Anfonwch unrhyw gwestiynau yn uniongyrchol at [email protected]