Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae pob defnydd o gyffuriau yn bwysig; mae pawb yn dechrau yn rhywle, yn defnyddio mwy ac yn datblygu eu goddefiad, ac mae'r effaith ar eu bywyd yn cynyddu. Mae angen i ni ei atal yn gynnar.
- Arweinydd cyffuriau Heddlu De Cymru, Ditectif Uwch-arolygydd Gareth Morgan
“Os nad yw pobl yn gwybod beth maen nhw'n ei gymryd, gall fod yn risg enfawr.”
- Uned Ymchwiliadau Gwyddonol ar y Cyd
Ymunais â'r fyddin yn 16 oed. Roedd fy mam yn magu ei phlant ar ei phen ei hun, felly penderfynais ymuno â'r fyddin i ennill rhywfaint o arian i'w anfon adref at fy mam.
Yn ystod un o fy nheithiau dyletswydd olaf yng Ngogledd Iwerddon, tra oeddwn ar batrôl, cefais fy rhoi mewn car ac, i bob pwrpas, fy smyglo oddi ar y stryd. Ni chefais wybod beth oedd yn digwydd ond cefais fy nghludo'n ôl adref mewn awyren, ac roeddwn i gyda fy mab lai na phedair awr ar ôl bod ar batrôl. Roeddem ni'n poeni ei fod yn marw – roedd ganddo septisemia. Roedd yn brofiad mor drawmatig. Goroesodd fy mab, diolch byth, ond roedd hyn yn drobwynt i mi.
Ac yna cynigiodd rhywun sbîd i mi, a doedd dim troi'n ôl wedyn. Cymerais rywfaint bob dydd. O fewn cyfnod byr, roeddwn i wedi gadael y fyddin ac roedd fy ngwraig wedi fy ngadael. Doeddwn i ddim yn gwybod sut i ymdopi.
Rwy'n cofio edrych i lawr ar bobl a oedd yn cymryd crac cocên – ond wedyn llithrais innau i lawr hefyd.
Rwy'n cofio un Noswyl Nadolig. Roeddwn i mewn ystafell gyda matres yn y gornel. Doeddwn i ddim yn gallu fforddio trydan, felly roedd gen i gannwyll a bocs bach o Quality Street. Doedd neb arall am fod gyda fi. Dywedais wrthyf fi fy hun, ‘Mae'n rhaid i mi wneud rhywbeth’. Doeddwn i ddim yn fi fy hun, ac nid dyna sut roeddwn i am fod – roedd yn rhaid i mi newid.
Penderfynais symud o Abertawe i Lundain, a phan oeddwn i yno cofrestrais ag Alcoholics Anonymous a Narcotics Anonymous. Gwnes ymdrech wirioneddol – i'r fath raddau y byddwn i'n cerdded i gyfarfod 15 milltir i ffwrdd pe na bai gen i arian. Dechreuais wneud rhywfaint o gynnydd. Dechreuais wella. Cyrhaeddais garreg filltir wyth mis heb gyffuriau, wedyn blwyddyn, cyn symud yn ôl i Abertawe. Ers hynny, rwyf wedi llwyddo i ddringo'r ysgol yrfa i ble rwyf fi heddiw, gyda chyfrifoldeb rheolwr yn fy niwydiant.
Chefais i erioed fy magu o gwmpas cyffuriau a doeddwn i erioed wedi'u cymryd nes oeddwn yn fy 20au. O'r tro cyntaf i mi gymryd cyffuriau tan yr eiliad y rhoddais i'r gorau iddi, roeddwn yn gwybod bod yr hyn roeddwn i'n ei wneud yn anghywir. Doedd yr holl beth ddim yn cyd-fynd â fy ‘naratif’ fy hun. Cyrhaeddais bwynt mor isel ar un adeg fel y gofynnais i rywun dorri fy mraich er mwyn i mi allu gwneud hawliad anaf personol. Ar y pryd, doedd y boen ddim yn fy mhoeni – dim ond cael arian oedd yn bwysig i mi.
Wrth gwrs, doeddwn i ddim yn llwyddiannus. Nid dyna sut mae'r pethau hyn yn gweithio. Dyna wallgofrwydd y byd camddefnyddio sylweddau, troseddu a thrais roeddwn i'n byw ynddo. Roeddwn i'n gwybod nad oeddwn i am fod yn rhan o'r byd hwnnw mwyach. Sylweddolais fod rhaid i mi wneud iawn am lawer o ddifrod a chymodi â phobl. Roeddwn i'n gwybod y byddwn i'n gwneud hynny ryw ddydd – ond doeddwn i ddim yn gwybod pryd. Ond dydw i ddim wedi cymryd cyffuriau ers 18 mlynedd bellach.
Mae'n fyd trist, unig a pheryglus. Es i i lawer iawn o leoedd tywyll. Ond rwyf wedi cefnu ar yr unigrwydd ac wedi troi'n ôl at fy nheulu, mynd ar wyliau a threulio amser gyda'r plant. Rwy'n teimlo fel pe bai gen i fanc – nid yn llawn arian, ond y pethau sy'n bwysig i mi. Mae llawer wedi cael ei fuddsoddi yn fy adferiad. Mae gen i gyfrifoldebau – o'r blaen, fyddwn i ddim wedi gallu cadw fy hun ar y llwybr cywir, hyd yn oed.
Mae fy neges i unrhyw un arall sy'n mynd drwy'r hyn rwyf fi wedi bod drwyddo yn gymharol syml: mae yna ateb bob amser, a'r hyn sy'n bwysig yw sut i gyrraedd yno. Does mo'r fath beth â man di-droi'n-ôl. Efallai y bydd rhai sefyllfaoedd yn anoddach nag eraill, ond mae yna ffordd yn ôl bob amser.
Treuliwch amser gyda'r bobl hynny sy'n gallu eich cefnogi a'ch amddiffyn. Rhaid cynnal gobaith, a pheidio â rhoi'r ffidil yn y to.
- Steve (nid ei enw go iawn), sydd yn ei 50au, o Dde Cymru
Mae cyffuriau yn effeithio ar bawb, p'un a ydych yn eu defnyddio ai peidio. Ond faint wyddoch chi am gyffuriau, y peryglon, a'r hyn a wneir gan Heddlu De Cymru a'i bartneriaid i ddelio â'r broblem?
Dysgwch fwy gyda'n ffeithiau #UchelOndYnIsel 👇
Mae Dan 24/7 yn llinell gymorth cyffuriau sy'n gyfrinachol ac am ddim. Mae'r gwasanaeth ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Rhadffôn 0808 808 2234 neu tecstiwch DAN i 81066.
Gallwch gysylltu â Taclo'r Tacle yn ddienw: crimestoppers-uk.org neu 0800 555 111.
I gysylltu â Heddlu De Cymru: